Mae pandemig y coronafeirws wedi sbarduno newid mawr i arferion teithio pobl, gyda llawer mwy ohonom nag o’r blaen yn cerdded a beicio i’r gwaith, i’r siopau ac at ddibenion hamdden.
- Cynnydd gweladwy yn nifer y bobl sy’n cerdded a beicio
- £38 miliwn i sicrhau bod pobl yn gallu beicio, sgwtio a cherdded yn fwy diogel yng Nghymru
- Y buddsoddiad mwyaf erioed i wella teithio llesol yn lleol
Mae Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, yn benderfynol o achub ar y cyfle hwn i newid a sicrhau bod pobl yn parhau i ddewis beicio neu gerdded yn lle defnyddio’r car pan fydd pandemig y coronafeirws drosodd.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £38miliwn i sicrhau bod pobl yn gallu beicio, sgwtio a cherdded yn fwy diogel yng Nghymru.
Ynghyd â’r £15.4miliwn a gyhoeddwyd fis diwethaf, dyma’r buddsoddiad mwyaf erioed i wella teithio llesol yn lleol yng Nghymru. Bydd yn ariannu prosiectau a fydd yn golygu y bydd plant ac oedolion yn gallu cyrraedd yr ysgol neu waith yn fwy diogel ar droed, beic neu sgwter.
Mae’r cynlluniau yn cynnwys £259,500 i adeiladu llwybr dros y bont rheilffordd ger Ysgol Tŷ Ffynnon yn Shotton a gosod nodweddion tawelu traffig sy’n addas ar gyfer beicwyr ar hyd King George Street. Bydd y cyllid hefyd yn gwella llwybr troed sydd eisoes y bodoli i ddarparu mynediad gwell i’r Ganolfan Waith, y pwll nofio a’r llyfrgell.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot, bydd £205,000 yn cael ei ddefnyddio i weithredu terfyn cyflymder 20mya y tu allan i chwe ysgol, yn ogystal â gwella’r marciau ar y ffyrdd a gosod wyneb atal sgidio i’w gwneud yn fwy diogel i blant gerdded a seiclo i’r ysgol.
Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog:
“Mae pandemig y coronafeirws wedi newid ein bywydau yn llwyr. Mae wedi stopio ein trefn feunyddiol ac wedi ein gorfodi i gyd i fyw’n wahanol.
“Mae’r coronafeirws wedi dod â llawer o galedi a thrychinebau. Mae hefyd wedi cyflwyno cyfle euraidd am newid – un yr wyf yn bwriadu manteisio i’r eithaf arno.
“Mae mwy o bobl nag erioed yn cerdded a beicio i’r gwaith, i ymweld â ffrindiau ac i fynd i’r siop. Gyda llai o geir ar y ffordd, mae beicwyr newydd wedi cael yr hyder i rentu, benthyg neu brynu beic yn hytrach nag estyn am allweddi’r car.
“Fodd bynnag, wrth inni lacio’r cyfyngiadau a mwy o draffig yn ymddangos ar ein ffyrdd, mae’n hanfodol bod ein ffyrdd yn parhau i fod yn addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr os ydym am newid ein harferion teithio. Dyna’n union yr hyn yr wyf yn gobeithio y bydd y £38miliwn a gyhoeddais heddiw yn ei gyflawni.
“Mae’r £38miliwn hwn yn fuddsoddiad arwyddocaol iawn i greu llwybrau teithio mwy diogel a chysylltiadau gwell i’n trefi a’n dinasoedd, i sicrhau bod pobl yn dal i fod yn hyderus i feicio a cherdded o amgylch Cymru hyd yn oed pan fydd ein bywydau yn dychwelyd i normal.
Parhaodd y Dirprwy Weinidog i ddweud bod hynt y gwaith ar deithio llesol wedi bod yn rhy araf hyd yma ac nad yw wedi newid yr ymddygiad sydd angen ei weld yng Nghymru. Ychwanegodd:
“Rwy’n galw ar arweinwyr awdurdodau lleol i achub ar y cyfle euraidd hwn hefyd ac i weithio gyda’u cymunedau i ddatblygu cynlluniau ar gyfer y dyfodol sy’n annog mwy o bobl i gerdded a beicio ar gyfer siwrneiau pob dydd.
“Rwyf am inni weithio gyda’n gilydd i drawsnewid arferion teithio Cymru a dewis opsiynau sy’n diogelu ein hamgylchedd ac sydd o fudd i’n hiechyd.