Mae GwerthwchiGymru am elwa ar system mewngofnodi newydd wedi'i symleiddio o'r enw ‘Sign On Cymru’.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Mae'r system newydd yn golygu mai dim ond un enw defnyddiwr a chyfrinair y bydd eu hangen ar bob unigolyn er mwyn cael mynediad at wasanaethau cymorth busnes digidol. Bydd hyn yn cynnwys Busnes Cymru, Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS), Cofrestr Rhanddeiliaid, Cyfeiriadur Busnes a phorth GwerthwchiGymru.

Bydd y cyfleuster mewngofnodi newydd yn haws ei ddefnyddio na'r system bresennol sy'n gofyn am nifer o fanylion mewngofnodi ar gyfer pob gwasanaeth a ddefnyddir o fewn casgliad Busnes Cymru o wasanaethau digidol.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch - Sell2Waleshelp@llyw.cymru