Mae’r Cyfarwyddydau uchod yn gwneud darpariaeth i Gontractwr Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ddewis peidio â chymryd rhan yn y rhan fwyaf o elfennau’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau tan fis Mawrth 2017 er mwyn gallu darparu adnoddau i ddiwallu anghenion cleifion yn ystod cyfnod lle bo cynnydd yn y galw. Mae’r Cyfarwyddyd hefyd yn amlinellu’r trefniadau talu a fydd yn sicrhau na fydd contractwr Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol ar ei golled yn ariannol yn sgil hynny.
Dogfennau
Cyfarwyddydau i Fyrddau Iechyd Lleol ar Gyfarwyddydau Datganiad o Hawliau Ariannol (Llacio’r Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau) 2017 (2017 Rhif 3) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.