Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Caffael Masnachol.
Cynnwys
Cefndir
Mae Cyfarwyddiaeth Caffael Masnachol Llywodraeth Cymru yn cadw manylion cyswllt personol ar gyfer cynrychiolwyr sefydliadau ac unigolion, er mwyn ein galluogi i gadw mewn cysylltiad â rhanddeiliaid allanol ynghylch materion caffael sy'n effeithio ar y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth hon, ac rydym yn ei phrosesu yn unol â'n tasg gyhoeddus a'r awdurdod swyddogol a roddwyd inni:
I gysylltu â rhanddeiliaid:
- Rhoi gwybod iddynt am gyfarfodydd, digwyddiadau a/neu hyfforddiant yn ymwneud â chaffael yng Nghymru
- Rhannu arfer gorau
- Rhoi gwybod iddynt am waith caffael Llywodraeth Cymru a newidiadau deddfwyr
- Gofyn am adborth ac ymwneud ar faterion caffael
Bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu ar draws Llywodraeth Cymru, a lle bo angen, gyda phroseswyr data trydydd parti.
Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?
Bydd eich data yn cael ei ddileu o fewn 2 flynedd i'r adeg y bydd y Gyfarwyddiaeth Caffael Masnachol ei angen er mwyn cyflawni ei dyletswyddau a'i chyfrifoldebau fel corff cyhoeddus. Efallai y bydd eich data yn cael ei archifo am gyfnodau hirach os ystyrir ei fod er budd y cyhoedd.
Os nad ydych am i'ch manylion aros ar y gronfa ddata mwyach, cysylltwch â ni ar y cyfeiriad e-bost isod.
Eich hawliau yn ymwneud â'ch gwybodaeth
Mae gennych hawl i:
- Gael mynediad i'r data personol yr ydym yn ei brosesu amdanoch
- Gofyn i ni gywiro gwallau yn y data hwnnw
- Yr hawl (mewn rhai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu
- Yr hawl i'ch data gael ei 'ddileu' (lle mai cydsyniad yw'r sail gyfreithiol)
- Cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o wybodaeth am yr wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnydd, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Tîm cyfathrebu: CaffaelMasnachol.Cyfathrebu@llyw.cymru
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Rhif ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113