Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Cadeirydd: Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
  • Ben Francis, Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru
  • Leighton Reed, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr
  • Y Cynghorydd Anthony Hunt, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Dr Victoria Winckler, Sefydliad Bevan
  • Ben Lloyd, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
  • Lakshmi Narain, Sefydliad Siartredig Trethu
  • Richard Selby, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, yn dirprwyo dros Robert Lloyd Griffiths)

Ymddiheuriadau

  • Robert Lloyd Griffiths –  Sefydliad y Cyfarwyddwyr
  • Leighton Jenkins – CBI Cymru
  • Jonathan Davies – Cymdeithas y Cyfreithwyr

Swyddogion allanol

  • Lisa Hayward, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Swyddogion

  • Andrew Jeffreys – Cyfarwyddwr, Trysorlys Cymru
  • Anna Adams - Dirprwy Gyfarwyddwr,  Trethi: Strategaeth, Polisi ac Ymgysylltu, Trysorlys Cymru
  • Rob Hay - Dirprwy Bennaeth Trethi, Trysorlys Cymru
  • Dyfed Alsop - Prif Weithredwr  Awdurdod Cyllid Cymru
  • Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyllid Strategol Llywodraeth Leol
  • Andrew Hewitt - Trysorlys Cymru (cyflwynydd, eitem 2)
  • Sarah Storey - Trysorlys Cymru (cyflwynydd, eitem 3)
  • Richard Jones - Trysorlys Cymru (cyflwynydd, eitem 4)
  • Ceri James - Trethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu (cymryd nodiadau)

Sylwedyddion

  • Liz Matthews - Ysgrifennydd Preifat y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
  • Rod Hough, Trethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu
  • Ruth Leggett, Trethi: Polisi, Strategaeth ac Ymgysylltu
  • Sarah Carter – Trysorlys Cymru
  • Charley Sealy – Trysorlys Cymru

1. Cyflwyniad

  1. Croesawodd y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth y rhai a oedd yn bresennol i gyfarfod cyntaf y Grŵp Ymgysylltu ar Drethi.
  2. Cytunodd yr aelodau ar Gylch Gorchwyl y grŵp.
  3. Anogodd y Gweinidog yr Aelodau i roi eu barn. Roedd yr aelodaeth yn adlewyrchu ystod eang o safbwyntiau, a fydd yn  helpu i sicrhau bod polisi a gweinyddu trethi Cymru'n cael ei ddatblygu gydag anghenion pobl a busnesau yng Nghymru yn sylfaen iddo.

2. Y Dreth Trafodiadau Tir: ystyriaethau polisi

  1. Rhoes Andrew Hewitt, Trysorlys Cymru, gyflwyniad ar y Dreth Trafodiadau Tir (LTT), un o'r ddwy dreth sydd wedi'u datganoli'n llawn yng Nghymru. Rhoes drosolwg o LTT ac esbonio rhai o'r penderfyniadau blaenorol a wnaed ym maes polisi LTT.
  2. Cafodd safbwyntiau eu croesawu oddi wrth yr aelodau ar rôl bosibl LTT mewn gwahanol feysydd polisi, gan gynnwys yr agenda datgarboneiddio, ysgogi'r farchnad dai ac mewn perthynas â'r ddadl bresennol ynghylch ail gartrefi yng Nghymru.
  3. Dywedodd Ben Francis (FSB) fod y data presennol ar y farchnad dai'n awgrymu, er bod y farchnad yn adfer ar ôl y cyfyngiadau symud yn y gwanwyn, fod trafodiadau'n cymryd yn hirach, yn enwedig cael chwiliadau a chynigion morgais. Roedd y pandemig wedi effeithio ar argaeledd rhai deunyddiau ac offer adeiladu hefyd. Gallai hyn gael goblygiadau ar gyfer rhai prynwyr eiddo adeiladu newydd sy'n anelu at gwblhau cyn i gyfnod gostyngiad y dreth LTT ddod i ben. O ran datgarboneiddio, roedd yn bwysig alinio unrhyw gynigion mewn perthynas ag LTT â mentrau polisi cysylltiedig eraill gan gynnwys y rhai sy'n symud ymlaen ar lefel awdurdod lleol. Cynigiodd Ben roi gwybodaeth bellach am hyn yn dilyn y cyfarfod.
  4. Crybwyllodd Lakshmi Narain (CIOT) fod y dystiolaeth am y nifer isel sy'n manteisio ar y fenter rhyddhad ar gartrefi di-garbon o dan Dreth Dir y Dreth Stamp yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau bod polisïau'n cael eu dylunio i fynd i'r afael â'r bwriad polisi a'u bod yn ymarferol.

3. Treth Gwarediadau Tirlenwi: ystyriaethau polisi

  1. Rhoes Sarah Storey o Trysorlys Cymru, gyflwyniad ar y Dreth Gwarediadau Tirlenwi (LDT), yr ail dreth wedi'i datganoli'n llawn yng Nghymru. Ystyriodd yr aelodau rôl y dreth hon fel ysgogwr polisi i gyflawni nodau amgylcheddol ehangach, a'r ffordd orau o ymgysylltu â sectorau fel rhan o unrhyw adolygiad o'r ddeddfwriaeth. 
  2. Nododd y Gweinidog mai Cymru oedd y wlad gyntaf i gyflwyno cyfradd waredu heb ei hawdurdodi, a helpodd i fynd i'r afael â phryderon amgylcheddol. Dywedodd yr aelodau fod hwn yn ymrwymiad polisi cadarnhaol.
  3. Roedd yr aelodau'n awyddus i danlinellu pwysigrwydd cadw ffocws amgylcheddol y dreth ac y dylai cyd-fynd â'r gyfres o bolisïau gwyrdd ehangach.  Er enghraifft, roedd rhai aelodau o blaid defnyddio cynlluniau dychwelyd ernes a rhoi premiwm ar eitemau megis poteli plastig, gan hybu dulliau ailgylchu dolen gaeedig, newid ymddygiad yn gadarnhaol, a thrawsnewid problem yn nwydd.
  4. O safbwynt y materion ynghylch gweithgarwch troseddol a gwaredu gwastraff crybwyllodd y Grŵp faterion cysylltiedig eraill megis tipio anghyfreithlon mewn rhannau o Gymru a bod gan gymhellion ran bwysig wrth mynd i'r afael â'r mater hwn.
  5. Tanlinellodd y Gweinidog werth gweithio gyda phartneriaid gan gynnwys Awdurdod Cyllid Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

4. Sylfaen Drethu Cymru: heriau a chyfleoedd

  1. Cyflwynodd Richard Jones, Trysorlys Cymru bapur yn ymchwilio i'r cyfleoedd ar gyfer sylfaen drethu Cymru a'r heriau cysylltiedig gan gynnwys:
    • Y gostyngiad a ragwelir yn y boblogaeth oedran gweithio yng Nghymru
    • Y ffaith bod cymharol lai o dalwyr trethi uwch a chyfradd ychwanegol yng Nghymru
    • Y dirywiad yn amodau'r farchnad lafur ers dechrau 2020 ac effaith hirdymor bosibl pandemig COVID-19, a
    • Integreiddiad agos yr economi yng Nghymru â gweddill y DU.
    Roedd yr aelodau'n teimlo bod y papur yn nodi sawl mater pwysig a ddylai fod yn rhan o ystyriaethau polisi yn y dyfodol gynnwys mudo i Gymru, polisïau ystyriol o deuluoedd a denu talwyr trethi uwch a chyfradd ychwanegol i Gymru.
  2. Awgrymodd y Grŵp y gellid ymchwilio i ysgogwyr trethi eraill gyda gwahanol sylfeini trethu. Er hynny, roedd hyn yn codi rhai heriau o gofio'r cymhwysedd cymharol gyfyngedig sydd gan y Senedd ar gyfer treth. Mae angen ystyried hyn yng ngoleuni'r anawsterau parhaus a welir mewn perthynas â chynigion i ddatganoli'r Dreth ar Dir Gwag i Gymru.
  3. Nododd y Gweinidog y byddai datblygu sylfaen drethu Cymru'n gofyn am ymgysylltu ar draws Llywodraeth Cymru ac fe grybwyllodd enghraifft y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol fel un maes polisi presennol pwysig sy'n gysylltiedig â datblygu sylfaen drethu Cymru.

5. Unrhyw fater arall a diweddglo

  1. Diolchodd y Gweinidog i'r rhai a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau ac annog yr aelodau i e-bostio unrhyw gwestiynau neu sylwadau ar ôl y cyfarfod ac i awgrymu eitemau agenda i'w trafod mewn cyfarfodydd yn y dyfodol.
  2. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth mewn cysylltiad ynghylch y dyddiad ar gyfer y cyfarfod nesaf.