Cyfarfod, Dogfennu
Cyfarfod y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol: 6 Medi 2023
Agenda ar gyfer Cyfarfod Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Cymru Rhif 13, 10.00am 6 Medi 2023
Ar Teams
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Agenda
- Ymddiheuriadau. 10.00
- Cyflwyniadau. 10.05
- Datgan Buddiannau. 10.10
- Cofnodion y cyfarfod diwethaf ar 25.05.23 a Materion yn Codi. 10.15
- Cyhoeddiadau'r Cadeirydd. 10.20
- Eitemau o'r Grwpiau Rhanbarthol. 10.25
- Bob tro mae'n bwrw glaw: Ymchwil y Groes Goch Brydeinig ar lifogydd yn y DU – Naomi White, Swyddog Polisi a Materion Cyhoeddus Cymru Llifogydd y DU | Ymchwil | Y Groes Goch Brydeinig 10.40
- Rheoli Effeithiau Llifogydd yng Nghymru 2050: Adolygiad gan Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru - Derbyn diweddariad gan y Comisiynwyr Eluned Parrott a Dr Eurgain Powell. 11.05
---------Egwyl--------- 11.30
- Diweddariad Llywodraeth Cymru – Dr Leanne Llewellyn, Pennaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. 11.40
- Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS): Atodlen 3 Adolygiad Ôl-weithredu - Ian Titherington, Uwch Gynghorydd Polisi Draenio Cynaliadwy, Llywodraeth Cymru. 12.05
- Strategaeth Genedlaethol Cadernid Hinsawdd - Michelle Delafield a Lindsey Bromwell, Is-adran Newid Hinsawdd, Llywodraeth Cymru 12.30
---------Cinio--------- 12.55
- Is-bwyllgorau
12.1 Ystyried penodiadau i Is-bwyllgorau, ynghyd â chynnig i sefydlu Is-bwyllgor Adroddiadau Adran 19. 13.35
12.2 Ymatebion i Adroddiadau'r Pwyllgor – Ystyried yr ymatebion i Adroddiadau Adnoddau a Newid Deddfwriaethol y Pwyllgor gan Dŵr Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. 13.55
12.3 Yr Is-bwyllgor Adnoddau – Derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Awst 2023, ac ystyried yr adroddiad canlynol - yr Adroddiad Adnoddau: Ymatebion – goblygiadau i'r pwyllgor a'r ffordd arfaethedig ymlaen. 14.15
- Adroddiadau
13.1 Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd, Cyfoeth Naturiol Cymru - Ymateb y Pwyllgor i'r ymgynghoriad. 14.45
---------Egwyl--------- 14.55
13.2 Adroddiad dan Adran 18 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, Jeremy Parr a Ross Akers, Rheolwr Cynllunio Strategol a Buddsoddi mewn Perygl Llifogydd, Cyfoeth Naturiol Cymru. 15.05
13.3 Rhaglen Waith y Pwyllgor - Derbyn adroddiad y Cadeirydd ar gyflwyno'r Rhaglen Waith hyd at 2025-26, ac ystyried yr argymhelliad y dylid cymeradwyo'r Rhaglen Waith wedi'i diweddaru. 15.35
13.4 Adolygiad o adroddiadau Adran 19 Llywodraeth Leol a Cyfoeth Naturiol Cymru ar lifogydd eithafol yng Nghymru, 2020-21 - Keith Ivens, Llywodraeth Cymru. 15.45
- Unrhyw fater arall yr hysbyswyd y Cadeirydd amdano. 16.10
- Dyddiad a lleoliad y cyfarfod nesaf
Diwedd 16.15