Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Eluned Morgan AS Gweinidog dros y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol - Cadeirydd
  • Emma Edworthy Dirprwy Gyfarwyddwr Polisïau Masnach

Swyddogion yr Is-adran Polisïau Masnach

  • Aileen Burmeister – Cyd-gysylltydd Cenedlaethol Masnach Deg Cymru
  • Deborah Laubach - cynrychioli y sector Gwyddorau Bywyd
  • Chris Meadows – cynrychioli’r sector technolegau electronig a meddalwedd
  • Prys Morgan – yn ei gapasiti fel cynrychiolydd Cymru ar Grŵp Cynghori Masnach Strategol Llywodraeth y DU
  • Madeline Pinder – cynrychioli’r sector awyrofod
  • Gavin Powell – cynrychioli’r sector technegol ariannol
  • Andy Richardson – cynrychioli’r sector bwyd a diod
  • Richard Rumbelow – cynrychioli’r sector gweithgynhyrchu
  • Shavanah Taj – Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru
  • Tim Williams – cynrychioli’r sector moduro

Ymddiheuriadau

  • Kevin Roberts yn cynrychioli’r sector cynhyrchwyr cynradd

1. Croeso a chyflwyniadau

Agorodd Eluned Morgan AS, y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a’r Gymraeg y cyfarfod drwy groesawu pawb i gyfarfod cyntaf y Grŵp Cynghori ar y Polisi Masnach a sefydlwyd yn ddiweddar.

Eglurodd y Gweinidog, gan fod Llywodraeth y DU wedi dechrau trafodaethau masnach yn ddiweddar gyda’r UDA a bod eraill i ddilyn yn fuan, mae wedi penderfynu sefydlu’r Grŵp Cynghori ar y Polisi Masnach.

Cylch gwaith y grŵp yw darparu mewnbwn arbenigol ar sut y gall Llywodraeth Cymru fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a lleihau bygythiadau y cytundebau hyn i Gymru ac economi Cymru.

Dywedodd y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu cytundebau masnach rydd gyda phartneriaid masnachu ledled y byd, gan ychwanegu y dylai’r cytundebau masnach hyn ategu cytundebau masnach rydd cynhwysfawr gyda’r UE yn hytrach na’u disodli.

Dywedodd y Gweinidog fod gan Gymru allu gwirioneddol i ddylanwadu ar drafodaethau masnach y DU, ac eisoes wedi cael effaith arnynt.  Wrth geisio dylanwadu ar bolisïau masnach rhyngwladol y DU, y dull a ffefrir gan y Gweinidog yw canolbwyntio’r sylw ar yr ardaloedd hynny ble y mae anghenion Cymru yn wahanol i Loegr a gweddill y DU.

Dywedodd y Gweinidog fod gan Gymru gymaint i’w gynnig fel partner masnachu ac fel lle i gynnal busnes, gan ychwanegu bod Cymru yn wlad gyfrifol yn fyd-eang sy’n credu mewn masnachu yn deg.

2. Y diweddaraf am drafodaethau cytundebau masnach Llywodraeth y DU

Rhoddodd swyddogion yr Is-adran Polisi Masnach drosolwg byr o faes cyfrifoldeb pob tîm gan dynnu sylw at sut mae Llywodraeth Cymru yn trafod gyda Llywodraeth y DU ac yn cyfrannu at drafodaethau ar y polisi masnach rhyngwladol a thrafodaethau masnach.

3. Bwrdd crwn o aelodau’r grŵp – Cyfleoedd a bygythiadau o gytundebau masnach sy’n cael eu blaenoriaethu gan Lywodraeth y DU

Cafodd pob aelod yn ei dro y cyfle i dynnu sylw at y prif gyfleoedd a’r bygythiadau y mae’r cytundebau masnach sy’n cael eu cynllunio yn ei olygu i’r sector. Roedd y trafodaethau hyn yn datgelu amrywiol broblemau, nifer yn gyffredin ar draws sectorau:

  • Roedd nifer o aelodau  yn tynnu sylw at yr effaith niweidiol y mae Covid-19 wedi ei gael ar sectorau o economi Cymru gan gynnwys y sectorau moduro ac awyrofod.
  • Roedd aelodau yn tynnu sylw at y ffaith bod BBaChau a microfusnesau yn amlwg yn economi Cymru.  Mae’r angen i wella sgiliau BBaChau i gynnwys y ‘sgiliau allforio’ angenrheidiol i elwa o’r manteision sy’n cael eu cynnig yn cael ei gydnabod fel mater pwysig.
  • Trafodwyd bwysigrwydd Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor i Gymru. Awgrymwyd y byddai peidio cytuno ar gytundeb masnach gyda’r UE yn cael effaith fawr ar rai cwmnïau Buddsoddi Uniongyrchol o Dramor, a phwysleisiodd aelodau yr angen i Lywodraeth drafod gyda rhiant-gwmnïau i ddeall eu pryderon. Roedd aelodau hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd trafod gyda rhiant-gwmnïau o ran dylanwadu ar benderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol.
  • Roedd nifer o aelodau yn tynnu sylw at bwysigrwydd penderfyniadau ynghylch alinio rheoleiddiol o fewn eu sectorau. Os bydd newidiadau i’r systemau yn gysylltiedig â’r UE, yna bydd angen digon o rybudd ar fusnesau i ganiatáu iddynt ragweld y newidiadau hyn o fewn cynlluniau busnes. Cafodd effaith rhwystrau technegol eraill i fasnachu a Rheolau Tarddiad eu codi hefyd.
  • Pwysleisiodd aelodau bod sicrhau tegwch o ran materion megis lles anifeiliaid, safonau cynnyrch a rhannu a diogelu Eiddo Deallusol yn elfen bwysig o fewn unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol.
  • Cododd yr Aelodau yr heriau sylweddol sy’n cael eu hwynebu gan rai sectorau oherwydd eu bod yn colli mynediad di-dariff at farchnad yr UE a’r ychwanegedd cyfyngedig sy’n cael ei gynnig gan y cytundebau masnach sy’n cael eu blaenoriaethu gan Lywodraeth y DU.
  • Trafodwyd sicrhau bod asesiadau o effaith cytundebau masnach yn ystyried materion trawsbynciol megis rhywedd, cynaliadwyedd, yr amgylchedd a hawliau llafur. Cafodd y niwed posibl y gallai cytundebau masnach dwyochrog ei gael ar wledydd sy’n datblygu ac effaith dileu telerau ffarfriol ei godi hefyd.
  • Cafodd yr angen i eithrio gwasanaethau cyhoeddus megis y GIG, gwasanaethau trafnidiaeth ac addysg o’r cytundebau masnach ei bwysleisio mewn trafodaethau. Awgrymwyd hefyd y dylid eithrio gweithgareddau diwylliannol. Cafodd yr angen i sicrhau bod cytundebau masnach yn cadw at gytundebau rhyngwladol o ran hawliau gweithwyr a newid hinsawdd ei bwysleisio hefyd.
  • Cododd nifer o aelodau yr effaith negyddol bosibl ar Gymru o benderfyniadau ar drefniadau Setlo Anghydfodau Gwledydd sy’n Buddsoddi mewn cytundebau masnach yn y dyfodol.
  • Gan droi at y cytundeb masnach gyda’r UDA, roedd aelodau o’r farn bod amaethyddiaeth, cynhyrchion fferyllol a safonau cynnyrch yn feysydd ble y mae’r UD yn debygol o ofalu am eu buddiannau eu hunain yn frwd yn eu trafodaethau gyda’r DU. Cafodd cymhlethdod y system ffederal o lywodraethu yn yr UDA i allforwyr ei drafod hefyd.

4. Sylwadau cloi

Daeth y Gweinidog â’r cyfarfod i ben drwy ddiolch i bawb oedd yn bresennol am eu cyfraniad at y trafodaethau. Bydd y Grŵp yn cyfarfod nesaf ar 1 Hydref 2020.