Adroddiad, Dogfennu
Cyfarfodydd Fforwm Rhanddeiliaid Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: 6 Hydref 2023 hyd at 23 Mai 2024
Crynodeb o gyfarfodydd y gorffennol.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 87 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
6 Hydref 2023
- Rhoddodd swyddogion Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ddiweddariad o Uwchgynhadledd Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDG) y Cenhedloedd Unedig, a oedd yn nodi'r pwynt hanner ffordd yn Agenda 2023 y Cenhedloedd Unedig
- Cafwyd cyflwyniad gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar adroddiad Llesiant Cymru 2023, a oedd yn edrych ar ein cerrig milltir cenedlaethol.
8 Rhagfyr 2023
- Cyflwynodd cydweithiwr o'r Pwyllgor Newid Hinsawdd adroddiad cynnydd ar Addasu i Newid Hinsawdd yng Nghymru.
- Cafwyd cyflwyniad gan Lywodraeth Cymru ar Fframwaith Pontio Teg i Gymru.
- Trafododd y Fforwm eu profiadau o ran cynnal Asesiadau Effaith Integredig.
23 Chwefror 2024
- Cafwyd cyflwyniad gan Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu Llywodraeth y DU ar Gytundeb y Cenhedloedd Unedig ar gyfer y Dyfodol.
- Siaradodd swyddogion Llywodraeth Cymru am adroddiad ar Ragargoeli ar gyfer llywodraethu datblygu cynaliadwy a llesiant yng Nghymru
23 Mai 2024
- Sesiwn ar lesiant diwylliannol gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Siaradodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol am y genhadaeth Diwylliant a'r Gymraeg sy'n rhan o'i strategaeth Cymru Can.
- Trafodaeth ynghylch lansio Ymgynghoriad ar y Blaenoriaethau drafft ar gyfer Diwylliant yng Nghymru 2024 i 2030.
- Adroddiad cynnydd ar y Cynllun Dysgu a Gwella’n Barhaus 2023-2025 ar gyfer Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.