Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd y cyffur ymestyn oes newydd, nivolumab, sy'n trin rhai ffurfiau o ganser yr ysgyfaint.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Drwy gynllun mynediad cleifion rhwng GIG Cymru a'r cynhyrchwr, Bristol-Myers Squibb, bydd y cyffur ar gael i drin rhai pobl sy'n dioddef o ganser yr ysgyfaint celloedd bach datblygedig, hyd yn oed os ydynt wedi cael triniaeth cemotherapi. 

Bydd nivolumab, sydd hefyd yn cael ei alw'n Opdivo®, ar gael lle bo angen clinigol amdano ddim hwyrach na 60 diwrnod ar ôl llofnodi'r cytundeb. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

"Rwy'n falch bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi gallu dod i gytundeb â'r cynhyrchwr gan olygu y bydd y cyffur ar gael fel mater o drefn yma i gleifion a fydd yn elwa arno. 

"Mae ein Cronfa Triniaethau Newydd sy'n werth £80m a lansiwyd ym mis Ionawr eleni yn cefnogi mynediad mwy cyson a chyflymach at feddyginiaethau sydd wedi'u hargymell gan NICE ac AWMSG. Mae hyn yn cynnwys triniaethau newydd ar gyfer canser – megis nivolumab – hyd yn oed pan fo argymhelliad NICE yn dibynnu ar gytundeb manwl â'r cynhyrchwr."