Cyfarfod y Fforwm Strategol ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, 8 Rhagfyr 2022: cofnodion
Cofnodion cyfarfod y Fforwm Strategol ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, 8 Rhagfyr 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Croeso
Agorodd Peter Ryland (PR) y cyfarfod gan fod amgylchiadau annisgwyl yn golygu bod y Cadeirydd yn hwyr yn cyrraedd. Diolchodd PR i aelodau am fynychu a chroesawodd gynrychiolwyr o lywodraeth leol – Simon Gale (RhCT), Carwyn Jones-Evans (Ceredigion), Paul Relf (Abertawe) a Sioned Williams (Gwynedd) i’r cyfarfod.
Nododd PR yr eitemau oedd ar agenda’r cyfarfod, a gwahoddodd y cynrychiolwyr o lywodraeth leol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ynghylch cynlluniau buddsoddi rhanbarthol Y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth y DU eu bod yn cymeradwyo’r cynlluniau ar 5 Rhagfyr.
2. Diweddariad llywodraeth leol
Dywedodd Simon Gale (SG) fod y pedwar awdurdod arweiniol yng Nghymru oll bellach wedi cael eu llythyr grant yn nodi’r cyllid a ddyrannwyd, fodd bynnag mae mwy o eglurder yn cael ei geisio gan Lywodraeth y DU ar ddyraniadau sy’n ymwneud â’r rhaglen Lluosi.
Mae llywodraeth leol yn archwilio cyfreithlondeb o fewn hysbysiad amodau’r grantiau a sut mae’n rheoli perthnasau rhwng yr awdurdod arweiniol, Llywodraeth y DU a’r awdurdodau lleol eraill sy’n rhan o gynllun buddsoddi rhanbarthol yr SPF.
Dywedodd SG nad yw Cyngor Rhondda Cynon Taf yn disgwyl cael cyllid yr SPF tan y flwyddyn newydd, ond ei fod bellach mewn sefyllfa i roi cytundebau lefel gwasanaeth gyda’r awdurdodau lleol eraill yn Ne-ddwyrain Cymru sy’n cymryd rhan, a fydd yn golygu y gellir rhyddhau’r cyllid.
Ychwanegodd SG fod angen meddwl nawr am broffiliau gwariant eleni oherwydd yr oedi o ran cymeradwyo’r cynlluniau buddsoddi. Mae sgwrs barhaus yn mynd rhagddi gyda Llywodraeth y DU ar hyblygrwydd i wario rhywfaint o ddyraniad eleni yn ystod blwyddyn ariannol 2023-24.
Bydd pob awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru yn penderfynu’n unigol sut i redeg cynlluniau grant ar gyfer y trydydd sector a busnesau. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd rhai yn clustnodi dyraniadau, yn rhedeg grantiau ar sail gystadleuol, neu’n trafod comisiynu’n uniongyrchol.
Dywedodd SG fod rhanbarth y De-ddwyrain yn disgwyl gwneud rhywfaint o waith cyfathrebu ar unwaith am yr ymyraethau y mae’r rhanbarth am geisio mynd i’r afael â nhw gyda chyllid yr SPF a’r manylion cyswllt ar gyfer sefydliadau sydd â diddordeb. Ychwanegodd SG y byddent yn croesawu dull gweithredu cyson gan y rhanbarthau o ran ymgysylltu â Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Carwyn Jones-Evans (CJE) fod Canolbarth Cymru mewn sefyllfa debyg i sefyllfa’r De-ddwyrain. Mae nifer o sgyrsiau’n cael eu cynnal ac er bod disgwyliadau’n cael eu codi, rhaid cofio bod angen dilyn proses cyn y gall cyllid gyrraedd buddiolwyr. Bydd tystiolaeth o angen yn ffactor hanfodol o ran gwneud penderfyniadau.
Ychwanegodd CJE fod y dirwedd gyllidol yn darnio oherwydd y gwyro sy’n digwydd oddi wrth y Cronfeydd Strwythurol tuag at y Gronfa Adfywio Cymunedol, a nawr yr SPF. Mae gwaith yn cael ei wneud i symleiddio’r broses, ac i alinio’r broses gwneud penderfyniadau ac atebolrwydd lleol â throsolwg a strategaeth ranbarthol.
Dywedodd Paul Relf (PRe) fod y sefyllfa yn y De-orllewin yn un debyg iawn. Mae cynnal darpariaeth rhaglenni cyn-16 a ariannwyd gan yr UE yn flaenorol, fel Cynnydd, yn bwysig iawn, fel y mae’r angen am gyllid uniongyrchol ar gyfer lle mae’r pwysau.
Ychwanegodd PRe y byddai’r De-orllewin yn alinio’r SPF â fforymau a strwythurau rhanbarthol sy’n bodoli eisoes.
Dywedodd Sioned Williams (SW) taw £16 miliwn yw’r dyraniad ar gyfer Gogledd Cymru am y flwyddyn ariannol bresennol. Cafwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth hefyd yn amlinellu £122 miliwn ar gyfer y rhanbarth rhwng 2022-25, er nad yw’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn gyfreithiol rwymol.
Dywedodd SW ei bod yn debygol y byddai elfen o risg ariannol ar gyfer prosiectau sy’n gorgyffwrdd â gwahanol flynyddoedd ariannol. Bydd y rhanbarth yn cael cynnig ariannol bob blwyddyn, yn ddibynnol ar berfformiad.
Mae’r cyllid ar gyfer rhaglen Lluosi £4.4 miliwn yn llai na’r dyraniad gwreiddiol ar gyfer y rhanbarth, ac mae eglurder yn cael ei geisio gan Lywodraeth y DU ar y mater hwn.
Bydd Cyngor Gwynedd yn ffurfioli cytundebau lefel gwasanaeth gydag awdurdodau eraill Gogledd Cymru ac yn gweinyddu cynigion grant. Mae’r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn rhan o’r broses.
Dywedodd SW fod hyd y rhaglen yn her allweddol. Bydd gwario dyraniad llawn yr SPF erbyn mis Mawrth 2025 yn golygu y bydd tua 18 mis o waith darparu prosiectau. Roedd hyn hefyd yn cynnwys risgiau ar gyfer yr awdurdod arweiniol wrth ymrwymo i brosiectau a allai rychwantu gwahanol flynyddoedd ariannol.
Diolchodd y Cadeirydd i SG, CJE, PRe a SW am ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf, ac agorodd y cyfarfod i drafodaeth grŵp tan i Weinidog yr Economi ymuno am 12.00pm.
Mewn ymateb i’r wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd, gwnaeth aelodau’r sylwadau canlynol:
- Mae heriau a risgiau sylweddol i’w rheoli o ystyried bod cyllid grant yn flynyddol, nid yw’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn gyfreithiol rwymol dros dair blynedd, a does dim ymrwymiad i’r SPF ar ôl mis Mawrth 2025.
- Bydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth y DU ar sesiynau i randdeiliaid yn y flwyddyn newydd, ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i nodi bylchau mewn darpariaeth ac i osgoi dyblygu gwaith.
- Mae CBI yn croesawu’r cyfle i hwyluso trafodaeth â’r gymuned fusnes pan fydd hynny’n briodol.
- Mae gwaith mapio parhaus yn cael ei wneud yn y sector Addysg Uwch ar effaith cyllid yr UE na fydd yn cael ei ddisodli gan fath arall o gyllid. Disgwylir y bydd 600 o swyddi uniongyrchol yn cael eu colli cyn diwedd mis Mawrth ac ni fydd modd osgoi proses anhrefnus o dynnu gwasanaethau yn ôl oddi wrth fuddiolwyr o ystyried bod y cyllid ar fin cael ei ddirwyn i ben.
- Mae Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) wedi nodi mai dim ond ffrydiau cyllido presennol y bydd yn eu hystyried ac na fydd yn cefnogi cyllid parhad ar gyfer prosiectau presennol. Bydd colli’r talent hwn yn cael effaith uniongyrchol ar allu prifysgolion i gyfrannu tuag at ddatblygiadau rhanbarthol yng Nghymru yn y dyfodol.
- Mae gwaith yn y cyfryngau wedi ei drefnu ar gyfer mis Ionawr er mwyn tynnu sylw at y problemau a wynebir gan Addysg Uwch, ac mae’r sector yn croesawu unrhyw gymorth o ran cyfleu’r sefyllfa.
- Mae profiad y sector Addysg Bellach o ran ymgysylltu â’r SPF wedi bod yn gymysg ac yn anghyson ar lefel rhanbarthol ac ar lefel lleol. Mae gwir bryder ar draws y sector ynghylch dyfodol darpariaeth ôl-16 lle mae cynnydd sylweddol mewn galw, ond mewn sawl achos bydd colegau yn dwyn y gwasanaethau hynny i ben ym mis Mawrth. Disgwylir y bydd nifer fawr o swyddi’n cael eu colli o ganlyniad i hynny.
- Ni chafwyd digon o drafodaeth â’r sector gwirfoddol ac mae angen gwell cyfathrebu â nhw. Mae rhai sefydliadau yn ystyried cau ac mae nifer yn dirwyn gweithgareddau i ben gan nad ydynt yn gweld unrhyw gyfle am gyllid yn lle cyllid yr UE a gollwyd.
- Mae’n debyg y bydd llawer o’r ddwy flynedd nesaf yn cael ei dreulio yn ailadeiladu seilwaith a gwasanaethau sy’n cael eu dymchwel ar hyn o bryd. Mae’n hollbwysig bod proses yr SPF yn cael ei chyflymu’n sylweddol.
- Mae trafodaethau’n parhau â Llywodraeth y DU am yr angen am hyblygrwydd o ran cyllid ar gyfer y rhaglen Lluosi. Mae tystiolaeth bellach wedi ei darparu sy’n dangos y problemau o ran darparu rhaglen Lluosi yng nghyd-destun Cymru.
Roedd SG yn derbyn sylwadau aelodau, ond nododd fod cyfathrebu’n hyderus am yr SPF wedi bod yn anodd iawn oherwydd y diffyg eglurer a’r oedi a fu i’r cynllun. Ychwanegodd SG hefyd nad oedd rôl gan lywodraeth leol yn nyluniad a datblygiad yr SPF, ond ei bod yn cyflenwi’r cynllun yn lleol ar ran Llywodraeth y DU yn unig. Gan fod y cynlluniau buddsoddi wedi eu cymeradwyo bellach, bydd y broses gyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid yn dwysáu.
Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu sylwadau, a chroesawodd Weinidog yr Economi, Vaughan Gething AS, i’r cyfarfod.
3. Gweinidog yr Economi
Gwnaeth Gweinidog yr Economi y pwyntiau canlynol yn ei sylwadau agoriadol:
- Mae’r SPF wedi methu o ran disodli cyllid gan yr UE. Mae’r arian yn ostyngiad sylweddol a byddai rhaglenni wedi dechrau bron i ddwy flynedd yn ôl pe cadwyd at addewidion. Mewn cyferbyniad, nid yw’r SPF wedi dechrau eto, ac ychydig fisoedd yn unig sydd ar ôl o’r flwyddyn ariannol hon.
- Mae rheolau cyfredol yn golygu y gallai arian sydd heb ei wario gael ei ddychwelyd i’r Trysorlys. Rhaid edrych yn fanwl ar hyn, yn enwedig gan fod diffyg hyblygrwydd y rhaglen Lluosi yn golygu bod tanwariant yn debygol.
- Mae Gweinidogion Cymru wedi sôn am y problemau sy’n bodoli o ran yr SPF a Lluosi yn gyson gyda chyfres o Weinidogion Llywodraeth y DU. Mae’n parhau i fod yn aneglur a oes parodrwydd i dderbyn y problemau a gwneud newidiadau i’r rhaglen ai peidio. Does dim eisiau dulliau gweithredu gwrthgyferbyniol a thameidiog arnom, na chystadleuaeth ar gyfer cyllid mewn meysydd datganoledig.
- Mae’r sefyllfa bellach yn cael effaith wirioneddol ar raglenni, twf a swyddi, ar adeg pan mae arnom eu hangen fwyaf. Does dim amheuaeth bod nifer o benderfyniadau anodd eisoes wedi cael eu gwneud ac y byddant yn parhau i gael eu gwneud gan nad yw Llywodraeth y DU yn anrhydeddu eu hymrwymiadau ariannol ac am eu bod yn diystyru’r Fframwaith y gwnaethom ei ddatblygu ar y cyd fel y model ar gyfer buddsoddi’r cronfeydd hyn.
- Mae gwir werth i lais y Fforwm o ran cyfathrebu am sefyllfaoedd cyson ynglŷn â’r problemau y mae’r SPF yn eu creu. Er nad oes gan Lywodraeth Cymru rׅôl ffurfiol o ran yr SPF, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein partneriaid a gwneud y gorau o sefyllfa wael.
- Mae’r Fforwm yn ffordd bwysig o rannu gwybodaeth – nid am yr SPF a’r Gronfa Ffyniant Bro yn unig, ond hefyd am ddatblygiadau eraill gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â Cymru Ystwyth, Horizon Ewrop a phrosiect
Y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o weithio’n rhanbarthol. Bydd y Fforwm yn cael ei ymestyn am flwyddyn arall o leiaf er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn.
Wrth ymateb i sylwadau’r Gweinidog, gwnaeth aelodau’r sylwadau canlynol:
- Byddai grwpiau busnes yn croesawu gweld cynlluniau buddsoddi rhanbarthol yr SPF pan fyddai’n addas er mwyn ystyried cyfleoedd ar gyfer y sector preifat.
- Mae Addysg Uwch yn disgwyl y bydd 600 o swyddi yn cael eu colli, gwasanaethau yn cael eu tynnu’n ôl, ac y bydd Cymru yn colli talent. Ni fydd ffynonellau’r DU yn cefnogi cyllid parhad ar gyfer prosiectau a oedd yn cael eu cefnogi’n flaenorol gan yr UE.
- Mae Addysg Bellach yn bryderus iawn am golli cyllid ac effaith hynny ar wasanaethau. Mae’n bwysig deall y drefn ar gyfer ymgysylltu â’r SPF.
Gwnaeth Gweinidog yr Economi y pwyntiau canlynol wrth gloi:
- Dylai cynlluniau rhanbarthol yr SPF fod yn weladwy a dylid rheoli gwaith ymgysylltu. Mae awdurdodau lleol o dan bwysau sylweddol i sicrhau bod cynllun sydd wedi ei dangyllido, ei ddylunio’n wael a’i lethu gan oedi, yn llwyddo.
- Cefnogi sefyllfa Prifysgolion Cymru yn llwyr. Roedd y modd y cynlluniodd Llywodraeth y DU yr SPF yn siŵr o achosi niwed i’r sector Addysg Uwch, ac eraill. Mae’r pwysau cyllido sy’n wynebu AU yng Nghymru hefyd yn cael ei deimlo ledled y DU felly mae cyfle i ymchwilio i’r mater hwn ar sail y DU gyfan.
- Nid yw’r modd y cynlluniwyd y cyllid yn nodi unrhyw ddulliau ymgysylltu priodol, sy’n her fawr i lywodraeth leol. Awyddus i gyd-weithio er mwyn cael y gorau o’r cyllid sydd gennym.
Ychwanegodd SG ei fod yn fodlon cyfarfod â rhanddeiliaid er mwyn rhannu gwybodaeth a sicrhau bod trafodaethau’n digwydd â’r bobl gywir.
Diolchodd y Cadeirydd i’r Gweinidog am ymuno â’r cyfarfod, ac i’r aelodau am eu sylwadau.
4. Rôl y Fforwm yn y dyfodol
Nododd y Cadeirydd fod adolygiad o’r Fforwm i’w gynnal eleni, a bod Drafft newydd y Cylch Gorchwyl, a roddwyd i aelodau yr wythnos ddiwethaf, yn rhoi sail ar gyfer parhad y Fforwm hyd at ddechrau 2024 pan fydd pob prosiect a ariennir gan yr UE yn dirwyn i ben. Bryd hynny, bydd adolygiad pellach o’r Fforwm a’i rôl yn cael ei gynnal.
Nododd y Cadeirydd rai o nodau allweddol y Cylch Gorchwyl newydd:
- Mae’n anelu at gefnogi’r broses o adeiladu partneriaeth rhwng aelodau a chryfhau perthnasau gyda Llywodraeth Cymru.
- Gwella’r dull rhannu gwybodaeth, rhannu gwersi a ddysgwyd ac arferion gorau.
- Edrych y tu hwnt i’r tymor hwn, at y 18 – 24 mis nesaf, gan ddefnyddio egwyddorion y Fframwaith Buddsoddi Rhanbarthol a’r gwaith sy’n cael ei wneud gan OECD ar lywodraethu a datblygu rhanbarthol.
- Dylanwadu ar ddatblygiad rhaglen Cymru Ystwyth er mwyn ysgogi buddsoddiad a chyfleoedd rhyngwladol i Gymru.
- Sicrhau bod gweithgareddau’r Fforwm yn gogwyddo tuag at adeiladu perthnasau, buddsoddi rhanbarthol sy’n ehangach na’r SPF yn unig, a chydweithio ar yr hyn y gellir ei gyflawni yng Nghymru o dan fframwaith y DU a fframweithiau eraill.
Mewn ymateb, gwnaeth yr aelodau’r sylwadau canlynol:
- Mae’r ddogfen yn dal i ganolbwyntio’n ormodol ar yr SPF ac mae angen iddi adlewyrchu’r dirwedd gyllido yn ehangach, gan gynnwys meysydd sy’n ymwneud ag Ymchwil ac Arloesi, a datblygu gwledig.
- Mae angen edrych yn ehangach ar ffynonellau buddsoddi eraill – nid rhai cyhoeddus yn unig, ond hefyd rhai preifat, a defnyddio cysylltiadau aelodau’r Fforwm.
- Mae diddordeb mewn cyflwyniadau ar gyfleoedd cyllido gan sefydliadau allanol a Llywodraeth Cymru.
- Mae datblygu gwledig yn bortffolio traws-weinidogol. Mae angen ystyried cyllido rheoli tir, cyllid gwyrdd a chyllid arloesol hefyd.
- Mae’n bwysig bod y Cylch Gorchwyl yn hyblyg er mwyn cynnwys pob pwnc sydd o ddiddordeb i’r aelodaeth. O bosibl, gellid galw gweithgorau llai at ei gilydd.
Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu sylwadau ac fe’u gwahoddodd i anfon unrhyw sylwadau ysgrifenedig eraill ar e-bost erbyn dydd Llun 16 Ionawr. Gall y Fforwm wedyn gymeradwyo’r cylch gorchwyl yn ffurfiol er mwyn ei gyhoeddi ar y wefan yn y cyfarfod nesaf.
5. Unrhyw fater arall
Cymeradwywyd cofnodion cyfarfod 29 Medi ar gyfer eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni chodwyd unrhyw fater arall.
Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am gymryd rhan yn y Fforwm a nododd y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal oddeutu diwedd Chwefror a byddai nodyn i’r dyddiadur yn cael ei anfon maes o law.
Atodiad A: rhestr o mynychwyr
Cadeirydd
Huw Irranca-Davies AS
Aelodau
Sefydliad |
Enw |
---|---|
Rhwydwaith Gwledig Cymru |
Eirlys Lloyd, Cadeirydd |
Grahame Guilford and Company Ltd |
Grahame Guilford |
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru |
Hywel Edwards |
Addysg Uwch | Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr, Prifysgolion Cymru |
Ffederasiwn Busnesau Bach a Hunangyflogedig Cymru | Ashley Rogers, Cyfarwyddwr – Gill and Shaw |
Prifysgol Caerdydd | Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygu, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio |
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm – Ewrop ac Adfywio |
Cyfoeth Naturiol Cymru | Rhianne Jones, Prif Gynghorydd Arbenigol Ymadael â’r UE a Rheoli Tir |
Addysg Bellach | Lisa Thomas, Pennaeth y Coleg, Merthyr Tudful |
CBI (Busnes) | Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, CBI Cymru |
Partneriaeth y Trydydd Sector |
Matt Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru |
Banc Datblygu Cymru |
Rob Hunter, Pennaeth Strategaeth |
Siambrau Cymru |
Oliver Carpenter, Swyddog Gweithredol Polisi |
Partneriaeth Gogledd Cymru |
Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru |
Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol |
Yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd |
Llywodraeth Leol |
Simon Gale, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Carwyn Jones-Evans, Cyngor Sir Ceredigion Paul Relf, Cyngor Abertawe Sioned Williams, Cyngor Gwynedd |
Mynychwyr o Lywodraeth Cymru
Enw | Swydd ac adran |
---|---|
Peter Ryland |
WEFO – Prif Swyddog Gweithredol |
Geraint Green |
WEFO – Pennaeth Rheoli Rhaglenni (Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd) |
Alison Sandford |
WEFO – Pennaeth Polisi a Gweithio mewn Partneriaeth |
Mike Richards |
WEFO – Rheolwr Cyfathrebu |
Thomas Mallam-Brown |
WEFO – Uwch Swyddog Polisi (Polisi Rhanbarthol) |
Colette Kitchen |
Trysorlys Cymru – Rheolwr Cysylltiadau Rhynglywodraethol |
Elin Gwynedd |
Llywodraeth Leol – Dirprwy Gyfarwyddwr, Gogledd Cymru |
Bryn Richards |
Busnes a Rhanbarthau – Pennaeth Cynllunio Ranbarthol |
Sioned Evans |
Busnes a Rhanbarthau – Cyfarwyddwr |
David Rosser |
Busnes a Rhanbarthau – Prif Swyddog Rhanbarthol (De) |
Alex Bevan |
Cynghorydd Arbennig |