Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y cyfleoedd buddsoddi a’r buddiannau busnes unigryw sydd ar gael yn wyth Ardal Fenter Cymru yn cael eu hybu mewn Gŵyl Ryngwladol sy’n cael ei chynnal yn Lerpwl ar gyfer Busnesau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ardaloedd Menter ar frig yr agenda yn nigwyddiad International Property Forum – Enterprise Britain sydd yn cael ei gynnal ddydd Mercher, 22 Mehefin pan fydd Llywodraeth Cymru yn hybu Ardaloedd sector penodol ledled Cymru.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, a fuodd mewn digwyddiad i agor yr Ŵyl yn gynharach y mis hwn:  

“Mae hwn yn gyfle heb ei ail i hybu’r cynnig unigryw sydd gennym yng Nghymru i gynulleidfa ryngwladol ac i dynnu sylw at fanteision sefydlu busnes yn un o Ardaloedd Menter Cymru.

“Rydym yn Llywodraeth sydd o blaid busnesau ac mae ein Hardaloedd Menter yn adlewyrchu hyn gydag amrywiaeth o fuddiannau a phecynnau cymorth sydd wedi’u dylunio’n arbennig i helpu cwmnïau i ehangu eu busnesau.  Mae disgwyl y bydd dros 30,000 yn bresennol yn yr Ŵyl Ryngwladol a hynny o 100 a mwy o wledydd.  Mae hwn yn gyfle gwych i ni rannu’r neges bwysig bod Ardaloedd Menter Cymru yn creu cyfleoedd newydd i fuddsoddwyr a busnesau.”

Dywedodd Chris Sutton, un o brif Gyfarwyddwyr JLL Cardiff a Chadeirydd Ardal Fenter Canol Caerdydd, sy’n cynrychioli holl Ardaloedd Menter Cymru ar y panel yn y Fforwm, y byddai’r digwyddiad yn hybu ac yn arddangos yr amgylchedd busnes deniadol sy’n bodoli yn Ardaloedd Menter Cymru.

Dywedodd:  

“Yn Ardaloedd Menter Cymru, rydym yn creu amgylchedd busnes deniadol – poethfannau rhanbarthol; mae’r rhain yn hwylus, yn ddynamig ac yn fwy ymatebol na’n cystadleuwyr, rheini yng Nghymru neu Lloegr.

“Mae pob Ardal Fenter yn ganolbwynt i fuddsoddi ynddo ac i greu swyddi.  Mae’n cael gwared ar unrhyw rwystrau ac yn darparu mentrau er mwyn annog cwmnïau i fuddsoddi.

“Mae pob ardal yng Nghymru yn cynnig gwahanol nodweddion ond, gyda’i gilydd, maen nhw’n creu portffolio cytbwys o leoliadau sy’n bodloni amrywiaeth eang o ymholiadau, nid yn unig gan fewnfuddsoddwyr ond gan fusnesau sydd eisoes wedi’u lleoli yng Nghymru hefyd.

“Mae’r Ardaloedd hyn yn lleoliadau gwirioneddol wych i fusnesau a phrosiectau fuddsoddi ynddyn nhw.  Mae sawl stori lwyddiannus iawn yn perthyn i Ardaloedd Menter Cymru - Aston Martin yn Ardal Fenter Sain Tathan, prosiect ynni Egnedol yn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau a Raytheon a Calbee yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.  Yn Ardal Fenter Canol Caerdydd, mae cwmnïau pwysig fel Deloitte, MotoNovo Finance ac Alert Logic wedi buddsoddi’n helaeth yn y sector gwasanaethau ariannol a phroffesiynol.

“Mae gwaith yn parhau i gael ei wneud ar brosiectau ‘newid cyfeiriad’ mewn Ardaloedd eraill gyda chynnig Horizon ar gyfer gorsaf bŵer niwclear Wylfa Newydd ar Ynys Môn a diddordeb yn nechnoleg Adweithyddion Modwlar Bach yn Nhrawsfynydd, ynghyd â UK Spaceport yn ystyried lleoli ei hun yn Llanbedr yn Ardal Fenter Eryri.”