Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Mwy o Swyddi

Mae un o brif ddarparwyr gwasanaethau teiars Cymru ar fin agor cyfleuster newydd a fydd yn rhoi bywyd newydd i hen deiars, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Tuf Treads, yn Sir Gaerfyrddin, yn achub hen deiars rhag cyrraedd safleoedd tirlenwi drwy eu defnyddio i gynhyrchu teiars premiwm wedi eu hail-wadnu gan ddefnyddio'r dechnoleg weithgynhyrchu ddiweddaraf. Mae ail-wadnu yn rhoi dechrau newydd i deiars addas unwaith y bydd y gwadn gwreiddiol wedi gwisgo.

Wedi'i leoli ar Safle Cyflogaeth Strategol Cross Hands, bydd y ffatri newydd yn creu 30 o swyddi newydd.

Mae'r prosiect yn cael ei gefnogi gan £400,000 gan Gronfa Dyfodol yr Economi a £220,000 o Gyllid Economi Gylchol gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:

Bydd y cyfleuster newydd hwn yn llenwi bwlch yn y farchnad ar gyfer busnes llwyddiannus Tuf Treads – gan arbed hyd at 30kg o rwber, 20kg o ddur a 60kg o CO2 o safleoedd tirlenwi bob tro y caiff teiar lori neu fws ei hail-wadnu.

Natur arloesol a chynaliadwy y gwasanaeth hwn yw'r union fath o arfer busnes yr ydym am ei gefnogi wrth i ni feithrin economi wyrddach wedi'i seilio ar ddiwydiannau'r dyfodol.

Bydd hefyd yn creu swyddi o ansawdd da, gan helpu i yrru ffyniant ac arfogi pobl â'r sgiliau cywir ar gyfer ein byd sy'n newid.

Dywedodd Cyfarwyddwr Tuf Treads, Dan Rees:

Fel cwmni balch o Gymru, mae Tuf Treads yn falch iawn o fod wedi gallu tyfu ei fusnes dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym yn ddiolchgar am gyfraniad Llywodraeth Cymru i'n buddsoddiad o £3 miliwn yn ein ffatri newydd yn Cross Hands.

Ni fydd prif wneuthurwyr teiars o'r radd flaenaf wedi eu hail-wadnu yng Nghymru. Fodd bynnag, i ni, nid ymwneud â datblygu'r busnes yn unig y mae hyn. Yn bwysig, mae hefyd yn golygu creu swyddi newydd, medrus o fewn y gymuned leol a helpu i dyfu economi Cymru.

Yr un mor arwyddocaol yw'r ffordd y mae ein menter newydd yn helpu Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau sero net drwy gynhyrchu teiars o ansawdd uchel o deiars wedi'u hailgylchu, wedi'u defnyddio a fyddai fel arall mewn safleoedd tirlenwi.

Fel dyn lleol o Bontyberem, rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn fy ngallu i helpu ein cymunedau yma a ledled Cymru i ffynnu.