Cyfarfod y Fforwm Strategol ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, 6 Gorffennaf 2022: cofnodion
Cofnodion cyfarfod y Fforwm Strategol ar Fuddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, 6 Gorffennaf 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Croeso
Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod gan ddiolch i’r aelodau am fod yn bresennol a chroesawu’r Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion sydd wedi ymuno â’r Fforwm yn gynrychiolydd newydd Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru.
Ers y cyfarfod diwethaf (25 Ebrill), nododd y Cadeirydd fod awdurdodau lleol wedi bod yn datblygu cynlluniau buddsoddi rhanbarthol ar gyfer y flwyddyn gyntaf o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF). Disgwylir i’r cynlluniau gael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU erbyn 1 Awst. Bydd Tim Peppin (TP) o CLlLC yn rhoi diweddariad ar gynnydd yn ystod y cyfarfod.
Anogodd y Cadeirydd aelodau o sectorau eraill i rannu eu profiadau hefyd o ran ymwneud â’r Gronfa ac esboniodd y byddai trafodaeth agored yn dilyn diweddariad TP.
Ar wahoddiad y Cadeirydd, pasiwyd cofnodion drafft y cyfarfod blaenorol dyddiedig 25 Ebrill heb unrhyw sylw pellach.
2. Diweddariad Llywodraeth Cymru
Gwahoddodd y Cadeirydd Peter Ryland (PR) i roi diweddariad ar ran Llywodraeth Cymru.
Rhannodd PR fod yr amgylchedd gwleidyddol yn parhau i fod yn anodd iawn i Lywodraeth Cymru gan nodi safbwynt Llywodraeth y DU, a rannwyd ym Mhwyllgor Cyllid diweddar y Senedd, ynghylch y trefniadau cyllido ar ôl ymadael â’r UE. Ailadroddodd fod Llywodraeth Cymru yn llwyr ymwybodol o’r effaith y mae hyn yn ei chael ar randdeiliaid sy’n ceisio llywio sefyllfa gyllido ansefydlog.
Ychwanegodd PR y bydd Llywodraeth Cymru yn fodlon trafod ymyriadau penodol a gynigir gan awdurdodau lleol yn dilyn cymeradwyaeth Llywodraeth y DU o gynlluniau buddsoddi rhanbarthol y Gronfa.
Nododd Alison Sandford (AS) fod Gweinidog yr Economi wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol ar y pryd, Michael Gove, ym mis Mehefin i gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ynghylch y Gronfa. Ni all Gweinidogion Cymru gefnogi’r dull y mae Llywodraeth y DU wedi’i gymryd ac ni fydd Llywodraeth Cymru yn chwarae unrhyw ran swyddogol yn y broses o gefnogi gweithredu’r Gronfa fel y mae pethau ar hyn o bryd. Mae’r safbwynt hwn wedi’i amlinellu hefyd mewn Datganiad Ysgrifenedig diweddar.
Dywedodd AS fod Gweinidogion Cymru yn agored i drafod gyda Llywodraeth y DU os ydynt yn barod i fynd i’r afael â phryderon ynghylch y modd y caiff cyllid ei ddyrannu a’r setliad datganoli.
Ychwanegodd AS fod Gweinidog yr Economi hefyd wedi ysgrifennu at arweinwyr llywodraeth leol fis diwethaf i gadarnhau safbwynt Llywodraeth Cymru ac i gynnig cefnogaeth o ran datblygu cynlluniau buddsoddi, datblygu cydweithio ar froceru a datblygu partneriaethau ar draws sectorau er mwyn osgoi dyblygu gweithgarwch a sicrhau bod y gwaith yn cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru. Mae’r llythyr yn nodi’r meysydd y gallai Llywodraeth Cymru eu cefnogi ee mewn sgiliau a chefnogi busnesau, ond byddai pob ymyriad yn cael ei asesu ar sail fesul achos unigol.
Yn dilyn cais gan CLlLC, cytunodd PR y byddai cyfarfod nesaf y Fforwm hefyd yn cynnwys diweddariad ar gyllid gan Lywodraeth Cymru i ardaloedd gwledig ar ôl ymadael â’r UE.
3. Diweddariad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Gwahoddodd y Cadeirydd TP i roi diweddariad ar ddatblygiadau ar lefel llywodraeth leol gan gynnwys cynnydd ar gynlluniau buddsoddi’r Gronfa.
Dywedodd TP fod awdurdodau lleol arweiniol yn cyd-lynu gweithgareddau ymgysylltu a’u bod yn llunio darlun rhanbarthol wrth iddynt ddatblygu cynlluniau buddsoddi. Mae’r amserlenni yn anodd gan eu bod angen adrodd wrth awdurdodau lleol unigol o fewn eu rhanbarth a sicrhau bod adroddiadau wedi'u clirio gan bob cabinet cyfansoddol o fewn yr awdurdodau lleol. Bydd cynlluniau buddsoddi o natur lefel uchel, gyda phenderfyniadau i’w gwneud ynghylch prosiectau ac ymyriadau penodol ar ôl i’r cynlluniau gael eu cymeradwyo gan Lywodraeth y DU.
Esboniodd TP fod rhai materion ymarferol i’w datrys gyda Llywodraeth y DU, megis y cais am broffiliau a chanlyniadau gwariant, pan mai darlun sy’n fwy bras sydd ei angen ar y cam hwn o’r broses.
Ychwanegodd TP fod awdurdodau lleol yn edrych ar gynnig dyraniadau bloc o gyllid ar gyfer rhai ardaloedd, gyda’r manylion, trefniadau darparu a chwmpas y darpariaethau i’w penderfynu ar ôl cael cymeradwyaeth. Bydd trafodaethau gyda rhanddeiliaid yn parhau hyd nes bod y cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol hon wedi ei gael ym mis Hydref. Mae cyfleoedd ar gyfer trafodaethau partneriaeth yn parhau.
Nododd TP fod sawl sefydliad wedi cyflwyno cais i awdurdodau lleol am gyllid gan y Gronfa, a’u bod yn ceisio ymateb mewn modd trefnus er gwaethaf y ffaith nad yw’r amserlenni yn caniatáu’r lefel o ymgysylltu sydd ei hangen mewn gwirionedd.
O ran y cynllun Lluosi (Multiply) a fydd yn cael ei gyllido gan y Gronfa, esboniodd TP fod CLlLC yn pwyso am ragor o hyblygrwydd ac i gyfran o’r cyllid gael ei ledaenu ar draws prif flaenoriaethau buddsoddi’r Gronfa. Mae awdurdodau lleol yn bryderus ynghylch y tebygolrwydd o danwario a dyblygu yn sgil y ffaith bod ffocws y cynllun ar hyn o bryd yn rhy gyfyng.
Esboniodd TP fod lefel o amharodrwydd i gynnig prosiectau sy’n seiliedig ar refeniw o fewn cynlluniau’r Gronfa gan eu bod yn ddibynnol ar ffynhonnell barhaol o gyllid tra bo’r Gronfa ar hyn o bryd yn dod i ben yn 2025.
4. Diweddariad ar y cynllun Lluosi
Gwahoddodd y Cadeirydd Sam Huckle (SH) o Lywodraeth Cymru i roi diweddariad ar y cynllun Lluosi, sef cynllun rhifedd ar gyfer oedolion gan Lywodraeth y DU. Caiff y cynllun hwn ei gyllido gan y Gronfa.
Dywedodd SH fod gan Lywodraeth Cymru bryderon ynghylch y cynllun Lluosi a’r posibilrwydd iddo ddyblygu darpariaeth ddatganoledig sy’n bodoli eisoes. Mae’r cyllid sy’n cael ei ddyrannu i’r cynllun yng Nghymru yn anghymesur wrth ystyried buddsoddiad sylweddol Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Esboniodd SH y bydd heriau gwirioneddol o ran darparu, er enghraifft penodi a hyfforddi digon o diwtoriaid, gwerth am arian a’r gallu i ddefnyddio’r dyraniad cyfan o gyllid.
Mae dryswch yn parhau ynghylch y berthynas rhwng llwyfan cenedlaethol Adran Addysg Llywodraeth y DU sy’n cynnig dadansoddi sgiliau ac ati, a’r cyllid a ddyrennir ar gyfer darpariaethau sgiliau lleol.
Ychwanegodd SH fod Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio annog Llywodraeth y DU i ehangu cwmpas y cynllun i gynnwys, er enghraifft, sgiliau digidol hanfodol er mwyn diwallu anghenion penodol Cymru yn well.
5. Trafodaeth agored
Gwnaeth aelodau y pwyntiau a ganlyn:
- Mae gwasanaethau’r trydydd sector a gyllidir gan yr UE bellach yn dod i ben heb unrhyw arwydd o gyllid newydd. Mae hyn am gael effaith fawr ar bobl sy’n agored i niwed ac yng nghymunedau ledled Cymru.
- Mae Cymru angen strwythur lywodraethu priodol er mwyn i randdeiliaid ymgysylltu â’r Gronfa. Mae hyn wedi’i godi gyda Llywodraeth y DU. Gallai hwn fod yn strwythur sy’n datblygu o’r Fforwm hwn.
- Mae Llywodraeth y DU yn ymyrryd â meysydd datganoledig. Byddai’r Gronfa hon yn cael ei chyd-gynhyrchu a’i rheoli yn well yng Nghymru. Bydd anawsterau gwirioneddol o ran gwario cyllid Lluosi gan fod cwmpas y cynllun yn llawer iawn rhy gyfyng.
- Mae awdurdodau lleol yn gweithio’n galed ar feithrin cysylltiadau. Bydd angen i gynlluniau strategol newid yn barhaus yn sgil digwyddiadau sy’n creu bylchau mewn darpariaethau sy’n bodoli eisoes. Bydd penodi staff i gefnogi’r gwaith cyflawni yn heriol.
- Mae’r sector Addysg Bellach wedi ymgysylltu’n dda gyda llywodraeth leol. Ar hyn o bryd, mae’r sector yn cyfrifo darpariaethau posibl o dan y flaenoriaeth fuddsoddi Pobl a Sgiliau.
- Mae’n bwysig nodi bod y gost o ddatblygu prosiectau mewn ardaloedd gwledig yn sylweddol uwch o gymharu â’r gost o’u datblygu mewn ardaloedd trefol. Nid yw cyllid y Gronfa yn agos i’r hyn a gafwyd yn flaenorol mewn cylchoedd cyllido yr UE.
- Mae is-grŵp Rhyngwladol a Thrawsffiniol y Grŵp Llywio blaenorol i’r Fforwm hwn yn datblygu i fod yn grŵp cynghori i gefnogi menter Cymru Ystwyth. Nod y fenter yw cefnogi cyfleoedd cydweithio rhyngwladol. Ar hyn o bryd, mae cyllid ar gael i gynnal a datblygu cydweithio gyda rhanbarthau Baden-Württemberg, Llydaw a Fflandrys.
6. Unrhyw fater arall a sylwadau i gloi
Ni chodwyd unrhyw fater arall.
Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu cefnogaeth barhaus a rhoddodd wybod y byddai’r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ar ôl cyflwyno cynlluniau buddsoddi’r Gronfa yn fuan yn nhymor yr hydref.
Atodiad A: rhestr o mynychwyr
Cadeirydd
Huw Irranca-Davies AS
Aelodau
Sefydliad |
Enw |
---|---|
Rhwydwaith Gwledig Cymru |
Eirlys Lloyd, Cadeirydd |
Grahame Guilford and Company Ltd |
Grahame Guilford |
Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru |
Hywel Edwards |
Cyfoeth Naturiol Cymru | Ceri Davies, Cyfarwyddwr Gweithredol Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu |
Prifysgol Caerdydd | Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygu, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio |
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) |
Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy |
Prifysgolion Cymru |
Lisa Thomas, Pennaeth Coleg Merthyr Tudful |
Partneriaeth y Trydydd Sector | Matt Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru |
Siambrau Cymru |
Oliver Carpenter, Swyddog Gweithredol |
Y Trydydd Sector (Mentrau Cymdeithasol) | Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter, Cwmpas |
Banc Datblygu Cymru | Rob Hunter, Pennaeth Strategaeth |
Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru |
Y Cynghorydd Bryan Davies, Arweinydd, Cyngor Sir Ceredigion |
Partneriaeth Gogledd Cymru |
Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru Alwen Williams, Cyfarwyddwr y Rhaglen, Bargen Twf y Gogledd |
Mynychwyr o Lywodraeth Cymru
Enw |
Swydd ac adran |
---|---|
Claire McDonald | Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Economaidd, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad (ETC) |
Duncan Hamer | Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Busnes a Rhanbarthau, ETC |
Peter Ryland |
Prif Swyddog Gweithredol, Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) |
Mike Richards |
Rheolwr Cyfathrebu, WEFO |
Alison Sandford |
Pennaeth Polisi a Gweithio mewn Partneriaeth, WEFO |
Geraint Green |
Pennaeth Rheoli Rhaglenni (Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Chydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd), WEFO |
Thomas Brown |
Uwch-swyddog Polisi (Polisi Rhanbarthol), WEFO |
Sheilah Seymour | Pennaeth Ymchwil a Dadansoddi, WEFO |
Sam Huckle |
Pennaeth Cyflenwi a Gweithrediadau - Cyflogadwyedd a Sgiliau |
Ann Watkin | Pennaeth Strategaeth, Cydweddu Gweithrediadau a Chynllunio, ETC |