Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi ymweld â Chaerffili i weld sut y mae cronfa Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid y Llywodraeth wedi'i defnyddio i adfywio rhannau o'r dref.
Mae'r Llywodraeth wedi cymeradwyo dros £1.9 miliwn ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili dros 3 blynedd y rhaglen.
Mae'r arian hwn wedi helpu i ddarparu amrywiaeth o brosiectau gan gynnwys cyflawni gwelliannau amgylcheddol i Rowan Place; ailwampio canolfan Hafod Deg sy'n cynnwys Men in Sheds; creu Ardal Chwarae Tŷ Coch; cael gwared ar bont droed adfeiliedig a chanolfan gymunedol segur ym Mharc Lansbury; ailddatblygu canolfan gyngor a darparu cynllun Arbed Ynni Parc Lansbury.
Yn ystod yr ymweliad, agorodd Ysgrifennydd y Cabinet y gweithdy newydd yn swyddogol yng Nghanolfan Adnoddau Hafod Deg yn Rhymni ac ymwelodd â Rowan Place i weld y gwelliannau a oedd yn bosibl diolch i gyllid gan y Llywodraeth.
Dywedodd Carl Sargeant:
"Rwy'n falch o weld sut mae arian y Llywodraeth wedi helpu i wneud gwahaniaeth yn yr ardal hon. Mae'r gwaith a wnaed yn Hafod Deg ac yn Rowan Place yn dangos yr hyn gallwn ei gyflawni drwy weithio mewn partneriaeth. Dyma gyfleuster gwych i'r gymuned leol".