Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Dyma’r adroddiad cyntaf ar gyflawniad academaidd yn asesiad sylfaenol y Cyfnod Sylfaen ac yng Nghyfnod Allweddol 3 ers 2019. Ni chasglwyd y data yn 2020 a 2021 oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19). Cynhelir asesiadau syflaenol y Cyfnod Sylfaen fel arfer pan fydd plentyn yn dechrau yn y dosbarth derbyn yn 4 oed. Mae canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 yn ymwneud â phlant 14 oed. Dechreuodd cwricwlwm newydd i Gymru gael ei gyflwyno mewn ysgolion a lleoliadau ym mis Medi 2022. O ganlyniad, yr asesiadau sylfaenol ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-22 a gwmpesir yn y datganiad hwn sy'n ymwneud â chwricwlwm Cymru 2008 fydd yr olaf.

Yn dilyn ymgynghoriad, nid oedd angen asesiadau diwedd Cyfnod Sylfaen ac asesiadau diwedd Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer 2022. Dileuwyd yr asesiadau hyn er mwyn creu lle i ymarferwyr wrth iddynt baratoi eu cwricwlwm a’u trefniadau asesu newydd a chreu hyblygrwydd iddynt gynllunio pontio mwy esmwyth ar gyfer dysgwyr. Yn ogystal, nid oedd angen asesiadau Cyfnod Allweddol 3 mewn ysgolion arbennig yn 2022.

Asesiadau sylfaenol y Cyfnod Sylfaen disgyblion yn y dosbarth derbyn yn yr ysgol

Ers 2016, mae plant yng Nghymru yn cael asesiad sylfaenol statudol, gan ddefnyddio Proffil y Cyfnod Sylfaen, yn ystod eu 6 wythnos gyntaf ar ôl dechrau yn yr ysgol gynradd (Dosbarth Derbyn). Defnyddir yr asesiadau hyn i bennu cam datblygu a diddordebau'r plentyn yn ôl Proffil a Fframwaith y Cyfnod Sylfaen. Ceir gwybodaeth ynglŷn a phob maes dysgu (PSD, LCE, LCW, MD, PD) yn y dolen uchod. Cynhelir y rhan fwyaf o asesiadau pan fydd y plentyn yn cyrraedd dosbarth derbyn yn 4 oed, er bod ysgolion yn cael eu hannog i asesu'r plentyn wrth iddynt fynd i mewn i'r Cyfnod Sylfaen, pa bynnag oedran cynharach a allai fod.

Mae’r data yn adlewyrchu’r ystod eang o aeddfedrwydd datblygiadol a ddisgwylir ar gyfer yr oedran hwnnw, sydd o fewn yr ystod safonol ar gyfer plant wrth ddechrau yn yr ysgol, yn enwedig o ystyried oed amrywiol plant sy’n dechrau’r ysgol. Y disgwyliad cyffredinol yw y bydd mwyafrif y plant pedair oed yn cael eu hasesu ar Ddeilliant 2, a disgwylir niferoedd sylweddol hefyd ar Ddeilliannau 1 a 3 ym mhob maes dysgu. Mae Deilliant 2 neu uwch yn golygu bod disgybl mewn cyfnod datblygu sy’n gyson â’i oedran neu’n hŷn yn ôl y fframwaith. Mae'r datganiad hwn yn cynnwys un o'r dangosyddion cenedlaethol a ddefnyddir at ddibenion mesur y cynnydd tuag at gyflawni 7 nod llesiant Cymru. Dangosydd cenedlaethol 6 yw hwn, sy'n mesur datblygiad plant ifanc, ac rydym yn cadw golwg ar y cynnydd drwy ddefnyddio maes dysgu Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Image
Roedd canran y disgyblion wedi cyrraedd cam ddatblygiad sy’n gyson â’u hoed neu’n uwch yn amrywio o 27% mewn iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn y Gymraeg i 71% mewn datblygiad corfforol.

Canran y disgyblion ym mhob cam o ddatblygiad yn asesiad sylfaenol y Cyfnod Sylfaen (MS Excel)  

Mae 64% o ddisgyblion 4 oed wedi cyrraedd cam ddatblygiad mewn datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol sy’n gyson â’u hoed neu’n hŷn yn ôl y fframwaith (deilliant 2 ac uwch), gyda 87% o ddisgyblion o fewn un cam i’r datblygiad sy’n gyson â’u hoed.

Mae 53% o ddisgyblion wedi cyrraedd cam ddatblygiad mewn sgiliau Iaith, llythrennedd a chyfathrebu Saesneg sy’n gyson â’u hoed neu’n hŷn, gyda 85% o ddisgyblion o fewn un cam i’r datblygiad sy’n gyson â’u hoed.

Mae 27% o ddisgyblion wedi cyrraedd cam ddatblygiad mewn sgiliau Iaith, llythrennedd a chyfathrebu Cymraeg sy’n gyson â’u hoed neu’n hŷn, gyda 63% o ddisgyblion o fewn un cam i’r datblygiad sy’n gyson â’u hoed. Gellir esbonio hyn gan nifer y disgyblion o gartrefi di-Gymraeg y mae eu rhieni yn dewis eu cofrestru mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.

Mae 54% o ddisgyblion wedi cyrraedd cam ddatblygiad mewn datblygiad mathemateg sy’n gyson â’u hoed neu’n hŷn, gyda 87% o ddisgyblion o fewn un cam i’r datblygiad sy’n gyson â’u hoed.

Mae 71% o ddisgyblion wedi cyrraedd cam ddatblygiad mewn datblygiad corfforol sy’n gyson â’u hoed neu’n hŷn, gyda 91% o ddisgyblion o fewn un cam i’r datblygiad sy’n gyson â’u hoed.

Mae canlyniadau asesiad sylfaenol y Cyfnod Sylfaen yn ôl rhyw a hawl i gael prydau ysgol am ddim hefyd i’w gweld yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn.

Cyfnod Allweddol 3

Mae’r Dangosydd Pynciau Craidd (DPC) yng Nghyfnod Allweddol 3 yn cynrychioli canran y disgyblion sydd wedi cyrraedd Lefel 5 neu uwch mewn Saesneg neu Gymraeg (iaith gyntaf), Mathemateg a Gwyddoniaeth gyda'i gilydd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3, pan yn 14 oed.

Image
Bu cynnydd pob blwyddyn o 2007 i 2018 yn y canran o ddisgyblion a gyflawnodd y DPC yng Nghyfnod Allweddol 3, ond bu gostyngiad yn 2019 a 2022.

Canran y disgyblion a gyflawnodd y DPC Cyfnod Allweddol 3 (StatsCymru)

Cyflawnodd 78% o ddisgyblion y DPC yng Nghyfnod Allweddol 3 yn 2022, i lawr o 86% yn 2019. Gall y gostyngiad hwn fod yn rhannol oherwydd yr effaith ar ysgolion a achosir gan y pandemig coronafeirws (COVID-19).

Bu cynnydd pob blwyddyn o 2007 i 2018 yn y canran o ddisgyblion a gyflawnodd y DPC yng Nghyfnod Allweddol 3.

Image
Cyflawnodd mwy na 85% o ddisgyblion y lefel disgwyliedig o lefel 5 neu'n uwch yn 2022.

Canran y disgyblion a gyflawnodd lefelau Cyfnod Allweddol 3 yn y pynciau craidd (StatsCymru)

Cyflawnodd mwy na 85% o ddisgyblion o leiaf y lefel disgwyliedig o lefel 5 neu’n uwch ym mhob pwnc yn 2022, o 85% yn Saesneg i 88% yng Nghymraeg.

Ym mob pwnc mae mwy na hanner o ddisgyblion yn cyflawni o leiaf lefel 6 neu’n uwch.

Image
Mae canran y merched sy’n cyflawni’r dangosydd pynciau craidd yng Nghyfnod Allweddol 3 wedi bod yn uwch na’r bechgyn ym mhob blwyddyn ers 1999, ond mae’r bwlch wedi bod yn llai ers 2015 nag yn y blynyddoedd blaenorol.

Canran y disgyblion a gyflawnodd y DPC Cyfnod Allweddol 3, yn ôl rhyw (StatsCymru)

Cyflawnodd 82% o ferched a 75% o fechgyn y DPC yng Nghyfnod Allweddol 3 yn 2022, blwch o 7 pwynt canran.

Mae hyn yn gyson a’r bwlch rhwng bechgyn a merched a welwyd yn y pum mlynedd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Mae’r bwlch ers 2015 wedi bid yn gyffredinol yn llai na’r 15 mlynedd flaenorol.

Tabl 1: Canran y disgyblion a gyflawnodd lefelau Cyfnod Allweddol 3 yn y pynciau craidd, yn ôl rhyw, 2022
Pwnc Merched Bechgyn
Saesneg 89.8 81.1
Cymraeg 93.1 82.5
Mathemateg 87.1 84.7
Gwyddoniaeth 89.7 85.7
Dangosydd Pynciau Craidd 81.8 74.7
Darllen, Ysgrifennu a Mathemateg 81.5 72.0
Darllen, Ysgrifennu, Mathemateg
a Gwyddoniaeth
79.6 70.1

Ffynhonnell: Casgliad Data Cenedlaethol

Roedd y bwlch rhwng merched a bechgyn yn y canran a gyflawnodd o leiaf y lefel disgwyliedig ar ei fwyaf yng Nghymraeg (10.6 pwynt canran) ac yn lleiaf ym Mathemateg (2.4 pwynt canran).

Roedd y bwlch rhwng merched a bechgyn yng nghanran y disgyblion a gyflawnodd o leiaf y lefel ddisgwyliedig mewn Darllen ac Ysgrifennu (Cymraeg neu Saesneg) a Mathemateg a Darllen ac Ysgrifennu (Cymraeg neu Saesneg), Mathemateg a Gwyddoniaeth yn 9.5 a 9.4 pwynt canran yn y frefn honno yn 2022.

Image
Roedd y bwlch yng nghanran y disgyblion nad oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim sy’n cyflawni’r dangosydd pynciau craidd yng Nghyfnod Allweddol 3 ar ei isaf rhwng 2016 a 2019.

Percentage of pupils achieving the Key Stage 3 CSI, by free school meal (FSM) eligibility (StatsWales)

Cyflawnodd 84% o ddisgyblion nad ydynt yn gymwys i gael PYD a 59% o ddisgyblion sy’n gymwys i gael PYD y DPC yng Nghyfnod Allweddol 3 yn 2022, bwlch o 25 pwynt canran.

Mae hyn yn fwy na’r bwlch o gwmpas 20 pwynt canran a welwyd yn y pedair blynedd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Gostyngodd y bwlch pob blwyddyn rhwng 2008 a 2018.

Tabl 2: Canran y disgyblion a gyflawnodd lefelau Cyfnod Allweddol 3 yn y pynciau craidd, yn ôl hawl i brydau ysgol am ddim (PYD), 2022
Pwnc Dim yn gymwys i PYD Gymwys i PYD
Saesneg 89.7 71.2
Cymraeg 90.5 69.9
Mathemateg 90.0 72.2
Gwyddoniaeth 91.8 74.3
Dangosydd Pynciau Craidd 84.0 59.0

Ffynhonnell: Casgliad Data Cenedlaethol

Roedd y bwlch mwyaf rhwng disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael PYD a disgyblion sy’n gymwys i gael PYD yn y ganran a gyflawnodd o leiaf y lefel ddisgwyliedig ar ei fwyaf yng Nghymraeg (20.6 pwynt canran) ac yn lleiaf yng Ngwyddoniaeth (17.6 pwynt canran). 

Gwybodaeth pellach

Mae canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 yn y pynciau craidd yng Nghyfnod Allweddol 3 ar gael ar StatsCymru. Yn gyffredinol:

  • roedd canlyniadau disgyblion o gefndir ethnig Tsieineaidd neu Tsieineaidd Prydeinig yn uwch na disgyblion o gefndiroedd ethnig eraill
  • cafodd disgyblion a oedd yn astudio Saesneg fel Iaith Ychwanegol ganlyniadau uwch lle cawsant eu cofnodi fel ‘cymwys’ neu ‘rhugl’
  • cafodd disgyblion â lefelau is o anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig ganlyniadau uwch
  • cafodd disgyblion a enid yn gynharach yn y flwyddyn academaidd ganlyniadau uwch na disgyblion a enid yn ddiweddarach yn y flwyddyn
  • mae hyn yn gyson â dadansoddiad o flynyddoedd blaenorol

Mae canlyniadau Cyfnod Allweddol 3 ar gyfer pynciau di-graidd hefyd i'w gweld ar StatsCymru. Y pynciau di-graidd yw:

  • celf a dylunio
  • dylunio a thechnoleg
  • daearyddiaeth
  • hanes
  • technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • ieithoedd Tramor Modern
  • cerddoriaeth
  • addysg Gorfforol
  • chymraeg ail iaith

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2010 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan Swyddfa ar gyfer Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • wedi'i ychwanegu at a gwella'r wybodaeth am ddimensiynau ansawdd a disgrifio cysylltiadau â pholisi.
  • darparu mwy o ddata ar StatsCymru.
  • gwella'r fformat i gynnwys siartiau sy'n rhoi mewnwelediad pellach i rywfaint o'r wybodaeth allweddol.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Mae’r adran hon yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am yr allbwn hwn o dan bum agwedd ar ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Amseroldeb a Phrydlondeb, Hygyrchedd ac Eglurder, a Chymaroldeb. Mae hefyd yn ymdrin â materion penodol sy’n ymwneud ag ansawdd data 2022, ac yn disgrifio’r offeryn rheoli ansawdd a ddefnyddir yn y maes gwaith hwn.

Perthnasedd

Caiff yr ystadegau eu defnyddio gan swyddogion yn Llywodraeth Cymru a'r tu allan iddi i fonitro tueddiadau addysgol, ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddi pellach o'r data sylfaenol. Dyma rai o'r prif ddefnyddwyr:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil y Senedd
  • aelodau Senedd Cymru
  • polisï addysg o fewn Llywodraeth Cymru
  • rhannau eraill o Lywodraeth Cymru
  • y gymuned ymchwil
  • AALlau, ysgolion a chonsortia
  • Estyn
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a'r cyfryngau

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cefndir cyffredinol ac ymchwil
  • i'w cynnwys mewn adroddiadau a bwletinau
  • cyngor i Weinidogion
  • cynnig gwybodaeth sy'n sail i'r broses o wneud penderfyniadau ym maes polisi addysg yng Nghymru, gan gynnwys ad-drefnu ysgolion
  • maes addysg Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • i ategu gwaith ymchwil ym maes cyrhaeddiad addysgol

Cywirdeb

Mae Llywodraeth Cymru'n cydweithio'n agos ag ysgolion ac Awdurdodau Lleol er mwyn sicrhau bod yr holl ddata'n cael eu dilysu cyn cyhoeddi'r tablau. Os bydd unrhyw anomaleddau yn y data o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol, mae Llywodraeth Cymru yn herio ysgolion ac Awdurdodau Lleol ynglŷn â’r anomaleddau hynny yn y data. Mae'r data terfynol yn cael eu cymeradwyo gan ysgolion ac Awdurdodau Lleol bob blwyddyn. Mae data’n cael ei goladu i ffurflen electronig o’r enw Casglu Data Cenedlaethol (NDC) a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy DEWi, system trosglwyddo data ar-lein ddiogel a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Fel rhan o'r broses, ceir nifer o gamau awtomatig i ddilysu a gwirio'r synnwyr, er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel.

Ceir rhagor o wybodaeth am ddeilliannau asesu gwaelodlin y Cyfnod Sylfaen a lefelau Cyfnod Allweddol 3 yn y Nodiadau cwblhau technegol Casglu Data Cenedlaethol.

Yn dilyn datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Addysg yng Ngorffennaf 2018, ac ymgynghoriad a orffennodd yn Ionawr 2018, ni fyddwn bellach yn cyhoeddi data'r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ar lefel ysgol, awdurdod na chonsortia. Mae hwn yn gam sylweddol i ffwrdd o gasglu gwybodaeth am berfformiad pobl ifanc fesul ysgol at ddibenion atebolrwydd.

Gostyngodd canran y disgyblion sy’n cyflawni o leiaf y lefel ddisgwyliedig yn 2019 ym mhob pwnc craidd/maes dysgu ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen ac ar gyfer y ddau Gyfnod Allweddol. Gallai hyn fod yn adlewyrchiad o’r newidiadau hyn, lle mae prif ddiben asesiadau athrawon wedi dechrau symud yn ôl at ddysgwyr unigol ac i ffwrdd o ddwyn ysgolion i gyfrif.

Amseroldeb a phrydlondeb

Roedd DEWi ar gael i lanlwytho ffeiliau ar 10 Mai 2022. Gofynnwyd i ysgolion gyflwyno data ar gyfer pob disgybl ar gofrestr yr ysgol ar 10 Mai yn barod ar gyfer Profion Darllen Cenedlaethol perthnasol y Cyfnod Sylfaen/Cyfnodau Allweddol. Yna, gofynnwyd i ysgolion ac Awdurdodau Lleol ddilysu eu data o fewn y cyfnod dilysu, a ddaeth i ben ar 1 Gorffennaf 2022.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau o wefan Llywodraeth Cymru. Yn cyd-fynd ag ef mae Taenlen Dogfen a mae tablau manylach ar StatsCymru, gwasanaeth y gellir ei ddefnyddio am ddim sy’n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data.

Cyfatebolrwydd

Nid yw data ar gyfer Cymeu yn gyfatebol i ddata o wledydd eraill y DU.

Deddf Allegiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016. 

Mae'r datganiad hwn yn cynnwys un o'r dangosyddion cenedlaethol sef dangosydd cenedlaethol 6, mesur datblygiad plant ifanc, a bydd cynnydd yn cael ei olrhain gan ddefnyddio maes dysgu personol, datblygiad cymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Steve Hughes
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SFR: 197/2022