Neidio i'r prif gynnwy

1. Yn bresennol

Yn bresennol

  • Llywodraeth Cymru - Pennaeth Rhannu Data a Moeseg
  • YDG Cymru/SAIL
  • Trafnidiaeth Cymru (TrC)
  • Llywodraeth Cymru - Pennaeth Ystadegau Gweithlu Ysgolion
  • Llywodraeth Cymru - Prif Swyddog Digidol (Cadeirydd)
  • Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC)
  • Llywodraeth Cymru - Cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid
  • Llywodraeth Cymru - Pennaeth Data a Daearyddiaeth
  • Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)
  • Llywodraeth Cymru - Pennaeth Polisi a Safonau Data
  • Data Cymru
  • Prifysgol Caerdydd
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
  • Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol

Cyflwynwyr/sylwedyddion

  • Llywodraeth Cymru
  • Gartner
  • Iechyd a Gofal Digidol Cymru (IGDC)
  • Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

2. Cylch Gorchwyl Drafft ac aelodaeth arfaethedig

Gofynnwyd i’r cylch gorchwyl gael ei ddiweddaru i ddweud yn benodol y bydd y grŵp yn canolbwyntio ar y defnydd dadansoddol a gweithredol o ddata.

Ac eithrio’r diwygiad hwn, cymeradwywyd y cylch gorchwyl drafft.

Ni chynigiwyd ychwanegiadau na diwygiadau i’r aelodaeth yn ystod y cyfarfod.

3. Cymunedau data

Rhoddodd Data Cymru ddiweddariad ar gynlluniau i sefydlu rhwydwaith o gymunedau data a fydd yn dod â phobl ynghyd ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i rannu syniadau, heriau, problemau a datrysiadau.

Roedd awgrymiadau ar gyfer cymunedau data posibl gan y rhai a oedd yn bresennol yn cynnwys:

  • technoleg data gyffredin
  • moeseg data
  • cyfathrebu data
  • cynwysoldeb data

Cytunodd y grŵp i anfon unrhyw awgrymiadau eraill, ynghyd ag arweinwyr posibl ar gyfer cymunedau penodol, ymlaen i Data Cymru.

4. Diweddariad ar ddata ar gyfer y DU gyfan

Tynnwyd sylw’r rhai a oedd yn bresennol at y darnau canlynol o waith a wneir ar hyn o bryd ar lefel y DU, ac anogwyd hwy, lle bo’n briodol, i ymateb:

Cynghorwyd y rhai a oedd yn bresennol i gysylltu â DataReformConsultation@dcms.gov.uk ynghylch unrhyw ymholiadau sydd ganddynt am yr ymgynghoriad ar gyfundrefn diogelu data’r DU.

Amlygwyd pwysigrwydd sicrhau bod ein data yn gynhwysol a chafwyd trafodaeth ynghylch atebion i rai o’r heriau a wynebir wrth gasglu data a sut y gallai cysylltu data ddarparu datrysiad.

5. Dyddiad y cyfarfod nesaf

Bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei drefnu ar gyfer mis Ionawr/Chwefror 2022.

6. Unrhyw fater arall

Ar hyn o bryd, cynhelir Dosbarth Meistr Data i Uwch Weision Sifil ledled y DU, sydd wedi’i anelu at uwch arweinwyr heb gefndir data. Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd rhan ynddo ac ar hyn o bryd, mae gennym rai lleoedd ar gael y gellir eu cynnig i arweinwyr o gyrff eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.

7. Crynodeb o gamau gweithredu

Rhif

Camau

Perchnogion

1.1

Diweddaru’r cylch gorchwyl i ddweud yn benodol y bydd y grŵp yn canolbwyntio ar y defnydd dadansoddol a gweithredol o ddata

Llywodraeth Cymru

1.2

Anfon unrhyw ychwanegiadau a/neu ddiwygiadau dilynol i aelodaeth y grŵp ymlaen i Lywodraeth Cymru

Pob aelod

1.3

Anfon awgrymiadau ar gyfer cymunedau data posibl ymlaen i: Suzanne.draper@data.cymru

Pob aelod

1.4

Y rhai a oedd yn bresennol i nodi ac enwebu arweinwyr cymunedau data posibl a’u hanfon ymlaen i: Suzanne.draper@data.cymru

Pob aelod

1.5

Y rhai a oedd yn bresennol i awgrymu eitemau agenda ar gyfer cyfarfodydd dilynol

Pob aelod

1.6

Llywodraeth Cymru i greu a chynnal cofnod o eitemau agenda yn y dyfodol

Llywodraeth Cymru

1.7

Rhannu manylion y Dosbarth Meistr Data â’r rhai a oedd yn bresennol

Llywodraeth Cymru

1.8

Y rhai a oedd yn bresennol i enwebu cyfranogwyr posibl ar gyfer y Dosbarth Meistr Data

Pob aelod