Adroddiad, Dogfennu
Cyfarfodydd Fforwm Rhanddeiliaid Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: 17 Chwefror 2021 i 31 Mawrth 2023
Crynodeb o gyfarfodydd y gorffennol.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
31 Mawrth 2023
- Cyflwyniad ar Rwydwaith Llywodraeth Agored y DU a thrafodaeth ar wella tryloywder, cyfranogiad ac atebolrwydd llywodraethau (Nodiadau cyflwyno: 31 Mawrth 2023).
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus 2023-25 Llywodraeth Cymru ar gyfer Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Adran 20.
27 Ionawr 2023
- Cyflwyniad ar Ddinasyddiaeth Fyd-eang gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru (Nodiadau cyflwyno: 27 Ionawr 2023).
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am Cynllun Dysgu a Gwella Parhaus 2023-25 Llywodraeth Cymru ar gyfer Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Adran 20.
25 Tachwedd 2022
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am Adolygiad Adran 20 Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a'r cynlluniau sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella dealltwriaeth o'r egwyddor datblygu cynaliadwy sydd wrth wraidd y ffordd y Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio a'i roi ar waith yn well.
- Cyflwyniad gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar y rhyngweithio rhwng y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru nesaf gan Ddirprwy Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru.
23 Medi 2022
- Cyflwyniad gan Brif Ystadegydd Llywodraeth Cymru ar Adroddiad Llesiant Cymru 2022, gan gynnwys trafodaeth ar ddangosyddion cenedlaethol Cymru.
- Sesiwn a gynhelir gan arweinydd is-grŵp busnes y Fforwm o swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
22 Gorffennaf 2022
- Trafodaeth ar rannu arferion gorau rhwng cyrff cyhoeddus y mae dyletswydd llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn berthnasol iddynt ar hyn o bryd a chyrff cyhoeddus ychwanegol sy'n destun ymgynghoriad ynghylch a dylid eu cynnwys yn y dyfodol.
- Cyflwyniad ar yr Adolygiad Gwerth Cymdeithasol gan swyddogion CWMPAS.
- Trafodaeth a arweinir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a swyddogion Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol ar gasglu ac arddangos enghreifftiau o arferion da a meddwl am brofiadau.
22 Mai 2022
- Yr wybodaeth ddiweddaraf gan is-grwpiau cyfranogiad, mentora a busnes y Fforwm.
- Cyflwyniad ar adolygiad Llywodraeth Cymru o gyrff cyhoeddus y mae dyletswydd llesiant Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn berthnasol iddynt mewn ymateb i argymhelliad 7 o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (5ed Senedd), Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol – y stori hyd yn hyn ac argymhelliad 2 o adroddiad Archwilio Cymru, Felly, beth sy'n wahanol? Canfyddiadau Archwiliadau Egwyddor Datblygu Cynaliadwy yr Archwilydd Cyffredinol.
- Cyflwyniad ar ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn y cymorth sydd ar gael i gyrff cyhoeddus gan Academi Wales a swyddogion Llywodraeth Cymru.
23 Mawrth 2022
- Rhoddodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, grynodeb o'r camau a gymerwyd gan y Llywodraeth yn ddiweddar ar agenda Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
- Trafodaeth ar amrywiaeth ym maes cynaliadwyedd, gan gynnwys swyddogion Cyswllt Amgylchedd Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Sophie Howe, a swyddogion sy'n arwain ar Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
28 Ionawr 2022
- Trafodaeth ar amrywiaeth ym maes cynaliadwyedd, y gerdd A History of Invention, a sut mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ein helpu i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag allgáu a gwahaniaethu.
26 Tachwedd 2021
- Cyflwyniad ar is-grŵp cyfraniad y Fforwm, gan ganolbwyntio ar gyd-gynhyrchu a chyfranogiad.
- Cyflwyniadau ar godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ac arweinwyr busnes ac ymgysylltu â nhw gan arweinwyr yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol.
24 Medi 2021
- Trafodaeth ar ganlyniadau adolygiad o waith y Fforwm.
- Trafodaeth ar sut i ddatblygu'r Fforwm fel adnodd ar gyfer cydweithio â swyddogion polisi Llywodraeth Cymru.
30 Gorffennaf 2021
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru newydd (chweched Senedd).
- Yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr adolygiad o'r Fforwm.
- Cyflwyniad gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar ddatblygu cerrig milltir cenedlaethol Cymru.
17 Mawrth 2021
- Cyflwyniad gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar ddangosyddion a cherrig milltir llesiant cenedlaethol, ac Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol Cymru 2021.
- Trafodaeth ar sut y gellir datblygu'r adnoddau hyn a'u defnyddio'n effeithiol er mwyn cryfhau ein strwythur Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
17 Chwefror 2021
- Pob aelod o'r Fforwm yn cyflwyno ei hun.
- Cyflwyniadau gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar ddibenion y Fforwm a'i ffocws dros dymor y llywodraeth.
- Trafodaeth ar Adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol Cymru 2021.