Bydd buddsoddiad gwerth £45 miliwn yn fwy na dyblu capasiti ailbrosesu plastig Cymru ac yn creu dros 100 o swyddi newydd yn hen ffatri Toyoda Gosei yn Abertawe.
Bydd Jayplas, arweinydd y farchnad mewn ailbrosesu plastig, yn datblygu cyfleuster lefel uwch sy'n gallu prosesu o leiaf 100,000 o dunelli o blastigau hyblyg ac anhyblyg y flwyddyn, gan roi hwb i'r economi gylchol yng Nghymru.
Unwaith y bydd ar waith yn llawn, bydd yn lleihau ôl troed carbon Cymru o tua 150,000 o dunelli y flwyddyn, sy'n cyfateb i dynnu 120,000 o geir oddi ar y ffordd, gan wneud cyfraniad sylweddol tuag at fod yn ddiwastraff ac allyriadau sero net erbyn 2050.
Bydd y cyfleuster yn datblygu dros dri cham:
- cyfarpar didoli plastigau anhyblyg a ffilm cymysg ar ymyl y ffordd
- cyfarpar golchi poteli ac allwthio
- cyfarpar golchi a phrosesu pecynwaith hyblyg
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Rwy'n falch iawn o groesawu Jayplas i Abertawe ar gyfer y datblygiad sylweddol hwn a'r bleidlais o hyder yn ein gweithlu a'n huchelgeisiau sero net.
"Mae cynyddu capasiti o ran ailbrosesu ac ailgylchu plastig yma yng Nghymru yn agor cyfleoedd i greu diwydiant arloesol a chynaliadwy. Mae'r prosiect hwn yn cynnwys creu swyddi medrus a gwyrdd sylweddol, yn cefnogi ein taith ddatgarboneiddio, yn cynyddu ein capasiti o ran ailbrosesu ac ailgylchu ac yn cefnogi economi gryfach, tecach a gwyrddach.“
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
“Rwy'n falch iawn o weld y cyfleuster hwn yn cael ei ddatblygu yng Nghymru. Mae'n cyd-fynd â'n hymrwymiad i symud at Gymru ddiwastraff, carbon sero net ac mae'n amserol iawn wrth i ni weithio i ddod â'r Rheoliadau newydd ar Ailgylchu yn y Gweithle i rym ym mis Ebrill y flwyddyn nesaf, a fydd yn gwella'r cyflenwad o blastig o ansawdd uchel ar gyfer ailgylchu ymhellach.”
Dywedodd y Rheolwr Masnachol, Kerry O'Neill o Jayplas:
“Mae'n bleser gan Jayplas gyhoeddi ein bod yn agor safle Gweithgynhyrchu a Phrosesu Plastigau yn Abertawe. Rydym wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ehangu ein gweithrediadau i Gymru. Byddwn yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf o'r radd flaenaf i sicrhau bod gennym gyfleusterau sy'n arwain y farchnad, gan cynhyrchu'r cynhyrchion o'r ansawdd uchaf, ac yn dod â buddsoddiad hirdymor a chyflogaeth gynaliadwy i'r ardal.”
Dywedodd Shigenori Matsuo, Rheolwr Gyfarwyddwr Toyoda Gosei Ltd. (TGUK):
"Rydym yn falch iawn fod TGUK wedi creu gwaddol hirdymor ar gyfer y safle yn Abertawe er mwyn creu sylfaen gadarn i Jayplas ddatblygu cyfleuster o’r radd flaenaf, buddsoddiad, twf a chyflogaeth yn yr ardal."