Mae amser yn brin i bobl rannu eu barn am y cynlluniau i wella Cyffyrdd 15 ac 16 yr A55.
Dechreuodd yr ymgynghoriad, sy'n canolbwyntio ar opsiynau i gael gwared ar y cylchfannau wrth Gyffyrdd 15 ac 16, ddydd Llun 4 Mehefin a daw i ben ddydd Llun 28 Awst.
Mae naw opsiwn yn cael eu hystyried; pump ar gyfer Cyffordd 15 a phedwar ar gyfer Cyffordd 16.
Bydd y cynigion yn gwella diogelwch ar y ffyrdd i ddefnyddwyr y ffordd ar hyd yr A55, ac i bobl sy'n defnyddio'r llwybr i deithio i Ddwygyfylchi, Penmaenmawr a Llanfairfechan ac ohonynt. Byddant hefyd yn cryfhau gwydnwch y ffordd, yn gwella amserau teithiau ac yn ceisio gwella llwybrau teithio llesol yn yr ardal.
Cynhaliwyd Arddangosfeydd Ymgynghoriad Cyhoeddus ym mis Mehefin yn Nwygyfylchi, Penmaenmawr a Llanfairfechan er mwyn i bobl weld yr opsiynau sy'n cael eu hystyried yn fanwl a'r amserlen debygol.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd i wella’r seilwaith trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru ac mae cynllun gwella Cyffyrdd 15 ac 16 yr A55 yn rhan allweddol o'n cynlluniau.
"Mae barn pobl am yr opsiynau sy'n cael eu hystyried yn rhan hanfodol o'r broses benderfynu ac rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i rannu eu barn cyn i'r ymgynghoriad gau ar 28 Awst."