Neidio i'r prif gynnwy

Data ar hunaniaeth rywiol yn cael ei lunio gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar sail yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth. Mae'r bwletin hwn yn cynnwys y prif ffigurau ar gyfer Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y cyhoeddiad diweddaraf

Cyhoeddiadau blaenorol

Dehongli'r ystadegau hyn

Oedi'r diweddariadau

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn y broses o drawsnewid yr Arolwg o’r Llafurlu (SYG) a’r Arolwg Blynyddol cysylltiedig o’r Boblogaeth, sef ffynhonnell data’r gyfres hon o ddatganiadau ystadegol.

Oherwydd hyn, ac yn sgil yr amcangyfrifon cadarn o nodweddion y boblogaeth a gafwyd ar sail data diweddar Cyfrifiad 2021, rydym wedi penderfynu oedi cyn diweddaru’r gyfres hon, a byddwn yn ailedrych ar y sefyllfa unwaith y bydd y gwaith trawsnewid wedi dod i ben.

Mae trosolwg o gyfeiriadedd rhywiol yng Nghymru yn 2021 i’w weld yn ein crynodeb o Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth o ran Rhywedd. Mae setiau data ar gael ar wefan Nomis. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd wedi cyhoeddi setiau data amrywiol yn cyfuno cyfeiriadedd rhywiol â nodweddion eraill (SYG) ar sail Cyfrifiad 2021. 

Os ydych yn defnyddio’r ystadegau hyn ac am gael dweud eich dweud wrth inni ddatblygu allbwn i’r dyfodol, cysylltwch â ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru