Neidio i'r prif gynnwy

Llythyr gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Awst 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

David Allen
Cadeirydd,
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Yn fy natganiad polisi addysg uwch ar 4 Mai, cynigiais yr angen am gyfyngu ar y gyfradd dderbyn yn y sector addysg uwch yng Nghymru. Gosodwyd fy nghynnig yng nghyd-destun derbyniadau addysg uwch fel mater ledled y Deyrnas Unedig a oedd yn gofyn am ddull cydgysylltiedig ar draws y pedair gwlad ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21.

Roeddwn yn falch o weld ymgynghoriad CCAUC ar y mater hwn. Bellach mae angen ailystyried y dull gweithredu yng Nghymru yn sgil y rheoliadau a gymeradwywyd yn ddiweddar gan Senedd y Deyrnas Unedig a fydd yn gweithredu polisi rheoli rhifau myfyrwyr Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Nid wyf yn credu mai’r dull hwn sydd orau i Gymru. Rwyf wedi dweud eisoes mai fy mhrif flaenoriaeth yw amddiffyn buddiannau myfyrwyr Cymru a sefydliadau addysg uwch Cymru. Felly, nid wyf yn cynnig ceisio gweithredu mesurau tebyg yng Nghymru.

Mae data diweddar gan UCAS yn awgrymu bod diddordeb mewn symud ymlaen i addysg uwch ymhlith ymgeiswyr sy'n hanu o Gymru wedi tyfu ers mis Mawrth, ac mae'r gyfran uchaf erioed o bobl ifanc 18 oed o Gymru bellach yn gwneud cais i'r brifysgol.

Fodd bynnag, disgwylir i’r patrwm hwnnw yn 2020 fod yn gyfnewidiol ac yn wahanol iawn i flynyddoedd blaenorol, a gwyddom y bydd llawer o sefydliadau yn poeni am yr angen i lenwi lleoedd sydd, fel arfer, yn cael eu llenwi gan fyfyrwyr rhyngwladol a myfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd. O ganlyniad, nid wyf am weld dull rhy gystadleuol o recriwtio yn y sector addysg uwch yng Nghymru a allai beryglu sefydlogrwydd rhai o'n sefydliadau. Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod pob ymgeisydd israddedig llawnamser o Gymru sy'n meddu ar gymwysterau yn gallu dechrau addysg uwch yn y flwyddyn academaidd 2020/21.

Rwyf am ddarparu cyfleoedd yng Nghymru i bobl ifanc symud ymlaen â'u haddysg ac osgoi dod yn bobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) a darparu cyfleoedd hefyd ar lefel addysg uwch i weithwyr sydd wedi'u dadleoli, i gael sgiliau uwch neu sgiliau gwahanol newydd. Rwyf hefyd eisiau cynyddu capasiti sefydliadau Cymru i’r eithaf i recriwtio myfyrwyr newydd yn sgil y ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi cyfyngiadau newydd ar ymgeiswyr sy’n hanu o Loegr. Felly mae'n hanfodol sicrhau na fydd unrhyw reolau rhifau myfyrwyr yng Nghymru yn arwain at ganlyniad anfwriadol o gyfyngu ar gyfleoedd myfyrwyr trwy greu lleoedd gwag neu ormod o leoedd dros ben yn ein prifysgolion.

Felly, hoffwn i CCAUC gymryd y camau y maent yn eu hystyried yn briodol i sefydlogi’r sector yng Nghymru, heb gael effaith andwyol ar gynnig cyfleoedd i ddysgu yng Nghymru.
Rwy’n parhau i fod yn ddiolchgar iawn, ac yn edmygu’r dull gweithredu ar y cyd a sefydlwyd gyda’r sector yma yng Nghymru, sy’n bwrw ati i fynd i’r afael â’r heriau niferus ac amrywiol yr ydym yn eu wynebu yn sgil y pandemig hwn.

Yn gywir,

Kirsty Williams AC/AM
Y Gweinidog Addysg
Minister for Education