Neidio i'r prif gynnwy

Rydym wedi penderfynu gohirio'r digwyddiad byw Procurex Cymru tan 26 Ebrill 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn sgil sefyllfa barhaus Covid-19, rydym ni a’n partneriaid wedi penderfynu gohirio'r digwyddiad Procurex Cymru fyw a oedd i fod i gael ei gynnal yn y Motorpoint Arena ar 3 Tachwedd eleni tan 26 Ebrill 2022, gyda Gwobrau GO Cymru i ddilyn gyda’r nos.

Gwyddom fod yr oedi'n siomedig gan fod caffael wedi ymateb i gynifer o heriau dros y 18 mis diwethaf ac mae llawer i'w rannu. Felly, rydym yn dod â digwyddiad Cyfleoedd y Llywodraeth - Caffael Cymru 021 i Gymru ar 30 Tachwedd.

Bydd digwyddiad Cyfleoedd y Llywodraeth - Caffael Cymru yn ddiwrnod o rannu gwybodaeth ac arferion gorau ar lwyfan rhithwir. Bydd yn rhoi cyfle i brynwyr a chyflenwyr gael gwybodaeth oddi wrth ei gilydd cyn Procurex Cymru yn ôl yn y Motorpoint Arena y flwyddyn nesaf.

Dilynwch ni ar Twitter @_CaffaelCymru ac ar ein tudalen LinkedIn a chadwch lygad am e-byst gan BiP Solutions i gael manylion cofrestru'r digwyddiad newydd cyffrous hwn dros yr ychydig wythnosau nesaf. Byddwn yn darparu mwy o fanylion yn ein cylchlythyr nesaf.

Gobeithiwn y gallwch fynychu ein digwyddiad rhithwir newydd cyffrous ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn bersonol yn Procurex Cymru yn y gwanwyn.

Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch: CaffaelMasnachol.Cyfathrebu@llyw.cymru