Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths yn pwyso ar bobl i gyfrannu at yr ymgynghoriad ar y rhaglen dileu TB Gwartheg sy’n cau ddechrau mis nesaf. 

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r nifer sydd wedi ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru hyd yn hyn wedi bod yn siomedig ac mae Ysgrifennydd y Cabinet yn awyddus bod ffermwyr yn dweud eu dweud am bwnc sydd mor bwysig i’r diwydiant.

Ym mis Hydref, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynllun rhanbartholi sy’n cael ei gynnig ar gyfer dileu TB Gwartheg.

Fel rhan o hwnnw, caiff ardaloedd TB Isel, TB Canolradd a TB Uchel eu sefydlu ar draws Cymru ar sail nifer yr achosion o TB gwartheg.  Bydd pob ardal yn cael ei ffordd arbennig ei hun o ddelio â TB, gan ddibynnu ar yr amodau a’r risgiau yn yr ardal honno.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn i bawb sydd â diddordeb fynegi barn am y mesurau ar gyfer diogelu Ardaloedd TB Isel a lleihau’r achosion o’r clefyd yn yr Ardaloedd Canolradd ac Uchel.

Bydd hynny’n cynnwys:

  • cyflwyno Cynllun Prynu Doeth gorfodol i helpu ffermwyr i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar ffeithiau ynghylch iechyd y gwartheg y maen nhw am eu prynu
  • gosod cosbau ar yr iawndal a delir ar gyfer gwartheg sy’n cael eu symud o fewn daliad aml-safle sydd o dan gyfyngiadau
  • gostwng y cap ar iawndal TB i £5,000.  Ni fydd hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o ffermwyr ond bydd yn arbed rhyw £300,000 y flwyddyn. 
Hefyd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet gynlluniau ar gyfer paratoi cynlluniau gweithredu unigol ar gyfer pob buches sydd â hanes hir o TB er mwyn clirio’r haint. Y bwriad yw datblygu’r cynlluniau hyn ar y cyd â ffermwyr, milfeddygon a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Nid yw moch daear yn gysylltiedig â phob achos tymor hir o TB ond lle ceir prawf mai moch daear sy’n gyfrifol am drosglwyddo’r clefyd, cynigir bod y grwpiau heintiedig o foch daear yn cael eu trapio a’u lladd yn ddi-boen.  Bydd hyn yn dilyn y gwersi a ddysgwyd yn ystod y peilot yng Ngogledd Iwerddon.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:

“Rydym bellach tri chwarter o’r ffordd trwy ymgynghoriad 12 wythnos ar adfywio’r Rhaglen Dileu TB ac rwy’n siomedig mai dim ond 18 o unigolion sydd wedi ymateb hyd yma.

"Mewn digwyddiadau diweddar, mae ffermwyr wedi bod yn dod ata i gan ddweud eu barn yn groch am y cynigion, felly mae’n amlwg ei fod yn bwnc pwysig iawn i’r diwydiant. Testun syndod felly yw’n bod wedi cael cyn lleied o ymatebion. 

“Byddwn yn falch o glywed barn am bob agwedd ar y cynigion a hoffem weld pawb y mae’r pwnc wedi effeithio arnyn nhw yn dod i ddweud eu dweud cyn i’r ymgynghoriad gau mewn cwta dair wythnos. Byddwn yn ystyried pob ymateb cyn cyflwyno Rhaglen Dileu TB ddiwygiedig yn y gwanwyn.” 

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 10 Ionawr.  Gallwch ddweud eich dweud am yr ymgynghoriad yn: https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/rhaglen-or-newydd-ar-gyfer-dileu-tb