Heddiw, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates nad oes unrhyw lonydd wedi’u cau yn ystod y dydd ar yr A55 rhwng Cyffordd 11 a’r ffin â Lloegr am 501 o ddiwrnodau yn olynol.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, sy'n dyddio yn ôl i fis Ebrill 2017, mae'r holl waith rheolaidd sy’n cynnwys cau lonydd wedi digwydd dros nos. Yr unig adegau y bu angen cau lonydd yn ystod y dydd oedd yn dilyn gwrthdrawiadau difrifol.
Mae’r cyhoeddiad heddiw yn cyd-fynd â’r angen i wneud gwaith gwella hanfodol i danbont Kneeshaw Lupton ger Cyffordd 23 Llanddulas.
Bydd y gwaith ar y gerbytffordd tua'r gorllewin yn unig yn dechrau ar 17 Medi, sef 532 o ddiwrnodau ers y tro diwethaf i unrhyw lonydd ar yr A55 gael eu cau yn ystod y dydd rhwng Cyffordd 11 a'r ffin â Lloegr.
Bydd y gwaith yn cynnwys tynnu ymaith yr holl wyneb, gosod wyneb newydd i sicrhau bod dec y bont yn ddiddos a gosod cymalau pont newydd.
Er mwyn gwneud y gwaith hwn, bydd angen cau'r gerbytffordd tua'r gorllewin yn llawn yn yr ardal. Bydd gwrthlif yn weithredol lle bydd un lôn ar agor i'r ddau gyfeiriad 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos am hyd at bum wythnos. Mae angen gosod yr wyneb diddos mewn tywydd gweddol a dyma'r rheswm yr amserlennwyd y gwaith ar gyfer y cyfnod hwn. Bydd yr holl waith wedi'i gwblhau erbyn canol dydd ar 18 Hydref fan bellaf, sef cyn i'r ysgolion ddechrau eu gwyliau hanner tymor.
Oherwydd natur y gwaith peirianneg ac er mwyn sicrhau diogelwch, bydd byrddau 1.5 metr o uchder yn cael eu gosod a bydd y gwaith yn cael ei wneud y tu ôl iddynt.
Mae disgwyl i waith tebyg ar y gerbytffordd tua'r dwyrain gael ei wneud yn hwyrach y flwyddyn nesaf.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates:
"Rwy' wedi ymrwymo'n llawn i sicrhau nad yw lonydd yr A55 wedi'u cau yn ystod y dydd rhwng y ffin â Lloegr a Chyffordd 11 o fis Ebrill 2017 hyd at fis Medi 2018, ac rwy'n hynod falch ein bod wedi cyflawni union hynny.
"Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae'r gwaith o osod wyneb newydd ar ddarnau hir o'r A55, ynghyd â gwaith trwsio a chynnal a chadw sy'n cynnwys y twnelau, i gyd wedi'i wneud dros nos gan amharu ychydig iawn ar y traffig.
"Hoffwn ddiolch i'r swyddogion, y contractwyr a phawb fu'n rhan o gynllunio'r gwaith hwn ac sy'n parhau i weithio'n ddiflino i sicrhau bod y llwybr allweddol hwn yn gweithio'n ddidrafferth.
"Rydyn ni hefyd wedi bod yn gweithio dros nos ar danbont Kneeshaw Lupton ger Llanddulas er mwyn defnyddio'r gwaith atgyweirio dros dro rydyn ni wedi'i wneud i'r strwythur yn flaenorol. Ond mae angen inni wneud gwaith atgyweirio parhaol gan fod dec y bont ei hun yn dangos ôl treulio. Rwyf am bwysleisio mai gwaith hanfodol yw hwn a bod yn rhaid ei wneud.
"Rwy'n deall yn iawn bod gwaith ffordd yn ystod y dydd yn gallu amharu ar bobl, ond mae angen gwneud hyn ar yr holl briffyrdd i sicrhau diogelwch y bobl sy'n teithio arnyn nhw a chryfhau gwytnwch llwybrau. Nid wy’n bwriadu cyfaddawdu ar y materion hyn. Rydyn ni hefyd wedi gweithredu i wrthbwyso'r effaith ar y cyhoedd drwy sicrhau nad ydyn ni’n dechrau’r gwaith ar y gerbytffordd tua'r dwyrain tan y flwyddyn nesaf.
"Rwy'n gofyn i'r rheini sy'n teithio fod yn amyneddgar wrth i'r gwaith hwn gael ei wneud. Bydd yn digwydd 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos er mwyn ei gwblhau mor gyflym â phosibl."
Gallwch weld y diweddariadau am y gwaith gwella hanfodol ar wefan Traffig Cymru ac ar ei gyfrif trydar (@TraffigCymruG).