Neidio i'r prif gynnwy

Y Grŵp Strategol Cynghori ar Ganiatadau

Yr Is-Grŵp Cynghori ar Wybodaeth a Thystiolaeth

12 Hydref 2021

Mynychwyr

Jim McKie (Eurona): hwylusydd
Sharon Davies (LIC – Trwyddedu Morol)
James Moon (Cyfoeth Naturiol Cymru)
Kirsten Ramsey (Cyfoeth Naturiol Cymru)
Saul Young (Ynni’r Môr Cymru) 
Tom Hill (Ynni’r Môr Cymru) 
Jennifer Fox (ORJIP-OE) 
Sue Barr (Cambrian Offshore) 
Kate Smith (Nova Innovation) 
Gemma Veneruso (Prifysgol Bangor)

Gwesteion

Cara Donavan (Simec Atlantis Energy)

Cyfarfod

Sector newydd yw ynni adnewyddadwy’r môr a cheir ansicrwydd ynghylch effeithiau posibl ar amgylchedd y môr. Mae hyn oherwydd y nifer cyfyngedig o ddyfeisiau gweithredol yn y môr. I gefnogi’r sector, gan ei alluogi i dyfu’n gynaliadwy, mae’n werthfawr rhannu gwybodaeth a data a dysgu o brosiectau a gydsyniwyd yn y DU ac yn fyd-eang. Cafodd Cara Donavan, Uwch-reolwr yr Amgylchedd a Chaniatadau yn Simec Atlantis Energy, wahoddiad i wneud cyflwyniad i SEAGP ar ganiatáu i MeyGen, datblygiad ffrwd lanw, gael ei ddefnyddio yn nyfroedd yr Alban.

Cynigiodd y cyflwyniad gyfle i aelodau SEAGP glywed sut cafodd y prosiect ganiatadau, pa heriau roedd yn rhaid eu goresgyn a pha wersi y gellid eu rhannu i lywio datblygiadau newydd. Gwnaeth SEAGP glywed hefyd sut mae’r prosiect yn cael ei fonitro’n ofalus, gan ddarparu tystiolaeth werthfawr ar sut mae’r amgylchedd morol yn rhyngweithio â dyfeisiau. Bydd y dystiolaeth hon yn llywio’r sail dystiolaeth sy’n tyfu ar effeithiau gweithredol er mwyn ein helpu i leihau’r risg a chyflymu’r broses o ganiatáu i ni ddefnyddio ynni adnewyddadwy’r môr.

Mae rhannu data a throsglwyddo gwybodaeth yn faes sy’n cael ei ystyried gan SEAGP o hyd.

Gwnaeth SEAGP hefyd drafod y cynnydd da a wnaed ar y Nodiadau Gwybodaeth. Mae’r nodiadau’n cael eu llunio ar y cyd gan aelodau a’u diben yw cefnogi’r broses o ganiatáu a hwyluso trafodaethau cynnar rhwng datblygwyr a Cyfoeth Naturiol Cymru ar asesu effeithiau penodol.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

14 Rhagfyr 2021