Cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach: 9 Mawrth 2023
Crynodeb o gyfarfod y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach a gynhaliwyd yn bersonol ar 9 Mawrth 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Cadeirydd y cyfarfod
- Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Aelodau a rhanddeiliaid y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach
- Aileen Burmeister (Masnach Deg Cymru)
- Andy Richardson (Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru)
- Catherine Smith (Hybu Cig Cymru)
- Ceri Williams (TUC Cymru)
- Gwyn Tudor (MediWales)
- Henry Clarke (RPD Law)
- Kerry Owens (Unite)
- Louisa Petchey (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
- Yr Athro Nick Pidgeon (Prifysgol Caerdydd)
- Oliver Carpenter (Siambrau Cymru)
- Paul Brooks (Y Sefydliad Allforio)
- Richard Rumbelow (Make UK)
- Robert O’Neil (Fforwm Modurol Cymru)
Croeso a chyflwyniadau
Agorodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, y cyfarfod drwy ddiolch i aelodau'r grŵp ac amlinellu eu rôl wrth helpu i lywio polisi masnach Llywodraeth Cymru drwy ddarparu mewnbwn arbenigol ar sut y gallwn wneud y gorau o'r cyfleoedd, a lleihau'r bygythiadau, y gallai cytundebau masnach rydd eu cyflwyno i Gymru ac economi Cymru.
Cynhaliodd y Gweinidog drafodaeth ford gron i holi barn yr aelodau am y sefyllfa bresennol ym maes polisi masnach a'r hyn a allai effeithio ar Gymru wrth symud ymlaen.
Roedd y drafodaeth yn cynnwys:
- Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP)
- Fframwaith Windsor
- Deddf Lleihau Chwyddiant yr UDA a Mecanwaith yr UE ar gyfer Addasu Pris Carbon ar draws Ffiniau
- Y Cytuniad Siarter Ynni
- Ymgysylltu â phartneriaid Cytundebau Masnach Rydd (FTA) posibl gan gynnwys Llysgenadaethau ac Uchel Gomisiynwyr
- Llwyddiant Allforion Bwyd a Diod o Gymru yn 2022
- Digidoleiddio masnach
Y diweddaraf am drafodaethau cytundebau masnach Llywodraeth y DU
Rhoddodd Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Llywodraeth Cymru drosolwg o’r gwaith hyd yma ynghylch cytundebau masnach rydd Llywodraeth y DU, gan gynnwys y trafodaethau sydd wedi dod i ben, y rhai hynny sydd wedi dechrau a’r rhai sydd ar fin dechrau. Pwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ac yn cyfrannu at drafodaethau ar bolisi masnach ryngwladol a thrafodaethau masnach.
Y diweddaraf am weithredu a defnyddio Cytundebau Masnach Rydd (FTA)
Rhoddodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am weithredu a defnyddio Cytundebau Masnach Rydd. Roedd y drafodaeth yn cynnwys:
- Cyflawni – hyrwyddo Cytundebau Masnach Rydd newydd a chymorth i fusnesau Cymru, gan gynnwys defnyddio'r Cytundebau Masnach Rydd presennol.
- Deddfwriaeth – rôl Llywodraeth Cymru wrth weithredu Cytundebau Masnach Rydd lle mae angen newidiadau i bolisi datganoledig neu ddeddfwriaeth Cymru.
- Pwyllgorau – sut y gall Llywodraeth Cymru a'i rhanddeiliaid gyfrannu at nifer y pwyllgorau a sefydlwyd o dan bob Cytundeb Masnach Rydd newydd.
Trafodaeth ford gron ar Israel a Gweriniaeth Korea
Israel
Cafwyd trafodaeth ynglŷn â thrafodaethau masnach Llywodraeth y DU gydag Israel.
Gweriniaeth Korea
Rhoddodd un o swyddogion Llywodraeth Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau masnach Llywodraeth y DU â Gweriniaeth Korea. Roedd y drafodaeth yn cynnwys:
- Pryderon am hawliau llafur yn Ne Korea
- Cyfleoedd posibl o fewn y sector technoleg werdd
- Yr effaith bosibl ar ddiwydiannau gweithgynhyrchu Cymru
Y diweddaraf am y Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol
Eitem 6: Y diweddaraf am y Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol
Rhoddodd Paul Brooks, Arweinydd Masnach Gweithgynhyrchu Cymru a’r DU, drosolwg o'r Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol (IOE&IT) a sut mae'n datblygu ei bresenoldeb yng Nghymru.
Sylwadau i gloi
Daeth Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Llywodraeth Cymru â’r cyfarfod i ben gan ddiolch i’r rhai a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau eang i’r trafodaethau.