Mae Zip-Clip wrthi'n ceisio cynyddu ei allforion gyda chynlluniau i weld ei werthiannau i weddill y byd yn cyfrif am 60% o'i werthiannau erbyn 2018.
Cafodd cynlluniau rhyngwladol Zip-Clip eu disgrifio gan y pennaeth Steve Goldsworthy yn agoriad swyddogol y ffatri £1.8m newydd ym Mharc Busnes Clawdd Offa yn y Trallwng a gafodd ei hadeiladu gan Lywodraeth Cymru a'i hagor gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.
Mae'r cwmni'n dylunio ac yn cynhyrchu systemau daliant arloesol ar gyfer gosod systemau gwresogi, awyru ac aerdymheru mewn adeiladau diwydiannol a masnachol. Mae 38% o werthiannau'r cwmni yn allforion. Mae hefyd yn cyflenwi'r farchnad drydanol gan arbenigo mewn atgyfnerthiadau Seismig ar gyfer y diwydiant gwasanaethau adeiladu.
Mae gan Zip-Clip dros 50 o ddosbarthwyr trwy'r byd. Roedd llawer ohonyn nhw'n bresennol yn yr agoriad ac mae ganddo gynlluniau i gynyddu ei bresenoldeb dramor.
Eleni, bydd yn agor canolfan ddosbarthu newydd yn Melbourne, yn penodi dau ddosbarthydd yn Japan ac mae eisoes wedi penodi cwmni rhyngwladol sy'n cynhyrchu systemau amgáu ceblau i'w gynrychioli yn Ne America, Portiwgal a Sbaen.
Mae hefyd wrthi'n trafod cynrychiolaeth yn Lithiwania, Latfia ac Estonia ac mae wedi penodi rheolwr masnachol newydd i hybu ei allforion ac i gysylltu â chleientiaid cynhyrchu cyfarpar yn Ewrop.
Mae ei allforion wedi cael hwb hefyd, diolch i help Rhaglenni Cefnogi Allforion Llywodraeth Cymru gan alluogi'r cwmni i ymchwilio i farchnadoedd newydd gan gynnwys Seland Newydd, Awstralia, De Affrica, y Dwyrain Canol, India ac Ewrop.
Gan longyfarch y cwmni ar gynyddu'i allforion, dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
"Dyma enghraifft wych o'r ffordd y gall busnesau bach a chanolig elwa o allforio a chael hyd i farchnadoedd llewyrchus newydd ar gyfer eu cynnyrch. Gall Llywodraeth Cymru gynnig amrywiaeth o help, cyngor a chefnogaeth i dargedu marchnadoedd tramor ac rwy'n falch o weld bod Zip-Clip wedi elwa ar y rhaglenni hyn.
"Rwy'n falch gweld hefyd bod Llywodraeth Cymru'n helpu'r cwmni i ehangu a bod Zip-Clip eisoes yn elwa ar fanteision gweithio
mewn uned fwy gan lwyddo eisoes i ennill contract newydd gwerth mwy na £1m a chyflogi pum aelod newydd o staff i weithio ar yr archebion newydd."
Gyda chyfleuster 17,500 tr sg o faint, mae'r eiddo newydd fwy na dwywaith maint y ffatri flaenorol yn y Drenewydd ac ers symud, mae'r cwmni wedi croesawu ymweliadau o'r Ffindir, yr Eidal, UDA ac Awstralia.
Ychwanegodd y Rheolwr Gyfarwyddwr, Matthew Clay-Michael:
"Heb y ffatri newydd hon, fydden ni ddim wedi gallu hyd yn oed ystyried ehangu a nawr, mae gennym y lle sydd ei angen arnon ni i dyfu a thargedu marchnadoedd newydd. Yn ogystal â sicrhau contract £1m am dair blynedd gyda chynhyrchydd systemau amgáu trydanol rhyngwladol, rydym wrthi'n trafod â chynhyrchydd mwya'r byd o gynhyrchion goleuo i wneud system daliant goleuo pwrpasol.
"Gwelon ni 24% o dwf yn ein gwerthiannau yn y DU a thramor y llynedd a'r bwriad yw sicrhau o leiaf 15% o dwf bob blwyddyn dros y tair blynedd nesaf. Mae hyn yn bosib, diolch i'n cyfleusterau newydd a'r cynhyrchion newydd rydyn ni'n eu datblygu."
Mae cynhyrchion Zip-Clip wedi cael eu defnyddio mewn adeiladau blaenllaw trwy'r byd - o Ferrari World yn Abu Dhabi i Stadiwm y Dallas Cowboys yn Texas - o'r Kuala Lumpur Tower yn Malaysia i The Gherkin a'r Shard yn Llundain.