Neidio i'r prif gynnwy

Mynychwyr

  • Cadeirydd: Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Aelodau a rhanddeiliaid y Grŵp Cynghori ar Bolisi Masnach

  • Andy Richardson (Bwrdd Bwyd a Diod Cymru)
  • Cath Smith (Hybu Cig Cymru)
  • Dana Williams (Fforwm Modurol Cymru)
  • Gwyn Tudor (MediWales)
  • Henry Clarke (RDP Law)
  • Kerry Owens (Unite)
  • Leighton Jenkins (CBI)
  • Madeleine Pinder (Awyrofod Cymru)
  • Paul Brooks (Y Sefydliad Allforio a Masnach Ryngwladol)
  • Richard Rumbelow (Make UK)
  • Sarah Stone (Masnach Deg Cymru)
  • Shavanah Taj (TUC Cymru)

Croeso a chyflwyniadau

Agorodd Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio y cyfarfod drwy ddiolch i'r aelodau am eu cyfraniad gwerthfawr hyd yn hyn. Hefyd diolchodd Ysgrifennydd y Cabinet i'r aelodau am eu rôl ganolog yn y gwaith o lunio papur Dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â Pholisi Masnach, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet ei bod yn edrych ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth newydd y DU i helpu i sicrhau y bydd cytundebau masnach yn galluogi pobl a busnesau Cymru i ffynnu, gan weithredu fel platfform ar gyfer cydweithio'n adeiladol ar faterion yn ymwneud â'r amgylchedd, safonau defnyddwyr, hawliau dynol, iechyd a chydraddoldeb.

Aeth Ysgrifennydd y Cabinet ymlaen i ddweud bod ei sylw hefyd yn canolbwyntio fwyfwy ar y berthynas fasnachu gyda'r UE, ac y bydd angen i Lywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i ddeall sut y gellid gwella'r berthynas fasnachu honno.

Diweddariad ar y trafodaethau ar gytundebau masnach Llywodraeth y DU

Rhoddodd Pennaeth Polisi Masnach Llywodraeth Cymru drosolwg o'r gwaith a wnaed hyd yma ar gytundebau masnach rydd Llywodraeth y DU. Pwysleisiwyd bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ac yn cyfrannu at drafodaethau ar bolisi masnach ryngwladol a thrafodaethau masnach.

Trafododd y grŵp y materion canlynol gan roi eu barn arnynt:

  • Ymrwymiad Llywodraeth newydd y DU i ailddechrau trafodaethau gyda'r GCC (Cyngor Cydweithredol y Gwlff), India, Israel, De Korea, Twrci a'r Swistir.
  • Y cydbwysedd rhwng cyfleoedd allforio a dull Cymru o ymdrin â pholisi masnach.
  • Blaenoriaethau ar gyfer gwahanol sectorau.
  • Pwysigrwydd arloesi.

Y DU / UE ac EAEC: Cytundeb Masnach a Chydweithredu – Trafodaethau bord gron ar y blaenoriaethau

Rhoddodd Pennaeth Polisi Masnach Llywodraeth Cymru drosolwg o’r hyn sy’n cael ei wneud gan y tîm Polisi Masnach i edrych ar sut a ble y gellid gwella'r berthynas fasnachu bresennol rhwng y DU a'r UE. Mae'r gwaith hwn wedi canolbwyntio ar:

  • Newidiadau y gellid eu gwneud trwy strwythur llywodraethu presennol Cytundeb Masnach a Chydweithredu yr UE, megis y pwyllgorau sy’n bodoli eisoes ar gyfer llywodraethu'r gwaith o weithredu'r Cytundeb.
  • Newidiadau y gellid eu gwneud fel rhan o'r adolygiad o'r Cytundeb sydd i'w gynnal erbyn 2026.

Trafododd y grŵp wahanol feysydd lle y gellid gwella'r cytundeb presennol, gan roi eu sylwadau arnynt.

Prosiect Ymchwil Menywod yn y Sector Allforio

Rhoddodd aelod o dîm Polisi Masnach Llywodraeth Cymru ddiweddariad ar brosiect ymchwil Llywodraeth Cymru i "Fenywod yn y Sector Allforio".

Pwrpas y prosiect yw ymchwilio i weld a oes unrhyw ffactorau sy'n rhwystro cwmnïau dan arweiniad menywod yng Nghymru rhag masnachu'n rhyngwladol, gan nodi camau gweithredu i oresgyn y rhwystrau hynny.

Y cam cyntaf oedd gwrando ar fenywod sy'n allforwyr profiadol a newydd, am yr anawsterau sy'n eu hwynebu wrth iddynt wneud busnes dramor, a pha fath o gefnogaeth fyddai wedi bod yn ddefnyddiol iddynt.  Mae argymhellion wedi cael eu llunio'n seiliedig ar y trafodaethau sy'n cael eu hystyried. Maent yn amrywio o syniadau ymarferol ar gyfer cynyddu cyfranogiad menywod mewn teithiau masnach, i atebion mwy strategol o ran cael mynediad at gyllid, hyfforddiant sy'n gysylltiedig â masnach, a chyfleoedd rhwydweithio.

Bydd ail gam y prosiect yn cynnwys ymgynghori â sefydliadau allanol ar sut i weithredu rhai o'r camau hyn, ac ar sut i wella'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer menywod mewn masnach yng Nghymru.

Yn dilyn y prosiect hwn, bydd y tîm Polisi Masnach yn edrych ar y rhwystrau i fasnach mewn perthynas â nodweddion gwarchodedig eraill, gan gynnwys LHDTC+, lleiafrifoedd ethnig, anabledd, ac ieuenctid.

Trafododd y grŵp y prosiect, gan awgrymu sut y gallai eu sefydliadau helpu i gael gwared ar rwystrau i fasnach i fenywod yng Nghymru.

Sylwadau i gloi

Caeodd Ysgrifennydd y Cabinet y cyfarfod drwy ddiolch i'r rhai a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau helaeth i'r trafodaethau.