Bydd bwyd môr Cymru yn cael ei arddangos yn Sbaen yn ddiweddarach y mis hwn yn nigwyddiad masnach mwyaf y byd ar gyfer y sector – Seafood Expo Global 2022.
Yn cynnwys mwy na 2,000 o gwmnïau o 89 o wledydd, bydd Seafood Expo Global 2022 yn cael ei gynnal yn Barcelona rhwng 26 a’r 28ain Ebrill.
Yn cael ei ystyried fel lleoliad pwysig ar gyfer y diwydiant bwyd môr, mae'r digwyddiad yn denu cyflenwyr, prynwyr a gweithwyr bwyd môr proffesiynol o bob cwr o'r byd sy'n chwilio am bopeth o fwyd môr i offer prosesu.
Denodd yr Expo Bwyd Môr diwethaf, a gynhaliwyd yn 2019, fwy na 29,000 o brynwyr gyda chynrychiolwyr o 155 o wledydd.
Bydd gan fwyd môr Cymru bresenoldeb penodol yn y digwyddiad sy'n cael ei gynnal yn y Fira Barcelona Gran Via Venue.
Bydd ymwelwyr â'r stondin yn gallu clywed mwy am waith Clwstwr Bwyd Môr Cymru - prosiect dan arweiniad Cywain sy'n annog cydweithio rhwng cwmnïau ac unigolion yn y diwydiant bwyd môr.
Bydd cyfle hefyd i flasu bwyd môr gwych o Gymru hefyd, wrth i'r cogydd Harri Alun, o Westy enwog Carden Park, goginio samplau i'w harchebu drwy gydol y digwyddiad.
Mae Barcelona yn cael ei hystyried yn ganolfan bwyd môr Ewropeaidd fawr ac yn gyrchfan ar gyfer digwyddiadau masnach fel y Seafood Expo Global.
Bydd cyfanwerthwyr o Ogledd Cymru, Ocean Bay Seafoods, a The Lobster Pot yn Barcelona.
Dywedodd Richard Williams o Ocean Bay Seafoods:
"Mae Ocean Bay Seafoods yn allforio cynnyrch i Ewrop yn bennaf; gyda'n cwsmeriaid mwyaf yn Sbaen, Ffrainc, Denmarc a'r Eidal. Mae'n hanfodol ein bod yn mynychu'r sioeau hyn i ehangu ein sylfaen cwsmeriaid a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau yn y diwydiant bwyd môr.
"Bydd yn dda cwrdd â chwsmeriaid presennol, ac wrth gwrs, rydym yn gobeithio denu cwsmeriaid newydd. Dyma'r tro cyntaf iddo gael ei gynnal yn Barcelona, mae arddangosfeydd byd-eang blaenorol expo bwyd môr wedi'u cynnal ym Mrwsel, felly mae'n gyffrous bod yn arddangos mewn lleoliad newydd.
"Mae cael presenoldeb penodol yn y digwyddiad hwn hefyd yn bwysig iawn i Gymru gyfan, a'n bod yn cael y cyfle i arddangos bwyd môr Cymreig o safon uchel i’r byd."
Dywedodd Tristan Wood o The Lobster Pot:
"Mae'n ddigwyddiad enfawr. Dyma'r man cyfarfod i bawb sy'n ymwneud â bwyd môr o bob rhan o'r byd. Mae wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i'n delwedd, gan gael ein henw allan yno.
"Bydd llawer o'n cwsmeriaid presennol yn bresennol, felly bydd yn dda eu gweld wyneb yn wyneb. Ac mae hefyd yn rhoi cyfle i ni gwrdd â darpar gwsmeriaid. Mae eleni'n bwysicach (ar ôl Covid) nag erioed wrth i ni geisio ailsefydlu cysylltiadau i ddiogelu gwerthiant a swyddi.
"Ond nid yw ar gyfer cwsmeriaid yn unig, mae hefyd yn golygu cwrdd â chyflenwyr. Daw llawer o'r bwyd môr o ddyfroedd Cymru lle mae gennym gadwyn gyflenwi eithriadol o ffyddlon. Fodd bynnag, mewn busnes tymhorol lle mae cwsmeriaid yn disgwyl cyflenwad drwy gydol y flwyddyn, rydym hefyd yn chwilio am bysgotwyr a chyflenwyr newydd o bob rhan o'r DU."
Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd:
"Mae'r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i'n busnesau bwyd môr gwych yng Nghymru arddangos yr hyn y maent yn ei wneud orau.
"Mae marchnad bwyd môr y byd yn un heriol a dyna pam ei bod yn bwysig i gwmnïau yn y sector fod yn rhan o ddigwyddiadau masnach rhyngwladol fel Seafood Expo Global.
"Mae gan fwyd môr Cymru enw da eisoes am ansawdd a rhagoriaeth, a bydd cael presenoldeb yn Barcelona yn dod â’r bwyd i sylw cynulleidfa ehangach fyth, a darpar gwsmeriaid."