Neidio i'r prif gynnwy

Yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, yn cyhoeddi yn Uwchgynhadledd Fysiau Cymru bod £3.5 miliwn ar gael i wella'r amgylchedd ar fysiau ac mewn safleoedd bysiau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, darparwyr gwasanaethau bysiau a defnyddwyr yn cyfarfod yn Abertawe heddiw i drafod sut i fynd ati i ddatblygu mwy ar y diwydiant bysiau ac i greu gwasanaethau gwell a mwy cynaliadwy ar gyfer Cymru.

Yn ail Uwchgynhadledd Fysiau Cymru, bydd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, hefyd yn cyhoeddi y bydd £3.5 miliwn ar gael i'r awdurdodau lleol i wella cyfarpar clyweledol ar fysiau a thechnoleg amser real mewn safleoedd bysiau.

Bydd yr uwchgynhadledd, sydd i’w chynnal yn Stadiwm Liberty, yn adeiladu ar lwyddiannau'r uwchgynhadledd a gynhaliwyd y llynedd. Bydd yn gyfle i bawb sydd â diddordeb yn y maes ddod at ei gilydd, ac i edrych o'r newydd ar bwrpas yr uwchgynhadledd fysiau gyntaf. Bydd yn rhoi golwg gyffredinol ar yr hyn a wnaed i gefnogi'r diwydiant ac yn pennu cyfeiriad clir ar gyfer y diwydiant bysiau yng Nghymru.    

Wrth siarad cyn yr uwchgynhadledd, dywedodd Ken Skates, yr Ysgrifennydd dros yr Economi a Thrafnidiaeth: 

"Es i ati i gynnull yr uwchgynhadledd gyntaf y llynedd oherwydd mai cymysg fu hanes y diwydiant bysiau yng Nghymru yn 2016. Cyflwynais gynllun pum pwynt yn 2017 er mwyn ceisio sefydlogi a chefnogi'r diwydiant yn y tymor byr. 

"Bydd yr uwchgynhadledd hon yn ystyried yr atebion mwy hirdymor sydd eu hangen arnon ni er mwyn cynnig gwasanaeth o ansawdd y gall ein teithwyr roi eu ffydd ynddo.   

"Mae hwn yn gyfle inni rannu syniadau ac i edrych ar ddyfodol y diwydiant, i ddiffinio'r hyn rydyn ni'n awyddus i'n gwasanaethau bysiau ei gynnig ac i ddeall sut gallwn ni gydweithio'n well er mwyn darparu'r gwasanaethau cynaladwy o ansawdd y mae cymunedau ym mhob cwr o Gymru yn eu disgwyl a'u haeddu.   

"Bydd y cyllid rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn helpu i sicrhau canlyniadau go iawn y bydd teithwyr yn gallu'u mwynhau. Bydd yn golygu y bydd modd mynd ati'n gynt i roi cyfarpar clyweledol ar waith ar fysiau, gan gynnwys technoleg ar y bysiau eu hunain a fydd yn cyhoeddi'r 'stop nesaf'. Bydd yn golygu hefyd y bydd modd gwella seilwaith cysylltiedig, megis safleoedd bysiau, cysgodfannau, arwyddion a baneri, amserlenni amlwg a chyrbiau hygyrch. 

"Mae'r cyllid yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn parhau'n gwbl ymrwymedig i'r rhwydwaith bysiau ledled Cymru. Mae'n tystio i'r gefnogaeth rydyn ni'n ei roi i'n bysiau a hefyd i’r cymorth rydyn ni’n ei gynnig fel y bo modd darparu rhwydwaith effeithiol ar gyfer ein cymunedau − rhwydwaith a fydd yn rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus integredig ac amlfoddol ar draws Cymru.  

"Gwasanaethau bysiau lleol rheolaidd yw asgwrn cefn ein system trafnidiaeth gyhoeddus, a nhw fydd sail y system honno yn y dyfodol hefyd. Maen nhw'n caniatáu i bobl ym mhob cwr o Gymru gyrraedd y gwaith, apwyntiadau ysbyty, sefydliadau addysg a gweithgareddau hamdden.  

"Maen nhw'n hanfodol i fywyd Cymru ac mae teithwyr yn mynd ar oddeutu 100 miliwn o siwrneiau arnyn nhw bob blwyddyn. Dyna pam mae'r uwchgynhadledd mor bwysig er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i’n diwydiant bysiau."