Neidio i'r prif gynnwy

Daw'r data ar hunaniaeth rywiol o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ar gyfer 2019.

Mae'r pwyntiau isod wedi eu tynnu o'r bwletin diweddaraf Swyddfa Ystadegau Gwladol yn ogystal â'n dadansoddiad ychwanegol o set ddata cyfun sy'n cynnwys 3 blynedd o ddata'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth.

Oherwydd maint samplau bach, dylid bod yn ofalus wrth ddehongli’r ffigurau hyn.

Prif bwyntiau

  • Yn 2019, nodwyd fod 94.4% o bobl yng Nghymru dros 16 oed yn heterorywiol/syth. Mae hyn yn cymharu â 1.9% a nodwyd yn hoyw/lesbiaidd, 1.0%yn ddeurywiol, a 1.0% o dan y categori ‘arall’. Roedd 1.7% naill ai ddim yn gwybod, neu heb ateb y cwestiwn.
  • Dros y pum blwyddyn ddiwethaf, mae’r gyfran o’r boblogaeth Cymru a nodwyd yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol (LHD) wedi cynyddu’n raddol o 1.6% yn 2014 i 2.9% yn 2019.
  • O’r bobl yng Nghymru a nodwyd yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol, roedd mwy na dwy ran o dair ohonynt (71.2%) rhwng 16 a 44 mlwydd oed. Mae hyn yn cymharu â llai na hanner (42.8%) o’r boblogaeth gyfan.
  • Nododd tua dwywaith cymaint o ddynion na merched eu bod yn hoyw/lesbiaidd tra bod ychydig mwy na 65% o bobl a nodwyd yn ddeurywiol yn ferched.
  • Roedd unigolion a oedd yn ystyried eu hunain yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol yn fwy tebygol o fod yn sengl nag wedi priodi neu mewn partneriaeth sifil.
  • O'r rheiny a oedd yn ystyried eu hunain yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol, roedd 59.5% yn byw yn Ne-ddwyrain Cymru (o'i gymharu â 48.3% o'r boblogaeth gyfan). Roedd 14.0% yn byw yn y Gogledd (o'i gymharu â 29.3% o'r boblogaeth gyfan).
  • Roedd 75.5% o bobl a oedd yn ystyried eu hunain yn hoyw/lesbiaidd/deurywiol yn byw mewn tref fawr yn hytrach na thref fach neu bentref (o gymharu â 67.8% o’r boblogaeth).

Adroddiadau

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.