Neidio i'r prif gynnwy

Y Grŵp Strategol Cynghori ar Ganiatadau

Yr Is-Grŵp Cynghori ar Wybodaeth a Thystiolaeth

8 Mehefin 2021

Mynychwyr

Jim McKie (Eurona): Cadeirydd
Sharon Davies (LIC – Trwyddedu Morol)
James Moon (Cyfoeth Naturiol Cymru)
Kirsten Ramsey (Cyfoeth Naturiol Cymru)
Manon Kynaston (Ynni’r Môr Cymru) 
Tania Davy (Yr Ymddiriedolaethau Natur) 
Jennifer Fox (ORJIP-OE) 
Sue Barr (Cambrian Offshore) 
Aly McCluskie (RSPB)  
Kate Smith (Nova Innovation) 
Joe Kidd (Catapult)
Gemma Veneruso (Prifysgol Bangor)

Gwesteion

Benjamin Williamson (Prifysgol Ucheldir ac Ynysoedd yr Alban)
David Clarke (Prifysgol Abertawe)
Mikaela Freeman (OES-Environmental)
Andrea Copping (OES-Environmental)

Cyfarfod

Roedd y cyfarfod SEAGP hwn yn canolbwyntio ar wahanol ffyrdd o fonitro’r cysylltiad rhwng offer ynni ffrwd lanw a rhywogaethau morol, er mwyn cefnogi camau cydsynio prosiectau ynni adnewyddadwy morol. Fe wnaeth SEAGP dderbyn dau gyflwyniad ar y gallu i fonitro. Y cyflwynwyr oedd Benjamin Williamson o Brifysgol Ucheldir ac Ynysoedd yr Alban a David Clarke o Brifysgol Abertawe. Canolbwyntiodd y ddau ar ddulliau monitro cysylltiadau, drwy ddarparu trosolwg o’r technolegau sydd ar gael yn ogystal ag unrhyw gyfyngiadau neu dechnolegau a allai wella ein gallu i fonitro ymddygiad anifeiliaid o amgylch tyrbinau llanw, er mwyn deall gallu’r rhywogaethau i ganfod dyfeisiau ac i atal gwrthdrawiad.

Wrth drafod monitro technoleg, nodwyd fod yna dystiolaeth newydd yn dod i’r amlwg o ran prosiect MeyGen yn yr Alban. Mi fydd hyn yn ychwanegu tystiolaeth werthfawr at ein gwybodaeth gyfredol o ran ymddygiad anifeiliaid a chysylltiadau ag offer ffrwd llanw. Mae’r prosiect MeyGen yn cydweithio â’r Uned Ymchwil Anifeiliaid y Môr ym Mhrifysgol St Andrews, er mwyn ystyried data wedi eu casglu wrth fonitro offeryn(offer) gweithredol yn safle’r prosiect MeyGen. Unwaith y darparwyd y dystiolaeth a adolygwyd gan gymheiriaid i’r cyhoedd, mi fydd yn cael ei rhannu â SEAGP, er mwyn i’w aelodau ystyried sut y gellir defnyddio’r dystiolaeth yma i drafod caniatâd yng Nghymru.

Gwahoddir OES-Environmental i gyflwyno gerbron SEAGP, er mwyn iddynt rannu gwybodaeth, creu cysylltau a dysgu o’r gymuned egni cynaliadwy. Fe wnaeth y cwmni roi cyflwyniad ar sut y gellid datrys materion risg isel yn ddiogel, yn gynharach yn y broses cydsynio, fel y gall eu hasesiadau ganolbwyntio ar faterion arwyddocaol ac allweddol. Gwnaeth OES-Environmental hefyd roi trosolwg o’r canllawiau cydsynio y mae wrthi’n eu drafftio. Bydd ffocws rhyngwladol i’r canllawiau yn cynnwys cyngor penodol ar gyfer pob gwlad sy’n perthyn i brosesau cydsynio rheoleiddiol, gan gynnwys Cymru. Bydd y canllawiau hyn yn ddeunydd defnyddiol ac ychwanegol ar gyfer datblygwyr, rheoleiddwyr a phobl â diddordeb i’w cyfeirio at dystiolaeth berthnasol er mwyn helpu datblygu prosiectau yn nyfroedd Cymru.

Yn ogystal â hynny, soniodd OES-Environmental am brosiect newydd a fyddai’n edrych yn fanwl ar faterion penodol. Byddai’r prosiect yn ystyried effeithiau cronnol, sut y gallwn uwchraddio o ddyfeisiau unigol i gasgliadau o ddyfeisiau wrth hefyd ystyried effeithiau ecosystemau, materion pwysig ar gyfer datblygu sector ynni adnewyddadwy llwyddiannus yma yng Nghymru mewn perthynas â’r môr. Bydd SEAGP yn datblygu ac yn cynnal eu perthynas bositif ag OES-Environmental ac yn sicrhau bod Cymru yn parhau i elwa ar y gwaith, ymgysylltu a dysgu o waith cymuned ryngwladol ynni adnewyddadwy’r môr.

Cewch wybod mwy am waith OES-Environmental ar wefan Tethys, a chewch yma hefyd amrywiaeth eang o wybodaeth a thystiolaeth am ynni adnewyddadwy’r môr: https://tethys.pnnl.gov/

Dyddiad y cyfarfod nesaf

10 Awst 2021