Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso (9:30)

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod a diolchodd i'r rhai a oedd yn bresennol am gadarnhau eu haelodaeth o'r Fforwm yn ffurfiol.

Nododd y Cadeirydd nad oedd y ceisiadau llwyddiannus i Gronfa Adnewyddu Cymunedol a Chronfa Chodi’r Gwastad Llywodraeth y DU yn hysbys o hyd oherwydd oedi parhaus, ond y byddai'r cyfarfod yn cynnwys diweddariadau gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar ddatblygiadau diweddar, yn ogystal â sesiynau ar ddarparu sgiliau a chymorth busnes yn y dyfodol, a'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n digwydd gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).

2. Cylch Gorchwyl (9:35)

Diolchodd y Cadeirydd i'r aelodau am adolygu'r Cylch Gorchwyl drafft a ddosbarthwyd cyn y cyfarfod blaenorol. Ychwanegodd fod y sylwadau a gafwyd ychydig y tu hwnt i gwmpas presennol y Fforwm ond y byddent yn ddefnyddiol wrth lywio'r adolygiad o'r Fforwm a'i rôl yn y dyfodol ar ddiwedd y flwyddyn.

Ni chafwyd unrhyw sylwadau pellach a derbyniwyd y Cylch Gorchwyl gan yr aelodau a bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cafodd cofnodion cyfarfod 14 Gorffennaf eu clirio hefyd gan yr aelodau i'w cyhoeddi.

3. Diweddariad Llywodraeth Cymru (9:40)

Nododd y Cadeirydd fod Gweinidog yr Economi wedi gwneud datganiad yn y Senedd ar 28 Medi a oedd yn ymdrin â negeseuon pwysig ynghylch Cronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Chodi’r Gwastad y DU. Gwahoddwyd Peter Ryland (PR) i wneud sylwadau pellach ar safbwynt Llywodraeth Cymru o ran y cronfeydd hyn.

Dywedodd PR fod Llywodraeth y DU wedi newid eu hymagwedd yn ddiweddar ac wedi gofyn i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wneud gwaith ar ddangosyddion ac allbynnau ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF).

Fodd bynnag, mae’r ffaith fod y gwaith hwn yn cael ei wneud mor hwyr yn peri pryder ac nid yw’r rhagolygon y bydd SPF llawn ar waith yn 2022-23 yn obeithiol iawn. Mae'n debygol y bydd y Gronfa Adnewyddu Cymunedol (CRF) beilot yn cael ei hymestyn y flwyddyn nesaf gan fod Llywodraeth y DU wedi gohirio cyhoeddi ceisiadau llwyddiannus am dri mis, ac o dan y cynlluniau presennol mae angen cwblhau prosiectau erbyn diwedd mis Mawrth 2022.

Dywedodd PR fod Gweinidog yr Economi wedi gwneud pwynt o estyn allan at yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Godi’r Gwastad, Tai a Chymunedau, Michael Gove, yn ei ddatganiad yn y Senedd a’i fod hefyd wedi ysgrifennu ato i ofyn am gyfarfod cyn Adolygiad Gwariant y DU ar 27 Hydref. Mae Llywodraeth Cymru yn wirioneddol barod i gydweithio â Llywodraeth y DU ar sail parch at y setliad datganoli a phroses o wneud penderfyniadau ar y cyd.

Nododd PR fod Gweinidog yr Economi wedi cyfarfod â phartneriaid Addysg Uwch yn ddiweddar i drafod y materion hyn. Ychwanegodd, er y gallai fod potensial i ymgysylltu'n well â Llywodraeth y DU yn dilyn ad-drefnu Cabinet y DU, y bydd yr oedi wrth darparu'r cronfeydd hyn yn rhoi partneriaid cyflenwi yng Nghymru o dan bwysau gwirioneddol y flwyddyn nesaf.

Yn dilyn sylwadau PR, gwnaeth yr aelodau'r sylwadau canlynol:

  • Mae Llywodraeth y DU wedi dweud wrth Brifysgolion y bydd ei dull o ariannu ymchwil yn seiliedig ar ymyriadau rhanbarthol ac agosach at y farchnad.
  • Mae gan y trydydd sector bryderon ynghylch sut y gwneir penderfyniadau ar geisiadau i Gronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU. Credir y gallai penderfyniadau Llywodraeth y DU fod yn seiliedig ar wasgaru ar draws meysydd, yn hytrach nag ar sail teilyngdod. Hefyd, mae Llywodraeth y DU yn defnyddio ystadegau amddifadedd ar gyfer Lloegr, ond nid ar gyfer gwledydd datganoledig, felly mae anghysondeb yn y dull gweithredu. Mae tua 9% o'r ceisiadau a gyflwynwyd yn y rownd gyntaf wedi dod o Gymru, gan geisio £3.7m o gyllid.
  • Gyda'i gilydd, mae cyrff trydydd sector cenedlaethol o bob gwlad yn y DU wedi ysgrifennu at Michael Gove i ofyn am ymgysylltu mwy strwythuredig ar yr SPF.
  • Mae gan y trydydd sector gyfarfod wedi’i drefnu gyda Gweinidog yr Economi i drafod effaith dull Llywodraeth y DU o weithredu ar broses gyflawni’r trydydd sector yn y dyfodol.

4. Diweddariad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (9:55)

Diolchodd y Cadeirydd i PR a gwahoddodd Tim Peppin (TP) i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).

Dywedodd TP ei bod yn ymddangos yn debygol y byddai ceisiadau llwyddiannus i'r Gronfa Adnewyddu Cymunedol (CRF) a’r Gronfa Codi’r Gwastad (LUF) bellach yn cael eu cyhoeddi ym mis Tachwedd ar ôl Adolygiad o Wariant y DU.

Nododd TP fod rhai awdurdodau lleol wedi ysgrifennu at ymgeiswyr i ofyn am oblygiadau'r oedi ar gyflawni prosiectau arfaethedig. Ychwanegodd bod disgwyl y byddai'r CRF yn cael ei hymestyn am dri mis i fis Mehefin y flwyddyn nesaf.

Mae Llywodraeth y DU wedi creu tasglu gyda'r pedair Cymdeithas Llywodraeth Leol i drafod yr SPF. Cynhaliwyd dau gyfarfod hyd yma gyda Llywodraeth y DU yn gwrando ar adborth heb unrhyw wybodaeth newydd.

Dywedodd TP fod CLlLC wedi pwysleisio'r pwyntiau canlynol yng nghyfarfodydd y tasglu:

  • Pwysigrwydd telerau ymgysylltu clir, a galw am gyfarfod grŵp o aelodau gwleidyddol, yn hytrach na swyddogion yn unig
  • Pwysigrwydd penderfyniadau lleol, yn ffitio i strategaeth genedlaethol
  • Yr angen am ymgysylltu priodol a chydgynhyrchu gwirioneddol wrth ddylunio'r SPF
  • Yr angen am ymrwymiadau ariannu hirdymor
  • Osgoi prosesau ymgeisio cystadleuol
  • Pwysigrwydd cynnwys llywodraethau datganoledig
  • Y dull a ffefrir fyddai un pot integredig
  • Ffocws ar ganlyniadau ac eglurder ynghylch yr hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni gyda'r cyllid

Ychwanegodd TP fod Arweinwyr CLlLC wedi ysgrifennu at Michael Gove i ofyn am ymgysylltu cynnar ar yr SPF. Roedd CLlLC hefyd wedi cael gwahoddiad yn ddiweddar gan adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig, DEFRA a DLUHC, i ddigwyddiad bord gron i drafod cyllid gwledig yng nghyd-destun yr SPF.

5. Darparu cymorth sgiliau, cyflogadwyedd a busnes yn y dyfodol (10:10)

Diolchodd y Cadeirydd i TP a chyflwynodd Huw Morris (HM) a Duncan Hamer (DH) o Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu cymorth sgiliau, cyflogadwyedd a busnes yn y dyfodol.

Dywedodd HM fod Llywodraeth Cymru yn wynebu cyllideb ac amgylchedd gwleidyddol heriol.

Yn y cyfnod 2014-2020, roedd Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu tua £681m i gyfateb i £435m o gyllid Ewropeaidd ar draws Prentisiaethau a chymorth cyflogadwyedd, ac wedi darparu’r strategaeth a'r cyllid sylfaenol o ran cyflogadwyedd a sgiliau. 

Mae bylchau yn y ddarpariaeth sgiliau drwy raglenni'r Adran Gwaith a Phensiynau a'r Ganolfan Byd Gwaith, ac ar ôl i’r cynlluniau a ariennir gan yr UE ddod i ben bydd angen i Lywodraeth Cymru ddiwallu’r anghenion. Mae hyn yn arbennig o wir o ran y bobl sydd bellaf o'r farchnad lafur ac yn wynebu'r heriau mwyaf o ran cael gwaith.

Ychwanegodd HM fod cyfraddau diweithdra isel a chyfraddau uchel o swyddi gwag hefyd yn her benodol.

Dywedodd EM y bydd Llywodraeth Cymru yn lansio strategaeth gyflogadwyedd newydd yn y flwyddyn newydd ac erbyn hynny bydd y sefyllfa gyllidebol, cynlluniau Adran Gwaith a Phensiynau’r DU yn y dyfodol ac effaith cyllid yr UE yn dod i ben yn raddol o 2022/23 yn gliriach. Bydd y strategaeth gyflogadwyedd yn cael ei datblygu'n agos gyda phartneriaid yng Nghymru.

Dywedodd DH fod heriau mawr, tebyg yn wynebu Busnes Cymru a’r nawdd i Fanc Datblygu Cymru. Ar gyfer Busnes Cymru, bydd bwlch cyllido o £25m pan ddaw cyllid yr UE i ben ac nid oes eglurder o hyd ynghylch a fydd rhaglenni cenedlaethol yn cael eu cefnogi drwy'r SPF.

Mae Busnes Cymru yn gweld cynnydd yn y galw ar ôl y cyfnod clo am gymorth cychwyn busnes a chymorth i fusnesau bach a chanolig. O ran yr adnoddau Covid y ceisiwyd amdanynt gan fusnesau, cefnogwyd 80 y cant o geisiadau gan Busnes Cymru. Nododd DH hefyd eu bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda llywodraeth leol fwy nag erioed o'r blaen mewn ymateb i bandemig Covid a’u bod yn croesawu'r dull hwn wrth symud ymlaen.

Nododd Rachel Garside-Jones (RGJ) y bydd Gweinidog yr Economi yn amlinellu gweledigaeth, yn ogystal â'r cyfleoedd a'r risgiau ar gyfer datblygu economaidd ar ôl Covid a Brexit mewn Uwchgynhadledd Economaidd a gynhelir ar 18 Hydref. Bydd yr Uwchgynhadledd yn cael ei dilyn gan ddatganiad llafar yn y Senedd y diwrnod canlynol.

Mewn ymateb i'r diweddariadau gan HM a DH, gwnaeth yr aelodauy sylwadau canlynol:

  • Ymholiad am gynlluniau wrth gefn ar gyfer Busnes Cymru os na all Llywodraeth Cymru gael mynediad at gyllid SPF.
  • Datganiad y bydd Ffederasiwn y Busnesau Bach yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn ei hymdrechion i sicrhau cyllid i gynnal gwasanaeth Busnes Cymru yn llawn.
  • Holi a all llywodraeth leol helpu i lenwi'r bwlch cyllid.
  • Mae prifysgolion yn cynnig cymorth sylweddol i dyfu busnesau, ac maent yn allweddol i oroesiad busnesau, ond bydd colli cyllid yr UE yn effeithio arnynt hwythau hefyd.
  • Ymholiad am y datblygiadau diweddaraf o ran bargeinion arloesi arfaethedig y DU.
  • Sylw y bydd cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer yr SPF yn creu patrwm daearyddol o awdurdodau lleol a fydd yn gwrthdaro â'r dull rhanbarthol sydd wedi'i ddatblygu yng Nghymru ac sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y Bargeinion Dinesig a Thwf.

Mewn ymateb i'r sylwadau hyn, gwnaed y pwyntiau canlynol.

  • Mae achos cryf dros gadw Busnes Cymru yn un gwasanaeth cymorth cenedlaethol. Mae'r sefyllfa'n ansicr o ystyried yr amgylchedd ariannol a gwleidyddol. Er y bydd cyllid yr UE yn dod i ben ym mis Medi 2023, gallai elfennau y mae angen eu caffael gymryd 12-18 mis.
  • Mae angen dosbarthu cyllid arloesi'r DU yn fwy teg. Dangoswyd graffig yn dangos lledaeniad mwy cyfartal cyllid arloesi yng Nghymru drwy gynlluniau Llywodraeth Cymru (Sêr Cymru) o'i gymharu â chynlluniau Llywodraeth y DU (Innovate UK).
  • Ystyrir bod Cyd-bwyllgorau Corffororedig yn ffordd ymlaen o ran integreiddio cyfranogiad lleol mewn dulliau rhanbarthol o ddatblygu economaidd.
  • Nododd aelod llywodraeth leol bwysigrwydd cynllunio cynnar a gwaith cydweithredol / rhanbarthol gan lywodraeth leol i i helpu i fynd i'r afael â'r bylchau sy'n dod i'r amlwg.
  • Cadarnhawyd y gall cyllid yr UE barhau tan ddiwedd mis Medi 2023, ond nid y tu hwnt hynny oherwydd amserlenni gwario’r Comisiwn Ewropeaidd.

6. Yr wybodaeth ddiweddaraf am brosiect OECD (10:40)

Diolchodd y Cadeirydd i HM a DH ac am sylwadau'r aelodau. Cyflwynodd Sheilah Seymour (SS) i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ac i ateb cwestiynau am brosiect dwy flynedd newydd Llywodraeth Cymru gyda'r OECD. Nododd fod papur ar y gwaith hwn wedi'i ddosbarthu cyn y cyfarfod ac y bydd hefyd yn cael ei gyhoeddi ar y wefan.

Codwyd y pwyntiau canlynol gan yr aelodau:

  • Y potensial i'r prosiect ystyried gweithio trawsffiniol, gan gynnwys effeithiau a chanlyniadau.
  • Y cyfle i CLlLC gyfrannu at y prosiect.
  • Ymholiad am gyfnod dwy flynedd y prosiect o ystyried cyflymder y newid.
  • Y posibilrwydd y gellid ymgysylltu â Llywodraeth y DU drwy’r gwaith.

Wrth ymateb, gwnaeth SS y sylwadau canlynol:

  • Mae'n gamau cynnar i'r prosiect, ond bydd y potensial ar gyfer elfennau trawsffiniol yn cael ei archwilio gyda'r OECD, a bydd CLlLC yn cael ei gynnwys fel un o nifer o randdeiliaid y bydd yr OECD yn awyddus i glywed eu barn.
  • Mae dwy flynedd yn gyfnod safonol ar gyfer prosiectau o'r fath, ond bydd canfyddiadau ac adroddiadau interim ar gael a all gefnogi Gweinidogion yn gynharach.
  • Codwyd y gwaith hwn gyda Llywodraeth y DU drwy ohebiaeth gan Weinidogion. Y gobaith yw y bydd Llywodraeth y DU yn fwy agored i ymgysylltu'n wirionedd gan fod Ysgrifennydd Gwladol newydd yn ei swydd.

7. Unrhyw fater arall a sylwadau i gloi (10:50)

Ni nodwyd unrhyw faterion eraill gan yr aelodau.

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau am eu presenoldeb a’u cyfraniadau. Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Tachwedd yn dilyn Adolygiad o Wariant Llywodraeth y DU ar 27 Hydref. Anfonir nodyn dyddiadur at yr aelodau pan fydd dyddiad y cyfarfod wedi’i gadarnhau.

Atodiad A: rhestr o mynychwyr

Cadeirydd

Huw Irranca-Davies AS

Aelodau

Sefydliad

Enw

CBI Cymru

Nick Speed, Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus, BT

Prifysgolion Cymru

Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr

Colegau Cymru

Lisa Thomas, Pennaeth Coleg Merthyr Tudful

Banc Datblygu Cymru

Rob Hunter, Pennaeth Strategaeth

Partneriaeth De-ddwyrain Cymru

Nicola Somerville, Pennaeth Datblygu Busnes a Thwf Cynhwysol, Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru

Y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Ceredigion

Cyfoeth Naturiol Cymru

Alan Hunt, Uwch Gynghorydd Arbenigol

Y Trydydd Sector (Menter Gymdeithasol)

Derek Walker, Prif Weithredwr, Canolfan Cydweithredol Cymru

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy

Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm -  Ewrop ac Adfywio

Siambrau Masnach

Sarah Smith, Cyfarwyddwr Marchnata a Digwyddiadau

Ffederasiwn Busnesau Hunangyflogedig a Bach Cymru

Ashley Rogers, Cyfarwyddwr, Gill and Shaw

Grahame Guilford and Company Ltd

Grahame Guilford

Partneriaeth y Trydydd Sector

Matthew Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Prifysgol Caerdydd

Kevin Morgan, Athro Llywodraethiant a Datblygu, Prifysgol Caerdydd

Partneriaeth Gogledd Cymru

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Harriet Barnes, Cyfarwyddwr Polisi a Chyllid

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

Mynychwyr o Lywodraeth Cymru

 

Enw

Rôl ac adran

Peter Ryland

Prif Weithredwr, WEFO

Rachel Garside Jones

Dirprwy Gyfarwyddwr – Polisi Economaidd, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Sioned Evans

Cyfarwyddwr – Busnes a Rhanbarthau, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Huw Morris

Cyfarwyddwr Grŵp – SHELL, Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Rhodri Griffiths

Prif Swyddog Rhanbarthol, y Canolbarth a'r Gorllewin – Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Duncan Hamer

Dirprwy Gyfarwyddwr – Busnes a’r Rhanbarthau, Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

John Hughes

Pennaeth Buddsoddi Rhanbarthol, Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Sue Price

Pennaeth Rheoli Rhaglen (ERDF), WEFO

Alison Sandford

Pennaeth Gwaith Partneriaeth, WEFO

Sheilah Seymour

Pennaeth Ymchwil a Dadansoddi, WEFO

Mike Richards

Rheolwr Cyfathrebu, WEFO

Geraint Green

Pennaeth Rheoli Rhaglenni (ESF ac ETC), WEFO

Tracy Welland

Pennaeth Gweithredu Strategol, WEFO