Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r ystadegau hyn, sydd wedi’u cynhyrchu gan y Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg, yn dangos gallu disgyblion mewn gwyddoniaeth, mathemateg a darllen ar gyfer 2018.

Yn 2018, cafwyd canlyniadau gan 107 ysgol ar gyfer 3,165 o ddisgyblion yng Nghymru. Cymerodd 79 o wledydd ran yn yr astudiaeth, gan gynnwys pob aelod o’r Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) a phob un o’r pedair gwlad yn y DU.

Prif bwyntiau

Darllen

  • 483 oedd y sgôr cyfartalog yng Nghymru o ran darllen ar gyfer PISA yn 2017. Mae’r sgôr hwn wedi aros yn sefydlog ers 2006 (481).
  • Mae sgôr cymedrig 22 gwlad ar gyfer darllen o flaen Cymru o’i gymharu â 30 gwlad yn 2015. Mae sgôr cymedrig 42 gwlad ar gyfer darllen yn is.
  • Am y tro cyntaf nid oes dim gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol rhwng sgôr Cymru a sgôr cyfartalog yr OECD.

Mathemateg

  • 487 oedd y sgôr cyfartalog yng Nghymru mewn mathemateg ar gyfer PISA yn 2018. Mae hyn yn gynydd ystadegol arwyddocaol dros y sgor yn 2012 (468).
  • Mae sgôr cymedrig 23 gwlad ar gyfer mathemateg o flaen Cymru, o’i gymharu â 30 gwlad yn 2015. Mae sgôr cymedrig 40 gwlad ar gyfer mathemateg yn is.
  • Am y tro cyntaf nid oes dim gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol rhwng sgôr Cymru a sgôr cyfartalog Gogledd Iwerddon, Yr Alban a’r OECD.

Gwyddoniaeth

  • 488 oedd sgôr cyfartalog yng Nghymru mewn gwyddoniaeth ar gyfer PISA yn 2018. Mae hynny’n 17 pwynt yn is na’r sgôr cyfartalog yn 2006 (505) ond 3 pwynt yn uwch na 2015 (485).
  • Mae sgôr cymedrig 19 o flaen Cymru ar gyfer gwyddoniaeth, o’i gymharu â 28 gwlad yn 2015. Mae sgôr cymedrig 45 gwlad ar gyfer gwyddoniaeth yn is.
  • Nid oes dim gwahaniaeth ystadegol arwyddocaol rhwng sgôr Cymru a sgôr cyfartalog Gogledd Iwerddon, Yr Alban a’r OECD.

Nodyn

Mae'r ffigurau uchod yn seiliedig ar gymharu Cymru â gwledydd eraill sy'n cymryd rhan, ac eithrio'r rhannau cydrannol o'r DU. Mae hyn yn gyson â'r adroddiad cenedlaethol a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Addysg, isod.

Gwybodaeth bellach

Mae adroddiad rhyngwladol PISA 2018, ynghyd â gwybodaeth ychwanegol, ar gael ar wefan OECD.

Ar 19 Tachwedd 2020, cyhoeddodd Y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg dri adroddiad newydd yn cynnwys dadansoddiadau ychwanegol o ganlyniadau PISA 2018. Yr adroddiadau hyn yw:

Canlyniadau PISA 2018 ar gyfer Cymru yn ôl cyfrwng yr ysgol

Cymhariaeth o ganlyniadau PISA 2018 a TGAU 2019

Canlyniadau PISA 2018 yn ôl eitem ar gyfer mathemateg a gwyddoniaeth

Adroddiadau

Cyflawniad disgyblion 15 mlwydd oed: PISA adroddiad cenedlaethol 2018 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 9 MB

PDF
9 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.