Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Cyfarwyddydau yn nodi’r diwygiadau i’r gofynion ar gyfer darparu gwasanaethau fferyllol clinigol yng Nghymru.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dogfennau

Cyfarwyddydau Gwasanaethau Fferyllol (Gwasanaethau Clinigol) (Cymru) (Diwygio) 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 222 KB

PDF
222 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Y newidiadau yw:

  • Dileu’r Gwasanaeth Ffliw Tymhorol o’r Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Glinigol (CCPS). Cynnwys y Gwasanaeth Ffliw Tymhorol fel gwasanaeth clinigol dan gyfarwyddyd.
  • Galluogi technegwyr fferyllfa i ddarparu Gwasanaeth Brechu Tymhorol rhag y Ffliw drwy gyfarwyddyd grŵp cleifion. Bydd y newid hwn i’r gwasanaeth yn dechrau ar 1 Hydref 2024.
  • Galluogi technegwyr fferyllfa i ddarparu Gwasanaethau Atal Cenhedlu o dan y Gwasanaeth Fferylliaeth Gymunedol Glinigol (CCPS). Bydd y newid hwn i’r gwasanaeth yn dechrau ar 1 Chwefror 2025.