Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan wedi croesawu datblygiad cyfleusterau gofal llygaid newydd a fydd yn cynyddu nifer y cleifion sy'n cael triniaeth gofal llygaid ac yn lleihau amseroedd aros.

Gyda chymorth buddsoddiad gan y cynllun i ariannu adferiad y GIG, mae byrddau iechyd yng Nghymru yn gwneud gwaith arloesol i wella mynediad at ofal llygaid. Er gwaethaf y pwysau parhaus ar y GIG, rhwng mis Tachwedd 2021 a mis Rhagfyr 2021, gostyngodd nifer y cleifion offthalmoleg risg uchaf sy'n aros am apwyntiad claf allanol ychydig dros 2,000.

Er mwyn darparu ar gyfer y nifer cynyddol o gleifion sydd angen gofal llygaid, gweithiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd i ailystyried sut y darparwyd gofal llygaid i boblogaeth Caerdydd a'r Fro. Mewn 100 diwrnod yn unig, sefydlwyd Canolfan Gofal Llygaid Prifysgol GIG Cymru yng Nghaerdydd i wella mynediad at ofal llygaid a chefnogi'r broses o adfer gwasanaethau i lefelau cyn y pandemig.

Gyda'r galw am wasanaethau gofal llygaid yn tyfu, mae Canolfan Gofal Llygaid Prifysgol GIG Cymru yng Nghaerdydd yn un enghraifft o sut y mae GIG Cymru yn lleihau'r amser aros i bobl sydd ag anghenion gofal llygaid brys neu gymhleth gael eu gweld yn yr ysbyty. Mae’n gwneud hynny drwy gynnal triniaethau gofal llygaid mewn lleoliad gofal sylfaenol.

Mae Canolfan Gofal Llygaid Prifysgol GIG Cymru yn darparu hyfforddiant ychwanegol i uwchsgilio Optometryddion i'w galluogi i weld amrywiaeth ehangach o bobl a fyddai'n draddodiadol wedi gorfod cael eu gweld yn yr ysbyty. Mae'r Ganolfan, ar y cyd â'r Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg ym Mhrifysgol Caerdydd, ar hyn o bryd yn darparu hyfforddiant i naw Optometrydd ennill y cymwysterau uwch mewn dulliau trin Glawcoma. Wrth fynychu'r clinig un diwrnod yr wythnos, mae'r Optometryddion sy'n astudio ar gyfer y cymhwyster yn gweld dros 35 o gleifion yr wythnos mewn lleoliad clinigol wrth iddynt weithio tuag at eu dyfarniad. Yn dilyn llwyddiant yr hyfforddiant, disgwylir i ddeuddeg Optometrydd arall ddechrau hyfforddi i ennill y Dystysgrif Uwch mewn Retina Meddygol ym mis Mawrth. Bydd y myfyrwyr hyn yn gweld dros 50 o gleifion yr wythnos. 

Mae'r gwasanaeth gofal llygaid cynaliadwy hwn wedi caniatáu i fwy o gleifion gael eu trin yn effeithlon, derbyn gofal yn lleol iddynt ac o fewn amserlen na fydd yn eu rhoi mewn perygl o golli eu golwg ymhellach. O fis Medi ymlaen, bydd 2,700 o gleifion eraill yn cael eu gweld yng Nghanolfan Gofal Llygaid Prifysgol GIG Cymru bob blwyddyn.

Yn ogystal, bydd dwy theatr lawfeddygol newydd yn benodol ar gyfer llawdriniaethau cataract yn cael eu cwblhau'r mis hwn ac yn weithredol ym mis Mawrth 2022. Bydd y theatrau newydd hyn yng Nghaerdydd, sydd wedi'u hariannu gan £1 miliwn gan Lywodraeth Cymru, yn cynyddu nifer y llawdriniaethau cataract i 427 y mis, o 60 y mis ar gyfartaledd ar hyn o bryd. Bydd y capasiti cynyddol yn golygu y bydd 227 yn llai o bobl y mis ar restrau aros am ofal llygaid.

Mae Ysbyty Singleton yn Abertawe hefyd wedi cyhoeddi y bydd theatr llawdriniaethau newydd yn benodol ar gyfer llawdriniaethau offthalmoleg yn agor yn yr haf. Bydd y theatr fodiwlaidd newydd yn galluogi'r bwrdd iechyd i gynnal tua 200 o lawdriniaethau ychwanegol y mis.

Mae clinigau cymunedol wedi cael eu sefydlu ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg a Bwrdd Iechyd Hywel Dda. Mae'r clinigau cymunedol hyn wedi lleihau'r angen i rai pobl fynd i'r ysbyty a’u galluogi i gael triniaeth yn nes at eu cartrefi.  Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi galluogi mwy o gleifion i gael eu gweld yn nes at adref drwy gefnogi gwasanaethau ychwanegol yn y gymuned gan ddefnyddio sgiliau ac arbenigedd staff mewn practisau optometreg.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn y galw am wasanaethau offthalmoleg dros y blynyddoedd diwethaf. Dydyn ni ddim eisiau i bobl fod mewn perygl o golli eu golwg oherwydd bod rhaid iddyn nhw aros am amser hir am driniaeth. Mae gwella mynediad at driniaeth yn hanfodol os ydym am leihau amseroedd aros a sicrhau bod gwasanaethau gofal llygaid yn addas ar gyfer y dyfodol.

Mae'n wych gweld y gwaith arloesol y mae byrddau iechyd yn ei wneud a'r cynnydd sy'n cael ei wneud i sicrhau bod y rhai sydd â'r risg uchaf o glefyd llygaid yn cael y driniaeth a'r gofal parhaus rheolaidd sydd eu hangen arnyn nhw. Rydyn ni wedi nodi ers tro ein huchelgais i drawsnewid y ffordd rydyn ni’n darparu gwasanaethau i ateb y galw yn y dyfodol. Mae clinigau cymunedol, y theatrau ychwanegol a Chanolfan Gofal Llygaid Prifysgol GIG Cymru yng Nghaerdydd a'r Fro yn enghraifft wych o'r weledigaeth hon.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, Prifysgol Caerdydd, yr Athro John Wild:

Mae hon yn enghraifft gyffrous o sut y mae Cymru yn ymateb i heriau'r galw cynyddol am ofal llygaid. Mae Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg, Prifysgol Caerdydd yn helpu i leihau’r rhestr aros bresennol ac, ar yr un pryd, yn falch o fod ar flaen y gad o ran gwella addysg optometrig drwy gynnig cyfleoedd dysgu unigryw yn y clinigau arbenigol hyn. Bydd y gweithlu optometrig presennol ac yn y dyfodol yn gallu rheoli cleifion sydd â chlefyd llygaid sy'n bygwth eu golwg yn eu practisau ledled Cymru. Mae'r datblygiad arloesol hwn yn darparu ateb cynaliadwy ac nid ateb tymor byr yn unig.

Dywedodd Sharon Beatty, Cynghorydd Optometrig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

Mae'r bartneriaeth greadigol a newydd hon rhwng y Bwrdd Iechyd a Phrifysgol Caerdydd yn dangos sut y gall cydweithio arwain at ofal llygaid gwell i gleifion.