Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg Kirsty Williams wedi dymuno’n dda i ddisgyblion Ysgol Gyfun Rhydywaun, Aberdâr cyn iddyn nhw ymddangos yn rownd derfynol y gwobrau peirianyddol nodedig ar...
Mae’r rhaglen Peirianwyr Yfory, sy’n cael ei harwain gan y gymuned beirianyddol, yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael profiad o gymryd rhan uniongyrchol mewn gweithgareddau sy’n dangos manteision gyrfa mewn peirianneg.
Yn rhan o’u her flynyddol yn seiliedig ar y cwricwlwm mewn Roboteg, aeth myfyrwyr 11-14 oed yng Nghwm Cynon ati i ddysgu sut i adeiladu, rhaglennu a rheoli robotiaid annibynnol LEGO i gwblhau cyfres o dasgau. Mae hyn yn ei dro wedi rhoi profiad uniongyrchol iddynt o ddatrys heriau ym meysydd peirianneg, technoleg a chyfrifiadureg yn y byd go iawn yn ogystal â gweithio’n rhan o dîm.
Mae Ysgol Gyfun Rhydywaun, a enillodd y rownd derfynol ranbarthol ar gyfer De Cymru, bellach wedi’i gwahodd i gystadlu yn y rownd derfynol yn y Deyrnas Unedig yng nghanolfan yr NEC yn Birmingham ddydd Gwener (17 Mawrth).
Dywedodd Kirsty Williams,
“Dyma stori wych am lwyddiant a hoffwn ddymuno’r gorau i’r ysgol a’i disgyblion yn y rownd derfynol. Mae eu llwyddiant yn ategu’n dda ein huchelgais allweddol o godi safonau o ran dysgu ac addysgu gwyddoniaeth a thechnoleg.
“Rydyn ni am i’n pobl ifanc fedru rhesymu’n wyddonol a deall gwerth dulliau gwyddonol o weithredu. Mae hyn yn allweddol ar gyfer yr 21fed ganrif, fel sy’n cael ei brofi gan PISA, ac mae ein cwricwlwm newydd yn cael ei gynllunio i integreiddio’n well â hyn oll.
“Yn gynharach eleni, cyhoeddais greu rhwydwaith cenedlaethol newydd er rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth a thechnoleg gyda’r bwriad o wella profiadau disgyblion yn y meysydd hyn mewn ysgolion. Bydd y rhwydwaith yn cynnwys ysgolion sy’n gweithio gydag adrannau gwyddoniaeth a thechnoleg mewn prifysgolion, consortia addysg, addysg bellach ac arbenigwyr eraill i ddysgu gan yr arferion gorau sydd ar gael.”
Mae’r llwyddiant hwn yn dod yn sgil llwyddiant Tîm Tachyon, grwp o ddisgyblion blwyddyn 11 o Ysgol Uwchradd Dinbych, a enillodd yn ddiweddar dair gwobr i Gymru yn F1 ym Mhencampwriaethau’r Byd ar gyfer Ysgolion yn Austin, Texas.