Neidio i'r prif gynnwy

Araith gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Noswaith dda bawb - mae’n wych bod yma heno, a diolch i David, Met Caerdydd, a’r Ysgol Addysg a Pholisi Cymdeithasol am y gwahoddiad.

Rydw i wrth fy modd cael dilyn ôl traed siaradwyr blaenorol yn y gyfres.

Mae pobl fel Anne, Mick a Graham wedi gwneud cyfraniadau enfawr yn barod wrth fwrw golwg fanwl ar ein system addysg, a nodi ffyrdd o wella.

Ac wrth gwrs mae’r genhadaeth ar feddwl Steve - Cyfarwyddwr yr Adran – fore, dydd a nos er mwyn gallu codi safonau i bawb.

Rydyn ni’n lwcus iawn o gael ei egni a’i arbenigedd nid yn unig yn y llywodraeth ond yn y system gyfan.

Cefndir

“Dylai fod gennym un pwrpas cyffredin … o ran addysg mae sefyllfa Cymru’n arbennig iawn”

Mae’n debyg iawn i ddatganiad o’r genhadaeth genedlaethol ond yw e?

“Pwrpas Cyffredin”; a bod “addysg yn arbennig”.

Rydw i wedi sôn yn aml iawn bod ein diwygiadau’n ymdrech gyffredin sy’n digwydd ar y cyd. Dyma’r unig ffordd y byddwn yn sicrhau newidiadau go iawn, codi safonau ac ymestyn cyfleoedd i bawb.

Fodd bynnag, nid fy nyfyniad i yw e a dyw e ddim yn dod o Genhadaeth Ein Cenedl chwaith.

Geiriau Stuart Rendel ydyn nhw. Ydy’r enw’n canu cloch tybed……?

Llefarwyd y geiriau yn Nhŷ’r Cyffredin ar 15 Mai, 1889.

Fel Aelod Seneddol y Rhyddfrydwyr dros Sir Drefaldwyn, roedd yn cyflwyno’r darn cyntaf o ddeddfwriaeth Gymreig bwrpasol i gefnogi addysg gyhoeddus.

Fe wnaeth y ddeddfwriaeth honno – y Welsh Intermediate Education Act - arwain y ffordd i ysgolion sirol, a oedd yn cael eu hariannu’n rhannol gan ardrethi a grantiau gan y llywodraeth. Dyma’r tro cyntaf i arian cyhoeddus gael ei wario ar addysg ganolradd yng Nghymru - 12 mlynedd gyfan cyn Lloegr.

Roedd y Ddeddf yn rhoi cyfarwyddiadau penodol ar gyfer Iaith a Llenyddiaeth Cymraeg a Saesneg, Lladin, Groeg, ieithoedd modern, mathemateg, gwyddorau naturiol a gwyddoniaeth gymhwysol, ac addysg dechnegol mewn meysydd fel rhifyddeg fasnachol, amaethyddiaeth a mecaneg a oedd yn “suited to the needs of the district”.

Rwy’n credu y bydden ni’n gweld y pynciau hynny’n feysydd Dysgu a Phrofiad eithaf eang!

Wrth ateb y cwestiwn a ofynnwyd i mi heno : “Sicrhau Cenhadaeth Ein Cenedl ar gyfer Addysg: Cynnydd a Chamau Nesaf '; roeddwn am edrych yn ôl a chyfleu’r cyd-destun hanesyddol.

Mae Cenhadaeth ein Cenedl, a’r gwaith o gyflwyno cwricwlwm newydd, yn adegau pwysig yn ein hanes gan ein bod yn credu mewn addysg fel ymdrech unigol, cymunedol a chenedlaethol. 

Nid newid ambell beth bach ar y cyrion ydyn ni.

Am y tro cyntaf erioed, rydyn ni’n cyflwyno ein cynigion deddfwriaethol ein hunain – sydd wedi’u llunio yng Nghymru - ar gyfer cwricwlwm ysgolion.

Mae wedi bod yn siwrne hir o 1889 tan 2019.

Roedd Stuart Rendel yn gefnogwr a chyfaill mawr i Gladstone. Yn wir, y diwrnod hwnnw yn Nhŷ’r Cyffredin, siaradodd Gladstone o feinciau’r wrthblaid o blaid y Bil. 

Roedd yn cydnabod bod Cymru wedi cael cam am i San Steffan beidio â deddfu dros faterion penodol i Gymru am ddwy ganrif a mwy. 

Dywedodd “Wales has not pushed her claims with as much energy as she might have been justified in using.”

Erbyn hyn, wrth gwrs, mae gennym ein senedd a llywodraeth ddemocrataidd ein hunain, sy’n cydweithio â’n proffesiwn addysg i ddarparu’r system addysg fwyaf teg a rhagorol bosib.

Fel y dywedais yr wythnos ddiwethaf, wrth gyflwyno’r Papur Gwyn, mae hon yn ffordd o wireddu’r alwad a wnaed yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan Elizabeth Phillips Hughes, addysgwr gwych a gwraig flaengar iawn. 

Elizabeth Phillips Hughes oedd pennaeth cyntaf Coleg Athrawon i Fenywod Caergrawnt a phan ddychwelodd i Gymru hi oedd yr unig aelod benywaidd o’r pwyllgor a oedd yn rhan o’r gwaith o ddrafftio siarter Prifysgol Cymru.

Wrth ddadlau dros gydaddysg, dros ymdrechion i hyrwyddo addysg menywod a thros bwysigrwydd dimensiwn Cymreig i’n system addysg, dywedodd “education must be national, and must be in our own hands”.

Erbyn hyn, rydyn ni’n symud ymlaen gyda’r addewid honno.

Cynnydd

Wrth gyflwyno’r cwricwlwm newydd, a dibenion newydd ar gyfer ein system addysg - mae llawer yn gofyn i mi pam, a pham nawr?

Yn wir, gofynnodd rai o ddisgyblion disglair Ysgol Calon y Cymoedd, Pontycymer y cwestiynau hyn i mi yn ystod fy sesiwn Holi ac Ateb ar Twitter yr wythnos ddiwethaf.

I mi, mae’n syml iawn.

Dyw nodweddion hanfodol y cwricwlwm cyfredol, a ddyfeisiwyd ym 1988 gan Lywodraeth San Steffan y pryd, ddim digon cyfoes a modern i gyd-fynd â’r newidiadau diweddar a’r newidiadau a ddaw yn y dyfodol i dechnoleg a’r datblygiadau yn ein cymdeithas a’n heconomi. 

Mae’r pwyslais rhagnodol helaeth sydd yn y cwricwlwm cenedlaethol wedi tueddu i greu diwylliant sy’n llethu creadigrwydd.

Mae’r addysgu a’r dysgu wedi culhau, a dyw datblygiad proffesiynol y gweithlu ddim wedi’i ddatblygu’n llawn.

Mae mor hen, dyma oedd ar gael pan roeddwn i yn yr ysgol hyd yn oed.

Roedd hyn cyn dyddiau Google a chyn dymchwel Wal Berlin.

Yn wir, mae naw mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers i’r blaid Gomiwnyddol Sofietaidd dderbyn argymhelliad Gorbachev i gynnal etholiadau rhydd a theg gyda sawl plaid yn sefyll ar hyd a lled y Gweriniaethau Sofietaidd.

Byd gwahanol iawn.

Ond gadewch i mi fod yn gwbl glir.

Does gen i ddim amser i bobl sy’n dweud bod diwygio’r cwricwlwm yn ymwneud yn unig â sgiliau ar gyfer economi a phroffesiynau’r dyfodol.

Bydd ein cwricwlwm newydd yn cefnogi pobl ifanc i ddatblygu safonau llythrennedd a rhifedd uwch, dod yn fwy cymwys yn ddigidol ac o ran dwyieithrwydd, ac esblygu i fod yn unigolion sy’n mentro, sy’n greadigol ac sy’n meddwl yn feirniadol.  

Bydd yn helpu i ddatblygu ein pobl ifanc fel dinasyddion hyderus, medrus a gofalgar sy’n perthyn i Gymru a’r byd.  

Fel y dywedodd Graham Donaldson, nid yw’n gystadleuaeth rhwng sgiliau a gwybodaeth.

Mae’n ymwneud â grymuso athrawon i arwain disgyblion i fod yn ddinasyddion hyderus, gan roi gwybodaeth gysylltiedig, ddealladwy a sylfaenol iddyn nhw yr un pryd.

Rydw i am i’n dinasyddion ieuengaf ni i nid yn unig ddeall y byd o’u cwmpas, ond i gwestiynu’r byd o’u cwmpas, a’i newid er gwell!

Camau Nesaf

Roeddwn yn falch o lofnodi cytundeb blaengar gyda’r Prif weinidog newydd cyn y Nadolig.

Roedd yn cadarnhau, ac rwy’n dyfynnu: “Mae Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl yn amlinellu cynllun gweithredu uchelgeisiol, ar gyfer diwygio addysg. Bydd yn parhau i fod yn sail i’n rhaglen er mwyn codi safonau a lleihau’r bwlch cyrhaeddiad.”

Fe wnaethom ni gytuno ymhellach ar gyfres o flaenoriaethau sy’n adeiladu ar ei ymrwymiadau a’m cynlluniau i ar gyfer diwygio addysg.  

Dyma sy’n rhoi gweledigaeth glir ar gyfer ein camau nesaf. 

Rydw i am dynnu sylw at rai ohonyn nhw nawr a’r gobaith yw y bydd hynny’n annog pobl i ofyn cwestiynau a rhannu syniadau a safbwyntiau yn y sesiwn nesaf. 

Wrth gwrs, dylwn bwysleisio mai’r flaenoriaeth gyntaf yw “dylunio, datblygu a chyflwyno cwricwlwm o’r radd flaenaf” a byddwn yn cymell pawb i ddarllen y Papur Gwyn a rhoi sylwadau. 

Bydd y cwricwlwm drafft ar gael ym mis Ebrill fel y gall pobl roi adborth arno.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir wrthym fel Cabinet bod yna rwymedigaeth arnom fel Llywodraeth i weithredu lle gallwn ni er mwyn mynd i’r afael ag anfantais a thlodi, a thorri’r cysylltiad rhwng amddifadedd a thynged.

Yn y cytundeb, rydym wedi ymrwymo i “godi safonau a sicrhau cyfleoedd i ddisgyblion o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig drwy gymorth wedi’i dargedu, gan gynnwys dyblu’r Grant Datblygu Disgyblion - Mynediad, ac ymestyn y rhaglen Bwyd a Hwyl i Wyliau’r Ysgol.

Ond gwn fod yna lawer mwy y gallwn ei wneud, dryw gydweithio.

Meddai Dalton McGuinty, cyn Brif Weinidog Rhyddfrydol Ontario - a phensaer y rhaglen diwygio addysg fwyaf dylanwadol a llwyddiannus erioed o bosibl mewn blynyddoedd diweddar:

“Government’s responsibility is to ensure that all have every opportunity to learn and to succeed. It’s in the public interest – and it’s a matter of enlightened self-interest. Government’s commitment to learning is the single-most important thing we can do for our future.”

Rydw i’n cytuno’n llwyr.

Yn syml iawn, allwn ni ddim diystyru unrhyw un, nac unrhyw le.

Mae gwneud i’r gwrthwyneb nid yn unig yn gwneud cam a’r disgybl a’i deulu; mae’n gwneud cam â ni fel cymuned addysg, fel gwlad.

Ein her fwyaf - fy her fwyaf i- yw mynd i’r afael â’r gwahaniaeth mewn cyrhaeddiad rhwng plant o’n cefndiroedd mwyaf difreintiedig a’u cymheiriaid.

Unwaith y mae’r bobl ifanc hyn dan ein gofal fel cymuned addysg, byddwn ni, o’r diwrnod cyntaf, yn eu cefnogi tan y byddan nhw’n cyrraedd eu potensial llawn.

Ni ddylem fyth ostwng ein disgwyliadau i unrhyw un o’n pobl ifanc, waeth beth fo’u cefndir. Mae’n fater sylfaenol o degwch a rhagoriaeth i bawb.

Gwn nad yw hi’n hawdd.

Gwn y bydd pobl eraill yn chwilio am esgusodion na fydd disgwyl i rai cohortau gael budd o gwricwlwm eang a chytbwys, na allwn ni ddisgwyl iddyn nhw sefyll yr un arholiadau, na ddylen nhw gael llwybr i’r proffesiynau.

Mae’n ddrwg gen i, ond dydw i ddim yn derbyn hynny, o gwbl.

Dyma pam roeddwn i’n falch y llynedd o weld ysgolion yn cymryd camau i symud disgyblion o BTEC Gwyddoniaeth i TGAU Gwyddoniaeth. Cynnydd o 50%.

Ac yn wir efallai ei fod wedi gostwng canlyniadau cenedlaethol cyffredinol TGAU i ryw raddau.

Ond wyddoch chi, gallwn fod yn falch bod miloedd ar filoedd yn fwy o ddisgyblion yng Nghymru erbyn hyn yn cael cymhwyster TGAU mewn Gwyddoniaeth, yn hytrach na BTEC yn unig. 

Mae hynny’n codi safonau a gwella cyfleoedd i’n holl ddysgwyr, yn enwedig y rhai o gefndiroedd tlotach.

A bydd ein mesurau perfformiad newydd ar gyfer eleni yn gwneud yn siŵr bod gennym ddadansoddiad llawnach, mwy soffistigedig a mwy cadarn o gynnydd ysgolion a dysgwyr nac sydd gennym ni ar hyn o bryd.

Bydd fersiwn ddiwygiedig y sgôr pwyntiau cyfredol ‘Capio 9’ yn dangos y cyrhaeddiad a chynnydd ar draws cohort ysgol gyfan, gan gynnwys y sgôr pwyntiau cyfartalog ar gyfer dysgwyr sy’n gymwys ac sydd ddim yn gymwys ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim.

Bydd y cohort ar gyfer pob ysgol yn cael ei rannu’n dri gan ddangos y sgôr cyfartalog ar gyfer y traean sydd â’r sgôr uchaf yn y cohort, ail draean y cohort a thraean isaf y cohort. Bydd hyn yn sicrhau nad yw ysgolion yn cynyddu eu sgoriau cyfartalog drwy, yn syml, ganolbwyntio ar ran unigol o’r cohort.  

Dyw llwyddiant ysgolion o ran lleihau’r blwch mewn cyrhaeddiad – hyd yn oed dileu’r blwch cyrhaeddiad yn gyfan gwbl – ddim yn cael ei ddangos na’i ddathlu’n ddigonol yn ein mesurau perfformiad cyfredol. 

Eleni, hoffwn weld newid sylfaenol mewn diwylliant.

Wrth gwrs, er mwyn codi lefelau cyrhaeddiad yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, mae angen canolbwyntio ar ymgysylltu â’r gymuned a rhieni.

Dyna un rheswm pan rydw i a’r Prif Weinidog wedi cytuno i ehangu ein Menter Ysgolion Bro newydd i gynnig cymorth ychwanegol i ysgolion a cholegau i helpu rhieni a phlant i ddysgu gyda’i gilydd.

Fi yw’r cyntaf i gydnabod ein bod angen gwneud mwy yn y maes hwn.

Mae angen i ni feddwl o’r newydd am y ffordd rydyn i’n defnyddio cyfleusterau cyhoeddus, y ffordd y gall colegau a phrifysgolion gefnogi ysgolion, y ffordd y gallwn integreiddio canolfannau iechyd a chymunedol mewn ysgolion, y ffordd y gellir defnyddio ysgolion ar gyfer dysgu gydol oes a llawer mwy.

Yn ystod ymweliad diweddar ag Efrog Newydd, fe wnaeth eu model o ysgol gymunedol wneud argraff arna i. Mae wedi’i brofi bod cydleoli cyfleusterau yn gostwng absenoldebau ysgol ac amser rhieni i ffwrdd o’r gwaith. Maen nhw’n helpu i fynd i’r afael ag anfantais o ran mynediad pobl i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol craidd hefyd.

Mae fy swyddogion yn gweithio’n galed - gyda rhanddeiliaid - i symud y gwaith hwn yn ei flaen. Ond yn sicr nid ni yw’r unig rai sydd â syniadau da a byddwn yn annog pawb sydd â syniadau ac arferion da i ddod ymlaen.

Gan i mi sôn am Ontario ac Efrog Newydd, mae yna gysylltiad arall â Gogledd America yn y camau nesaf.

Am y tro cyntaf eleni, Cymru oedd un o’r ychydig o wledydd dethol i gymryd rhan yn y rhaglen Global Teaching Labs, a gynhelir gan Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT).

Mae MIT wedi cyrraedd y brig am y seithfed flwyddyn yn olynol fel y brifysgol orau yn y byd, ac roeddwn wrth fy modd cael ymweld â’r sefydliad y llynedd a thrafod cyfranogiad Cymru yn y rhaglen.

Felly, fis diwethaf, fe wnaeth rhai o hyfforddwyr MIT – rhai o fyfyrwyr STEM disgleiriaf y byd – addysgu prosiectau gwyddoniaeth a mathemateg a gweithdai mewn ysgolion yma, gan gyfrannu at ddysgu proffesiynol a chydweithio rhwng ysgolion.

Mae fy nghytundeb gyda’r Prif Weinidog yn ein hymrwymo i ehangu cynlluniau mentora israddedigion mewn disgyblaethau allweddol fel gwyddoniaeth, ieithoedd a chyfrifiadura yn ein hysgolion.

Fel y gwyddoch – ac mae Met Caerdydd wedi bod yn llwyddiannus – yn ddiweddar rydyn ni wedi diwygio ac achredu ein rhaglenni newydd ar gyfer hyfforddi athrawon.

Ond rydyn ni angen adeiladu ar hyn hefyd ac ystyried ffyrdd newydd, anhraddodiadol o gefnogi’r gweithlu cyfredol, gan gyflwyno safbwyntiau a phrofiadau newydd, a gwahanol lwybrau i’r proffesiwn.

Mae cael mwy o fyfyrwyr yn ein hysgolion i ysbrydoli disgyblion mewn pynciau fel gwyddoniaeth ac ieithoedd yn ffordd wych o godi dyheadau a safonau, ond mae’n creu adnodd addysgu newydd posib hefyd.

Yn wir, mae’r rhaglen mentora ieithoedd wedi bod mor llwyddiannus nes bod ein ffrindiau yn Llywodraeth Lloegr wedi penderfynu ei chopïo ac maen nhw’n cyllido cynllun yn Swydd Efrog!

Rydyn ni’n barod i helpu bob amser!

Casgliadau

Wrth gwrs, dim ond ychydig o’r camau nesaf rydw i wedi tynnu sylw atyn nhw.

Rydym yng nghanol y gyfres fwyaf o ddiwygiadau addysg yn unman yn y DU ers dros hanner canrif.

I’r rhai ohonoch chi sydd yma heno sydd ar ganol rhaglen hyfforddi athrawon – diolch.

Yn eich dwylo chi fydd y newid. Ac mi fyddwch chi’n gwbl hanfodol i lwyddiant ein diwygiadau.

Nid yn fy nwylo i, na dwylo’r Prif Weinidog, nac unrhyw weision sifil sy’n darparu ein cwricwlwm newydd a chodi safonau i bawb yn ein hysgolion.

A’ch cyfle chi yw e, eich cyfle chi i newid bywydau ar hyd a lled Cymru.

Mae’n ‘bwrpas cyffredin’ y mae pawb ohonom yn ei rannu.

Cychwynnais drwy gyfeirio at Stuart Rendel, a’r ddeddfwriaeth addysg gyntaf i Gymru, tua 130 o flynyddoedd yn ôl.

Yn yr araith honno yn San Steffan, dywedodd:

the encouragement of the Welsh people in respect of learning would be the best investment the Government could make”.

Gwir pob gair.

Ac mae ein buddsoddiad mewn athrawon, ac athrawon y dyfodol, yn gwbl ganolog i lwyddiant cenhadaeth ein cenedl.

Diolch.