Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Aileen Burmeister, Cymru Masnach Deg
  • Catherine Smith, Hybu Cig Cymru
  • Debbie Laubach, MediWales
  • Henry Clarke, RPD Law
  • Jerry Lawson, Frog Bikes
  • Louisa Petchey, Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Nick Pearce, Object Matrix
  • Yr Athro. Nick Pidgeon, Prifysgol Caerdydd
  • Paul O’Donnell, y Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol
  • Richard Leonard, Fforwm Modurol Cymru

Croeso a chyflwyniadau

Croesawodd Pennaeth Polisi Masnach Llywodraeth Cymru bawb i'r cyfarfod a gwahoddodd yr aelodau i gyflwyno eu hunain a dweud pa sefydliad roeddent yn ei gynrychioli.

Y diweddaraf am drafodaethau cytundebau masnach Llywodraeth y DU

Rhannodd Pennaeth Polisi Masnach Llywodraeth Cymru yr wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ar Gytundeb Masnach Rydd Llywodraeth y DU gan gynnwys Awstralia, Seland Newydd, Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel, Canada, India a’r Ynys Las.

Trafodaeth Bord Gron ar drafodaethau Cytundeb Masnach Rydd rhwng y DU ac India

Cafwyd trafodaeth bord gron i ddilyn a oedd yn canolbwyntio ar drafodaethau’r DU ag India. Roedd wedi'i rannu'n dri phwnc:

  • Allforio a Mewnforio
  • Newid Hinsawdd ac Iechyd y Cyhoedd
  • Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Roedd y trafodaethau’n cwmpasu:

Allforio a mewnforio: cyfleoedd a rhwystrau

  • Dylanwad y gwrthdaro rhwng Wcráin a Rwsia ar drafodaethau.
  • Lleihau tariffau.
  • Pwysigrwydd tegwch yn y farchnad i fusnesau a sectorau Cymru.
  • Cyfleoedd ar gyfer llaeth a chig coch – gan gynnwys marchnad fwyd o'r radd flaenaf ar gyfer cig oen Cymru.
  • Cyfleoedd i weithgynhyrchwyr o Gymru yn y farchnad cerbydau trydan.
  • Cydnabod a derbyn cymwysterau proffesiynol.
  • Heriau technegol presennol megis rheolau a rheoliadau gwahanol mewn rhannau gwahanol o India.
  • Asesiadau cydymffurfio/cydnabyddiaeth gilyddol.
  • Pwysigrwydd eiddo deallusol – gan gynnwys cig oen Cymru; yr angen i ystyried ymagwedd at eiddo deallusol mewn meysydd fel hadau a chyffuriau generig a brechlynnau.

Newid hinsawdd ac iechyd y cyhoedd

  • Sut gall Cymru daro cydbwysedd rhwng bod yn genedl sy’n gyfrifol yn fyd-eang a manteisio ar gyfleoedd allforio? Cenedlaethau'r dyfodol a nodau llesiant.
  • Pwysigrwydd eiddo deallusol o ran cyfleoedd ar gyfer bioeconomi a chynhyrchu hydrogen.
  • Tariffau Amgylcheddol; datrys anghydfodau a thargedau amgylcheddol.
  • Iechyd y cyhoedd – mynediad at ymchwil; recriwtio gweithwyr gofal iechyd proffesiynol; yr effaith ar waith lleol; asesiadau o'r effaith ar iechyd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Cydraddoldeb a hawliau dynol

  • Safonau Llafur.
  • Cyfleoedd i fusnesau yrru safonau mewn perthynas â grymuso menywod, newid hinsawdd a safonau llafur.