Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg: 17 Gorffennaf 2024
Cofnodion cyfarfod Pwyllgor Archwilio A Sicrwydd Risg a gynhaliwyd ar 17 Gorffennaf 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Mike Usher, Cyfarwyddwr Anweithredol a Chadeirydd ARAC LlC
- Angus Muirhead, Cadeirydd - Grŵp Llywodraeth Leol, Tai, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (LGHCCRA) ARAC
- Nigel Reader, Cadeirydd Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar (HSCEY) ARAC
- Gareth Pritchard, Cadeirydd Dros Dro - Aelod Annibynnol ECWL ARAC
Swyddogion
- Andrew Goodall, Yr Ysgrifennydd Parhaol
- Sioned Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp ECWL
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Llywodraeth Leol, Tai, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig (LGHCCRA)
- Dean Medcraft, Cyfarwyddwr Cyllid
- Kim Jenkins, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfrifon, Llywodraethu a Grantiau
- Helen Morris, Dirprwy Gyfarwyddwr Archwilio, Sicrwydd ac Atal Twyll
- Simon Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr, Newid a Gwella, Grŵp HSCEY
- Steve Hudson, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid a'r Economi, Grŵp yr Economi, Ynni a Thrafnidiaeth (EET)
- Clare James, Archwilio Cymru
- Richard Harries, Archwilio Cymru
- Matthew Mortlock, Archwilio Cymru
Hefyd yn bresennol
- Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol
- Dirprwy Bennaeth Archwilio Mewnol
- Ysgrifenyddiaeth ARAC
- Pennaeth Llywodraethiant, Grŵp LGHCCRA
1. Datganiadau o fuddiant
1.1 Ni chodwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant gan yr Aelodau.
2. Materion yn codi o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mai 2024
2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod blaenorol a nododd y cynnydd da sydd wedi'i wneud wrth roi'r camau gweithredu y cytunwyd arnynt ar waith.
3. Adolygiad Blynyddol o Gylch Gorchwyl y Pwyllgor
3.1 Gwnaeth y Pwyllgor adolygu a chymeradwyo ei Gylch Gorchwyl am y 12 mis nesaf.
4. Trosolwg gan y Prif Swyddog Cyfrifyddu
Rhoddodd yr Ysgrifennydd Parhaol ddiweddariad i'r Pwyllgor ar nifer o feysydd allweddol, gan gynnwys:
- Ymddiswyddiad y Prif Weinidog a'r ffocws ar barhad busnes y llywodraeth tra bo olynydd yn cael ei benodi.
- Ymchwiliad Cyhoeddus Covid a chyhoeddi ei adroddiad cyntaf ym mis Gorffennaf 2024. Bydd hyn yn gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru ar ddechrau yn 2025.
- Yr heriau ariannol mewn perthynas â'r sefyllfa yn ystod y flwyddyn a chynllunio'r gyllideb yn y dyfodol.
- Pwysigrwydd perthynas effeithiol â llywodraeth newydd San Steffan.
5. Materion llywodraethiant a risg
Holiadur Rheolaeth Fewnol
5.1 Rhoddodd Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol ddiweddariad ar y broses Holiadur Rheolaeth Fewnol (ICQ) ar gyfer 2023-2024. Roedd yr Aelodau'n fodlon bod ffurflenni ICQ wedi bod yn destun craffu a her briodol ac wedi darparu tystiolaeth ddigonol i gefnogi'r asesiad blynyddol cyffredinol o fframwaith rheolaeth fewnol Llywodraeth Cymru. Cymeradwyodd y Pwyllgor fwriad y rheolwyr i gynnal adolygiad gwersi a ddysgwyd i nodi unrhyw feysydd i'w gwella ar gyfer ymarfer ICQ 2024-2025.
Adroddiad Blynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol
5.2 Cyflwynodd y Pennaeth Archwilio Mewnol ei Hadroddiad Blynyddol ar gyfer 2023-2024 a oedd yn crynhoi gweithgarwch archwilio mewnol a ffynonellau sicrwydd eraill yr oedd ei barn flynyddol yn seiliedig arnynt. Roedd y Pennaeth Archwilio Mewnol yn fodlon bod corff digonol o waith i seilio ei barn arno, a fyddai'n cael ei chyhoeddi yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-2024. Gwnaeth y Pwyllgor nodi a chymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol.
Parodrwydd Llywodraeth Cymru i dderbyn risg
5.3 Rhoddodd Pennaeth y Ganolfan Ragoriaeth Llywodraethiant Corfforaethol ddiweddariad ar newidiadau i barodrwydd Llywodraeth Cymru i dderbyn risg. Cynhaliwyd trafodaeth gychwynnol â'r Bwrdd ym mis Mehefin ac mae trafodaethau manwl â swyddogion wedi'u cynllunio dros yr haf cyn rhoi datganiad arfaethedig i'r Bwrdd ar barodrwydd i dderbyn risg i'w drafod ymhellach a'i gymeradwyo. Cymeradwyodd y Pwyllgor y dull gweithredu a oedd yn cael ei gymryd a gofynnodd am ddiweddariad pellach yn ei gyfarfod yn yr hydref.
Parodrwydd Llywodraeth Cymru i dderbyn risg
5.4 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiadau chwarterol a baratowyd gan Gadeiryddion yr ARACs Grŵp yn dilyn cylch yr haf o gyfarfodydd ARAC. Yn ogystal ag eitemau sefydlog, ystyriodd pob ARAC y meysydd busnes a drosglwyddwyd i Grwpiau yn dilyn yr ailstrwythuro corfforaethol diweddar a chael cyflwyniadau ar eu cefndir, amcanion, risgiau a materion. Nid oedd unrhyw faterion yr oedd Cadeiryddion yn teimlo bod angen eu uwchgyfeirio at ARAC LlC.
5.5 Cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol rhwng Aelodau Annibynnol ac archwilio mewnol ac allanol ar ôl pob cyfarfod Grŵp ARAC.
Adroddiad Blynyddol ARAC LlC
5.6 Trafododd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol ARAC LlC ar gyfer 2023-2024 a chymeradwyodd y farn gyffredinol ar ddigonolrwydd y trefniadau archwilio ar gyfer Llywodraeth Cymru a hefyd ar y trefniadau ar gyfer llywodraethant, rheoli risg a rheolaeth fewnol. Bydd y farn yn cael ei chyhoeddi yn yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-2024.
Craffu ar Rannau 1 a 2 o Gyfrifon Cyfunol Llywodraeth Cymru
5.7 Dechreuodd y Pwyllgor graffu ar gyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-2024 ac ystyriodd:
- Rhan 1, yr Adroddiad Perfformiad sy'n amlinellu swyddogaethau Llywodraeth Cymru, sut mae'n cael ei hariannu, sut mae'r cyllid yn cael ei wario a sut mae'n perfformio.
- Rhan 2, yr Adroddiad Atebolrwydd sy'n cynnwys y Datganiad Llywodraethiant Blynyddol, Adroddiad Cydnabyddiaeth Ariannola Staff, Crynodeb o Alldro Adnoddau a Thystysgrif ac Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru.
5.8 Nododd y Pwyllgor nifer o feysydd y byddai o fudd eu hadolygu a'u hegluro cyn i'r cyfrifon terfynol gael eu cynhyrchu'r a nodwyd y rhain gan swyddogion.
5.9 Gwnaeth y Pwyllgor drafod a chymeradwyo'r rhesymeg dros godi'r trothwy de minimis ar gyfer cyfrif cyfunol LlC o £15m i £30m.
Diweddariad ar archwilio cyfrifon (gan gynnwys cynllun archwilio manwl)
5.10 Rhoddodd swyddogion Archwilio Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eu gwaith ar y cyfrifon 2023-2024 a nodwyd bod llawer o'r gwaith eisoes wedi dechrau. Mae Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyflwyno'r prif gyfrif i Archwilio Cymru erbyn 27 Awst.
5.11 Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar y cynllun archwilio gan gynnwys y risgiau archwilio a nodwyd, yr amserlen, y ffioedd archwilio a'r tîm archwilio. Tynnwyd sylw penodol at y trothwy perthnasedd, a fydd yn cynyddu o 1% i 2% (£200m i £400m). Bydd hyn yn caniatáu i adnoddau Archwilio Cymru fod yn fwy cydnaws â'r meysydd sydd â'r risg mwyaf, a chanolbwyntio ar eitemau sy'n cael eu hystyried yn berthnasol eu natur.
5.12 Cymeradwyodd y Pwyllgor y cynllun archwilio a chroesawodd y dull rhagweithiol sy'n cael ei ddefnyddio gan y timau archwilio a chyllid, a'r ffocws ar ystyried ym mha ffyrdd y gellir gwneud y broses yn fwy effeithlon.
5.13 Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad hefyd ar astudiaethau Gwerth am Arian Archwilio Cymru.
Ysgrifenyddiaeth ARAC
Dyddiad Cyhoeddi – Hydref 2024