Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru (Cyfrifiad 2021) (diwygiedig)
Cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd hunangofnodedig preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru yn 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi data Cyfrifiad 2021 ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru a Lloegr (dydd Gwener 6 Ionawr 2023), mewn dau fwletin ar wahân:
- Cyfeiriadedd rhywiol, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
- Hunaniaeth o ran rhywedd, Cymru a Lloegr: Cyfrifiad 2021
Mae'r bwletin ystadegol hwn yn cynnwys crynodebau mewn perthynas â’r ddau faes hyn i Gymru.
Gofynnwyd cwestiynau gwirfoddol ar gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth o ran rhywedd am y tro cyntaf yng Nghyfrifiad 2021. Gofynnwyd i'r ymatebwyr 16 oed a throsodd am eu cyfeiriadedd rhywiol, ac roedd y gwahanol fathau o opsiynau y gallent ddewis ohonynt yn cynnwys "Strêt/Heterorywiol", "Hoyw neu Lesbiaidd", "Deurywiol", a "Chyfeiriadedd rhywiol arall". Os dewiswyd "Cyfeiriadedd rhywiol arall", gofynnwyd iddynt nodi’r cyfeiriadedd rhywiol yr oeddent yn uniaethu ag ef.
Gofynnwyd hefyd i'r ymatebwyr 16 oed a throsodd: "A yw'r rhywedd rydych chi'n uniaethu ag ef yr un peth â'ch rhyw a gofrestrwyd pan gawsoch chi eich geni?" ac roedd ganddynt yr opsiwn o ddewis naill ai "Ydy" neu "Nac ydy" a nodi eu hunaniaeth o ran rhywedd.
Prif bwyntiau
Cyfeiriadedd rhywiol
- Ar Ddiwrnod y Cyfrifiad, 21 Mawrth 2021, ymatebodd 2.4 miliwn o bobl sydd fel arfer yn byw yng Nghymru i'r cwestiwn gwirfoddol ar gyfeiriadedd rhywiol (92.4% o'r boblogaeth sy’n 16 oed a throsodd).
- Disgrifiodd 2.3 miliwn o bobl eu hunain yn “Strêt/Heterorywiol” (89.4% o'r boblogaeth sy’n 16 oed a throsodd).
- Disgrifiodd 38,000 (1.5%) eu hunain yn "Hoyw neu Lesbiaidd"
- Disgrifiodd 32,000 (1.2%) eu hunain yn "Ddeurywiol".
- Nododd 7,000 (0.3%) fod ganddynt gyfeiriadedd rhywiol arall, ac o’r rhain yr ymatebion mwyaf cyffredin oedd "Panrywiol" (0.1%), "Arywiol" (0.1%) a "Cwiar" (0.02%) (r).
- Dewisodd gyfanswm o 77,000 o bobl sydd fel arfer yn byw yng Nghymru (3.0% o'r boblogaeth sy’n 16 oed a throsodd) gyfeiriadedd rhywiol LHD+ ("Hoyw neu Lesbiaidd", "Deurywiol" neu gyfeiriadedd rhywiol arall) yn 2021.
- Nid oedd y 194,000 o bobl eraill 16 oed a throsodd (7.6%) wedi ateb y cwestiwn ar gyfeiriadedd rhywiol.
- O blith awdurdodau lleol Cymru, Caerdydd oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn uniaethu â chyfeiriadedd rhywiol LHD+ yn 2021 (5.3%) a wedyn Ceredigion (4.9%).
Hunaniaeth o ran rhywedd
- Cafwyd ymatebion gan 2.4 miliwn o bobl (93.7% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd) i'r cwestiwn gwirfoddol ar hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru.
- Atebodd 93.3% o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd "Ydy", gan nodi bod eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un fath â'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni.
- Atebodd mwy na 10,000 o bobl (0.4%) "Nac ydy", gan nodi bod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni.
- Nododd 1,900 o bobl eu bod yn uniaethu â rhywedd dyn traws, 1,900 o bobl eu bod yn uniaethu â rhywedd menyw draws, a 1,500 o bobl eu bod yn uniaethu â rhywedd anneuaidd. Atebodd 4,000 o bobl (0.2%) "Nac ydy" ond ni nodwyd eu hunaniaeth o ran rhywedd.
- Yr awdurdodau lleol â'r cyfrannau mwyaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd wedi nodi rhywedd gwahanol i’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni oedd Caerdydd a Cheredigion (0.7% yr un), a wedyn Casnewydd (0.6%).
Cyfeiriadedd rhywiol
Term cyffredinol yw cyfeiriadedd rhywiol sy'n cwmpasu hunaniaeth, atyniad ac ymddygiad rhywiol. Efallai na fydd y rhain yr un fath ar gyfer ymatebwyr unigol. Er enghraifft, efallai y bydd rhywun mewn perthynas o'r naill ryw hefyd yn profi atyniad i bobl o'r un rhyw, ac i'r gwrthwyneb. Mae hyn yn golygu y dylid dehongli bod yr ystadegau'n dangos sut yr ymatebodd pobl i'r cwestiwn, yn hytrach na'u bod yn dangos pwy y mae ganddynt atyniad iddynt na'u cydberthnasau gwirioneddol.
Roedd y cwestiwn ar gyfeiriadedd rhywiol yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021. Rydym wedi casglu data ar gyfeiriadedd rhywiol yn y gorffennol drwy'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, ond drwy gynnwys y cwestiwn yn holiadur y cyfrifiad, gellir cael dealltwriaeth fanylach o lawer o gyfeiriadedd rhywiol yng Nghymru a Lloegr. Bydd y data'n diwallu'r anghenion ar gyfer gwybodaeth o ansawdd well am y boblogaeth LHD+ ar gyfer monitro a chefnogi dyletswyddau gwrthwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Bydd y data hefyd yn darparu tystiolaeth ar gyfer Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru.
Roedd y cwestiwn yn wirfoddol a dim ond i bobl 16 oed a throsodd y gwnaethpwyd ei ofyn. Gofynnwyd i bobl “Pa un o’r canlynol sy’n disgrifio orau eich cyfeiriadedd rhywiol?”. Ymysg yr opsiynau cyfeiriadedd rhywiol gwahanol y gallai pobl ddewis ohonynt oedd:
- Strêt/Heterorywiol
- Hoyw neu Lesbiaidd
- Deurywiol
- Cyfeiriadedd rhywiol arall
Os dewisodd yr ymatebwyr "Cyfeiriadedd rhywiol arall", gofynnwyd iddynt nodi'r cyfeiriadedd rhywiol yr oedden nhw'n uniaethu ag ef.
Yn y bwletin hwn, rydym yn cyfeirio at y rhai a uniaethodd â chyfeiriadedd rhywiol LHD+. Mae hyn yn cyfeirio at y grŵp o ymatebwyr a ddewisodd "Hoyw neu Lesbiaidd", "Deurywiol" neu a ddewisodd nodi gyfeiriadedd rhywiol gwahanol.
Cyfeiriadedd rhywiol yng Nghymru
Ffigur 1: Ymatebion i'r cwestiwn ar gyfeiriadedd rhywiol yng Nghymru, 2021
Mae'r siart far wedi'i stacio hon yn dangos sut yr ymatebodd preswylwyr arferol Cymru i'r cwestiwn ar gyfeiriadedd rhywiol yn 2021.
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021
Atebodd cyfanswm o 2.4 miliwn o breswylwyr arferol yng Nghymru (92.4% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd) y cwestiwn ar gyfeiriadedd rhywiol.
Disgrifiodd 2.3 miliwn o bobl (89.4% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd) eu cyfeiriadedd rhywiol fel "Strêt/Heterorywiol", 38,000 (1.5%) fel "Hoyw neu Lesbiaidd", a 32,000 (1.2%) fel "Deurywiol". Dewisodd 7,000 (0.3%) arall nodi eu cyfeiriadedd rhywiol.
At ei gilydd, roedd 77,000 o breswylwyr arferol yng Nghymru (3.0% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd) yn uniaethu a chyfeiriadedd rhywiol LHD+ yn 2021. Mae hon yn gyfran lai nag yn Lloegr (3.2%) ac mewn chwech o'r naw rhanbarth yn Lloegr.
Ffigur 2: Cyfansoddiad o ran cyfeiriadedd rhywiol LHD+ yng Nghymru, 2021 (diwygiedig)
Mae'r siart bar hwn yn dangos cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd yng Nghymru a nododd eu bod yn uniaethu â chyfeiriadedd rhywiol LHD+ yn 2021. "Hoyw neu Lesbiaidd" a "Deurywiol" oedd y ddau gyfeiriadedd LHD+ mwyaf cyffredin.
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021
O'r 7,000 o bobl a nododd fod ganddynt cyfeiriadedd rhywiol arall, yr ymatebion mwyaf cyffredin oedd:
- "Panrywiol" (2,600, 0.1%) (r)
- "Arywiol" (1,600, 0.1%)
- "Cwiar" (600, 0.02%).
Roedd 2,200 arall (0.1%) wedi nodi ymateb gwahanol i’r rhai a restrir uchod (r).
Roedd y 194,000 o bobl eraill 16 oed a throsodd (7.6%) heb ateb y cwestiwn ar gyfeiriadedd rhywiol.
Sut amrywiodd gyfeiriadedd rhywiol ar draws Cymru
Caerdydd (5.3%) oedd â'r gyfran uchaf o breswylwyr arferol 16 oed a throsodd a oedd yn uniaethu â chyfeiriadedd rhywiol LHD+ yn 2021. Caerdydd oedd â'r 21ain gyfran fwyaf o'r boblogaeth a oedd yn uniaethu â chyfeiriadedd rhywiol LHD+ ar draws pob un o’r 355 awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr. Ceredigion (4.9%), Abertawe (3.4%), Gwynedd (3.3%) a Bro Morgannwg (3.1%) oedd yr unig awdurdodau lleol eraill a oedd â chyfran uwch o bobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadedd rhywiol LHD+ na chyfartaledd Cymru (3.0%). Roedd cyfran y bobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadedd rhywiol LHD+ ar ei hisaf ar Ynys Môn (2.0%).
Y pedwar awdurdod lleol â'r gyfran uchaf o bobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadedd rhywiol LHD+ (Caerdydd, Ceredigion, Abertawe a Gwynedd) oedd y pedwar awdurdod lleol a welodd y gyfran uchaf o'r boblogaeth rhwng 16 a 24 oed yn 2021. Yn yr un modd, roedd tri o'r pedwar awdurdod lleol â'r gyfran isaf o bobl a oedd yn uniaethu â chyfeiriadedd rhywiol LHD+ (Ynys Môn, Powys a Sir Fynwy) hefyd yn cynnwys tri o'r pedwar awdurdod lleol sydd â gyfran isaf o breswylwyr rhwng 16 a 24 oed.
Ffigur 3: Cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a nododd eu bod yn uniaethu â chyfeiriadedd rhywiol LHD+ yng Nghymru, yn ôl awdurdod lleol, 2021
Mae'r map hwn yn dangos sut oedd cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a throsodd a uniaethodd â chyfeiriadedd rhywiol LHD+ yn amrywio yn ôl awdurdod lleol yn 2021. Roedd y gyfran uchaf yng Nghaerdydd, ac wedyn Ceredigion.
Roedd cyfran y bobl a oedd wedi nodi eu bod yn "Hoyw neu Lesbiaidd" ar ei huchaf yng Nghaerdydd (2.4%), Bro Morgannwg (1.7%), Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe (1.6% yr un). Cafwyd y cyfrannau isaf yn Sir Fynwy, Sir Benfro, Powys ac Ynys Môn, ac ym mhob un o'r rhain roedd 1.1% o'r boblogaeth wedi nodi eu bod yn "Hoyw neu Lesbiaidd".
Roedd cyfran y bobl a oedd wedi nodi eu bod yn "Ddeurywiol" ar ei huchaf yng Ngheredigion (2.6%), Caerdydd (2.4%) Gwynedd (1.6%) ac Abertawe (1.5%). Ceredigion a Gwynedd oedd yr unig awdurdodau lleol yng Nghymru a chanddynt fwy o bobl yn nodi eu bod yn "Ddeurywiol" (2.6% a 1.6% yn y drefn honno) na "Hoyw neu Lesbiaidd" (1.5% a 1.3% yn y drefn honno).
Yr awdurdodau lleol â'r cyfrannau mwyaf o bobl a ddewisodd nodi eu cyfeiriadedd rhywiol oedd Ceredigion (0.7%) a Chaerdydd (0.5%).
Yng Ngheredigion a Chaerdydd, roedd 0.2% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd wedi nodi eu bod yn "Panrywiol". Ym mhob awdurdod lleol arall y gyfran honno oedd tua 0.1% (r).
Roedd cyfran y bobl 16 oed a throsodd a oedd wedi nodi eu bod yn "Arywiol" hefyd ar ei huchaf yng Ngheredigion (0.2%). Cyfran y bobl a nododd yr un fath oedd 0.1% mewn deg awdurdod lleol arall – Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Gwynedd, Sir Fynwy, Casnewydd, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg.
"Cwiar" oedd yr ymateb mwyaf cyffredin ar ôl "Panrywiol" ac "Arywiol" yng Nghymru yn 2021. Roedd cyfrannau'r boblogaeth a oedd wedi nodi “Cwiar” ar eu huchaf yng Ngheredigion, Caerdydd a Gwynedd (0.1% yr un).
Hunaniaeth o ran rhywedd
Mae hunaniaeth o ran rhywedd yn cyfeirio at ymdeimlad person o'u rhywedd eu hunain, boed yn ddyn, yn fenyw neu’n gategori arall megis anneuaidd. Gall hyn fod yr un fath neu’n wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni.
Roedd y cwestiwn ar hunaniaeth o ran rhywedd yn newydd ar gyfer Cyfrifiad 2021. Cafodd ei ychwanegu er mwyn darparu’r data swyddogol cyntaf ar faint y boblogaeth drawsryweddol yng Nghymru a Lloegr. Bydd y data'n helpu i ddarparu gwybodaeth o ansawdd well ar gyfer monitro a chefnogi dyletswyddau gwrthwahaniaethu o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, ac yn helpu i ddyrannu adnoddau a datblygu polisi. Bydd y data hefyd yn darparu tystiolaeth ar gyfer Cynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru.
Roedd y cwestiwn yn un gwirfoddol, a gofynnwyd i bobl 16 oed a hŷn yn unig i’w ateb. Gofynnwyd i'r ymatebwyr "A yw'r rhywedd rydych chi’n ei uniaethu ag ef yr un peth â'ch rhyw a gofrestrwyd pan gawsoch chi eich geni?" ac roedd ganddynt yr opsiwn i ddewis naill ai "Ydy” neu Nac ydy" a nodi eu hunaniaeth o ran rhywedd.
Hunaniaeth o ran rhywedd yng Nghymru
Yng Nghymru, ymatebodd 2.4 miliwn o bobl i’r cwestiwn ar hunaniaeth o ran rhywedd (93.7% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd).
Fe atebodd 93.3% o boblogaeth Cymru sy'n 16 oed neu'n hŷn "Ydy", gan ddangos bod eu hunaniaeth o ran rhywedd yr un fath â'r rhyw a gofrestrwyd gawsant eu geni. Atebodd dros 10,000 o bobl (0.4%) "Nac ydy", gan ddangos bod eu hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i'w rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni.
Roedd y cyfrannau o bobl a atebodd "Ydy" a "Nac ydy” yn is yng Nghymru (93.3% a 0.4% y drefn honno) nag yn Lloegr (93.5% a 0.5% yn y drefn honno), tra bod cyfran y bobl na wnaeth ateb y cwestiwn yn fwy yng Nghymru (6.3%) nag yn Lloegr (6.0%).
Ffigur 4: Hunaniaethau o ran rhywedd yng Nghymru, 2021
Mae'r siart bar hon yn dangos cyfran y preswylwyr arferol 16 oed a hŷn yng Nghymru a ymatebodd "Nac ydy" i'r cwestiwn ar hunaniaeth o ran rhywedd yn 2021. Nid oedd llawer o bobl wedi nodi hunaniaeth o ran rhywedd, ond "Dyn traws", "Menyw draws" ac "Anneuaidd" oedd yr hunaniaethau o ran rhywedd mwyaf cyffredin a nodwyd gan yr ymatebwyr.
Ffynhonnell: Cyfrifiad 2021
Nodyn: Mae'r rhai a atebodd "Ydy" i'r cwestiwn ar hunaniaeth o ran rhywedd wedi cael eu hepgor o Ffigwr 4 er mwyn ei gwneud hi'n haws gweld yn glir y gwahaniaethau ar gyfer yr ymatebion gan bobl a atebodd "Nac ydy", sy'n cyfrif am ganran lai o'r boblogaeth gyffredinol.
O’r 10,000 o bobl 16 oed a throsodd a atebodd "Nac ydy":
- Atebodd 4,000 (0.2% o'r boblogaeth 16 oed a throsodd) "Nac ydy" ond ni nodwyd eu hunaniaeth o ran rhywedd
- Nododd 1,900 (0.1%) eu bod yn uniaethu â rhywedd “Dyn traws”
- Nododd 1,900 (0.1%) eu bod yn uniaethu â rhywedd “Menyw draws”
- Nododd 1,500 (0.1%) eu bod yn uniaethu â rhywedd “Anneuaidd”
- Roedd 900 (llai na 0.04%) wedi nodi ymateb gwahanol.
Sut roedd hunaniaeth o ran rhywedd yn amrywio ar draws Cymru
Yr awdurdodau lleol â'r cyfrannau mwyaf o'r poblogaethau preswyl arferol 16 oed a throsodd a nododd hunaniaeth o ran rhywedd wahanol i'w rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni oedd Caerdydd a Cheredigion (0.7% yr un), ac yna Casnewydd (0.6%). Ym mhob awdurdod lleol arall roedd y gyfran hon yn 0.3% neu 0.4%.
Ym mhob awdurdod lleol, roedd 0.1% neu fwy o'r boblogaeth 16 oed a throsodd wedi ateb "Nac ydy" i'r cwestiwn hunaniaeth o ran rhywedd ond nid oeddent wedi nodi hunaniaeth rhywedd benodol, ac yng Nghasnewydd (0.4%) oedd y gyfran fwyaf o'r boblogaeth a ymatebodd fel hyn yn 2021.
O ran hunaniaethau o ran rhywedd penodol, nododd 0.1% o boblogaeth yr holl awdurdodau lleol eu bod yn uniaethu â rhywedd "menyw draws", ac eithrio yn Nghonwy a Thorfaen (llai na 0.1%). Yn debyg i hynny, nododd 0.1% o boblogaeth yr holl awdurdodau lleol eu bod yn uniaethu â rhywedd "dyn traws", ac eithrio Sir Ddinbych, Sir Fynwy a Phowys (llai na 0.1%).
Cyfran y boblogaeth 16 oed a hŷn yng Ngheredigion a nododd eu bod yn uniaethu â rhywedd "anneuaidd" oedd 0.2%. Dyma'r unig awdurdod lleol lle'r oedd mwy na 0.1% o'r boblogaeth yn uniaethu â hunaniaeth o ran rhywedd benodol. Roedd cyfran y bobl a nododd eu bod yn uniaethu â rhywedd "anneuaidd" yn 0.1% yng Nghaerdydd, Gwynedd, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg.
Yng Nghaerdydd, Ceredigion a Gwynedd (0.1% yr un) oedd y cyfrannau uchaf o ymatebion heblaw "menyw draws", "dyn traws" ac "anneuaidd”.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
I gael gwybodaeth lawn am ansawdd a methodoleg, gan gynnwys geirfa, gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Mae geirfa i'w gweld yng Ngeiriadur Cyfrifiad 2021.
Darperir rhagor o wybodaeth am ein prosesau sicrhau ansawdd yn y fethodoleg Sicrhau bod amcangyfrifon poblogaeth Cyfrifiad 2021 o'r ansawdd gorau posibl (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol).
Gall newid yn y boblogaeth mewn rhai ardaloedd adlewyrchu'r ffordd y gwnaeth pandemig y coronafeirws (COVID-19) effeithio ar y breswylfa arferol a ddewiswyd gan bobl ar Ddiwrnod y Cyfrifiad. Gallai'r newidiadau hyn fod wedi bod yn rhai dros dro i rai pobl ac yn fwy hirdymor i bobl eraill.
Dibynadwyedd amcangyfrifon hunaniaeth rhywedd
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi dweud fod amcangyfrifon y Cyfrifiad ar gyfer hunaniaeth rhywedd yn amodol i lefel uwch o ansicrwydd na rhai pynciau eraill. Ceir patrymau yn y data sy'n gyson â phe bai rhai ymatebwyr wedi dehongli'r cwestiwn yn wahanol i'r bwriad. Er enghraifft, roedd canran y bobl a ddywedodd fod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'r rhyw a gofrestrwyd pan gawsant eu geni yn uwch ar gyfer pobl nad y Gymraeg na'r Saesneg oedd eu prif iaith o’i gymharu â’r boblogaeth gyffredinol. Roedd yn uwch eto ymhlith pobl nad oeddent yn siarad Cymraeg na Saesneg yn dda o gwbl.
Felly, mae angen rhoi ystyriaeth ychwanegol wrth ddehongli'r data. Ni ddylai dadansoddiadau daearyddol llai cael eu defnyddio fel amcangyfrif manwl gywir o’r boblogaeth traws, a dylai cymariaethau rhwng ardaloedd neu grwpiau gael eu hystyried yn ofalus, yn enwedig pan fod lefelau gwahanol o hyfedredd iaith Saesneg.
Am ragor o wybodaeth ac er mwyn cefnogi defnydd priodol, cyfeiriwch at y dudalen Gwybodaeth Ansawdd ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol cyn defnyddio’r amcangyfrifon yma.
Geirfa
I gael geirfa lawn, gweler geiriadur Cyfrifiad 2021 yr SYG.
Preswylydd arferol
Ystyr preswylydd arferol yw unrhyw un a oedd, ar ddiwrnod y Cyfrifiad, sef 21 Mawrth 2021, yn y Deyrnas Unedig ac wedi aros neu'n bwriadu aros yn y Deyrnas Unedig am 12 mis neu fwy, neu oedd â chyfeiriad parhaol yn y Deyrnas Unedig ac a oedd y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac yn bwriadu bod y tu allan i'r Deyrnas Unedig am lai na 12 mis.
Cyfeiriadedd rhywiol
Term cyffredinol yw cyfeiriadedd rhywiol sy'n cwmpasu hunaniaeth, atyniad ac ymddygiad rhywiol. Efallai na fydd y rhain yr un fath ar gyfer ymatebwyr unigol. Er enghraifft, efallai y bydd rhywun mewn perthynas o'r naill ryw hefyd yn profi atyniad i bobl o'r un rhyw, ac i'r gwrthwyneb. Mae hyn yn golygu y dylid dehongli bod yr ystadegau'n dangos sut yr ymatebodd pobl i'r cwestiwn, yn hytrach na'u bod yn dangos pwy y mae ganddynt atyniad iddynt na'u cydberthnasau gwirioneddol.
Nid ydym wedi cynnwys categorïau cyfeiriadedd rhywiol unigol yn yr eirfa. Mae hyn oherwydd y gall fod gan ymatebwyr unigol safbwyntiau gwahanol ar yr union ystyr.
LHD+
Talfyriad a ddefnyddir i gyfeirio at bobl sy'n uniaethu fel pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a chyfeiriadedd rhywiol lleiafrifol eraill (er enghraifft, arywiol).
Cyfeiriadedd rhywiol arall
Un o'r opsiynau ar holiadur Cyfrifiad 2021 ar gyfer y cwestiwn ar gyfeiriadedd rhywiol oedd "Cyfeiriadedd rhywiol arall". Gallai ymatebwyr a ddewisodd yr opsiwn hwn nodi eu cyfeiriadedd rhywiol.
Yn seiliedig ar adborth gan gymunedau Cydraddoldeb yng Nghymru, gan gynnwys y cymunedau LHD+, mae termau fel "arall" yn tueddu i ganoli grŵp penodol. Er enghraifft, o ran cyfeiriadedd rhywiol, byddai'r term "Arall" yn canoli heterorywioldeb fel y 'norm' sy'n cyfrannu at wahaniaethu pobl sy'n LBD+.
Hunaniaeth o ran rhywedd
Mae hunaniaeth o ran rhywedd yn cyfeirio at ymdeimlad person o'u rhywedd eu hunain, boed yn ddyn, yn fenyw neu’n gategori arall megis anneuaidd. Gall hyn fod yr un fath neu’n wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd ar adeg eu genedigaeth.
Anneuaidd
Efallai na fydd rhywun sy’n anneuaidd yn uniaethu â chategorïau deuaidd dyn a menyw. Yn y canlyniadau hyn mae'r categori yn cynnwys pobl a uniaethodd gyda'r term penodol "anneuaidd" neu amrywiolion. Fodd bynnag, mae'r rhai a ddefnyddiodd dermau eraill i ddisgrifio hunaniaeth nad oedd yn benodol yn ddyn neu’n fenyw wedi cael eu dosbarthu o dan "Pob hunaniaeth arall o ran rhywedd".
Dyn traws
Fel arfer mae dyn traws yn rhywun a gofrestrwyd yn fenyw adeg geni, ond sydd bellach yn uniaethu fel dyn.
Menyw draws
Fel arfer mae menyw draws yn rhywun a gofrestrwyd yn wrywaidd adeg geni, ond sydd bellach yn uniaethu fel dyn.
Hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i’r rhyw a gofrestrwyd adeg geni ond dim hunaniaeth benodol wedi’i nodi
Dyma’r bobl a atebodd "Nac ydy" i'r cwestiwn “A yw'r rhywedd rydych chi'n uniaethu ag ef yr un peth â'ch rhyw a gofrestrwyd pan gawsoch chi eich geni?" ond na wnaeth nodi hunaniaeth o ran rhywedd.
Statws Ystadegau Swyddogol
Ar 5 Medi 2024, fe wnaeth Emma Rourke, y Dirprwy Ystadegydd Gwladol, ysgrifennu i Ed Humpherson (Swyddfa Ystadegau Gwladol), sef Pennaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, i wneud cais fod yr amcangyfrifon hunaniaeth rhywedd o Gyfrifiad 2021 ddim bellach yn ystadegau swyddogol achrededig ac yn hytrach yn ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad. Cadarnhaodd y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau y newid yn y ddynodiad ar 12 Medi.
Mae’r newid yma yn y dynodiad yn adlewyrchu’r natur arloesol o’r amcangyfrifon hunaniaeth rhywedd a’r dealltwriaeth sy’n datblygu o fesur hunaniaeth rhywedd, ynghyd â’r ansicrwydd sy’n gysylltiedig â’r amcangyfrifon.
Am ragor o wybodaeth ac er mwyn cefnogi defnydd priodol, cyfeiriwch at y dudalen Gwybodaeth Ansawdd ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol cyn defnyddio’r amcangyfrifon yma.
Mae’r holl amcangyfrifon arall o Gyfrifiad 2021, gan gynnwys rheini ar gyfeiriadedd rhywiol, yn dal i fod wedi’u dynodi fel ystadegau swyddogol achrededig.
Well-being of Future Generations Act (WFG)
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Diben yw rhain yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, ffyniannus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) y mae’n rhaid eu defnyddio ar gyfer mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad hwn hefyd ddarparu naratif ategol i’r dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau lleol eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Andy O’Rourke
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SB 2/2023 (R)