Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Cadeirydd y cyfarfod: Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS

Aelodau a rhanddeiliaid y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach:

  • Aileen Burmeister, Cymru Masnach Deg
  • Andy Richardson, Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
  • Catherine Fookes, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru
  • Catherine Smith, Hybu Cig Cymru
  • Henry Clarke, Acuity Law
  • Nick Pearce, Object Matrix
  • Yr Athro Nick Pidgeon, Prifysgol Caerdydd
  • Paul O’Donnell, Institute of Export and International Trade
  • Rachael Blackburn, Awyrofod Cymru
  • Richard Newton-Jones, Snowdonia Cheese
  • Richard Rumbelow, Make UK
  • Robert O’Neil, Fforwm Modurol Cymru
  • Robin Davies, Magstim
  • Sarah Williams-Gardener, FinTech Wales
  • Simon Hall, Nodor International

Croeso a chyflwyniadau

Agorodd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, y cyfarfod drwy ddiolch i aelodau'r grŵp ac amlinellu eu rôl wrth helpu i lunio polisi masnach Llywodraeth Cymru drwy roi mewnbwn arbenigol ar sut y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd, a lleihau'r bygythiadau, y gallai cytundebau masnach rydd eu cynnig i Gymru ac economi Cymru.

Amlinellodd y Gweinidog yr achos dros fasnach ryngwladol a chydnabod y manteision y gall cytundebau masnach rydd newydd eu cynnig i Gymru. Nododd hefyd ei bod yn hanfodol sicrhau bod Llywodraeth y DU yn deall na ddylai cytundebau masnach rydd newydd danseilio gallu Llywodraeth Cymru i ddilyn ei huchelgeisiau ei hun na rheoleiddio'n ddomestig, a rhaid i gytundebau beidio ag arwain at enillion ar gyfer rhannau eraill o'r DU ar draul Cymru.

Amlinellodd y Gweinidog fod yn rhaid i unrhyw drafodaethau masnach â gweddill y byd fod yn gwbl gydnaws â'r cytundeb sydd gennym yn awr gyda'r UE ac na ddylent niweidio perthynas fasnachu'r DU/UE. Ni ddylai unrhyw gytundeb masnach newydd arwain at sefyllfa annheg mewn meysydd fel lles anifeiliaid a'r amgylchedd drwy roi mantais economaidd i fewnforwyr bwyd, sy'n bodloni safonau lles anifeiliaid is, yn ein marchnad o'i gymharu â'n cynhyrchwyr ein hunain.

Y diweddaraf am drafodaethau cytundebau masnach Llywodraeth y DU

Rhoddodd Cyfarwyddwr Llywodraeth Cymru drosolwg o'r gwaith hyd yma ynghylch cytundebau masnach rydd Llywodraeth y DU, gan gynnwys y trafodaethau sydd wedi dod i ben, y rhai sydd wedi dechrau a'r rhai sydd ar fin dechrau. Pwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ac yn cyfrannu at drafodaethau ar bolisi masnach ryngwladol a thrafodaethau masnach.

Trafodaeth Bord Gron ar Gyngor Cydweithredol y Gwlff (GCC)

Cafwyd trafodaeth bord gron i ddilyn a oedd yn canolbwyntio ar Alwad Llywodraeth y DU am Fewnbwn ar y GCC wedi'i rannu'n dri phwnc:

  • Allforio a mewnforio: cyfleoedd a rhwystrau
  • Newid Hinsawdd a'r amgylchedd: cyfleoedd a rhwystrau
  • Cydraddoldeb a hawliau dynol

Roedd y trafodaethau'n cwmpasu

Allforio a mewnforio: cyfleoedd a rhwystrau

  • Lleihau tariffau
  • Symleiddio gweithdrefnau tollau ar draws y gwledydd ar wahân yn y GCC
  • Pwysigrwydd tegwch yn y farchnad i fusnesau a sectorau Cymru
  • Heriau technegol presennol a wynebir megis Rheolau Tarddiad ac eglurder ar delerau talu a thrwyddedurheoleiddio.
  • Cyfleoedd yn y GCC i fusnesau Cymru
  • Cydnabod a derbyn cymwysterau proffesiynol
  • Effaith a chyfleoedd i'r sector Addysg Uwch yng Nghymru
  • Llywodraeth Cymru i weithio gyda rhanddeiliaid i nodi meysydd o fantais gystadleuol a sicrhau bod cwmnïau'n barod i fasnachu gyda'r GCC.

Newid Hinsawdd a'r amgylchedd: cyfleoedd a rhwystrau

  • Trafodwyd cyfleoedd ar gyfer allforion, gan gynnwys allforio arbenigedd a thechnoleg.

Hawliau dynol a chydraddoldeb

  • Tynnwyd sylw at y ffaith bod Strategaeth Ryngwladol Cymru yn nodi y dylid cynnwys lleisiau menywod bob amser.
  • Cyflwynwyd awgrymiadau gan gynnwys asesiad llawn o'r effaith ar sail rhyw o'r cytundeb GCC arfaethedig ac ystyriwyd cadarnhau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn erbyn Menywod (CEDAW).

Sylwadau i gloi

Daeth y Gweinidog â'r cyfarfod i ben drwy ddiolch i'r rhai a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau eang i'r trafodaethau. Bydd y grŵp yn cyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2022.