Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn gofyn i'r cyhoedd fynegi eu barn am newidiadau posibl i system gylchu unffordd yr A458 yng nghanol tref y Trallwng.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw (dydd Llun, 10 Medi), mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd y llynedd ynghylch pryderon a fynegwyd gan fasnachwyr a thrigolion.

Mae'r newidiadau i'r rhwydwaith presennol sy'n destun yr ymgynghoriad fel a ganlyn:

  • Y posibilrwydd o leihau Broad Street i fod yn lôn sengl rhwng The Cross i'r 'High Street' y tu allan i neuadd y dref. 
  • Gosod croesfan 'Sebra' a reolir ar Broad Street ger neuadd y dref.
  • Gwelliannau i wneud Brook Street yn stryd ddwyffordd rhwng Church Street a Jehu Road a fyddai'n golygu addasu arwyddion yr A458 ar gylchfan Sarn-y-bryn Caled a chyffordd Flash.
Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau heddiw ac yn parhau tan ddydd Llun, 3 Rhagfyr.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates: 

"Mae busnesau a thrigolion eisoes wedi mynegi eu pryderon ynghylch diogelwch cerddwyr, ymddygiad gyrwyr a phroblemau parcio yng nghanol tref y Trallwng.

"Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle gwych i bobl rannu eu barn am yr opsiynau arfaethedig sydd â'r nod o wella llif y traffig a diogelwch.

"Bydd y sylwadau hyn yn llywio'r broses benderfynu a byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb i gyfrannu at yr ymgynghoriad".

Bydd sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal ar 14 Medi ac ar 30 Hydref yn Neuadd y Dref y Trallwng rhwng 10am a 7pm.  

Bydd modd gweld dogfennau a chynlluniau'r ymgynghoriad yn ystod oriau agor arferol swyddfeydd Cyngor Tref y Trallwng a'r Ganolfan Groeso am 12 wythnos.

Mae rhagor o fanylion ynghylch y cynigion a sut i rannu eich barn i'w gweld wefan system unffordd yr A458 canol tref y Trallwng.