Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso

Agorodd y Cadeirydd y cyfarfod a diolchodd i’r aelodau am fod yn bresennol, gan nodi’r datblygiadau sylweddol a oedd wedi digwydd ers y cyfarfod blaenorol. Ar 13 Ebrill, ar ôl pythefnos o drafodaethau dwys ond hwyr iawn gyda Llywodraeth Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y prosbectws ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Nododd y Cadeirydd na ddaeth y ddwy lywodraeth i gytundeb ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin, er gwaethaf y consesiynau a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru.

Ychwanegodd fod Gweinidog yr Economi wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar 13 Ebrill yn nodi ymateb Llywodraeth Cymru, sef nad oedd swm y cyllid a fyddai ar gael i awdurdodau lleol Cymru, na’r fformiwla a oedd yn cael ei defnyddio i’w ddyrannu i bob awdurdod, yn briodol yn lle’r cyllid a oedd yn cael ei dderbyn oddi wrth yr UE yn flaenorol. Yn ogystal, mae’r ffaith na chafodd Llywodraeth Cymru ei chynnwys yn ddigon yn y penderfyniadau ynghylch trefniadau llywodraethu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn tanseilio setliad datganoli Cymru, a hynny drwy Weinidogion y DU yn defnyddio pwerau o dan Ddeddf Marchnad Fewnol y DU i wario arian cyhoeddus mewn meysydd polisi datganoledig.

Pwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd y cyfarfod heddiw o safbwynt casglu barn yr aelodau ar y datblygiadau diweddaraf, fel y gellir eu hadrodd i Weinidogion Cymru.

Ar gais y Cadeirydd, cafodd cofnodion y cyfarfod blaenorol ar 17 Ionawr eu pasio heb sylwadau pellach.

2. Diweddariad Llywodraeth Cymru

Ar gais y Cadeirydd, rhoddodd Peter Ryland (PR) ddiweddariad ar drafodaethau a gweithgareddau Llywodraeth Cymru ers y cyfarfod diwethaf.

Dywedodd PR na rannodd Llywodraeth y DU unrhyw gynnydd bron tan bythefnos cyn y Pasg, pan gynhaliwyd nifer o drafodaethau dwys rhwng swyddogion cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi prosbectws y Gronfa Ffyniant Gyffredin ar 13 Ebrill, sef y diwrnod olaf posibl cyn i’r cyfnod cyn etholiadau’r awdurdodau lleol ddechrau.

Nododd PR fod y trafodaethau dwys wedi arwain at ganlyniad gwell na phe na baent wedi cael eu cynnal, ond ni allai Gweinidogion Cymru ddod i gytundeb â Llywodraeth y DU ynghylch y materion allweddol a ganlyn:

  • Swm y cyllid: mae bellach yn amlwg bod diffyg yn y cyllid o fwy nag £1 biliwn o’i gymharu a’r cyllid a ddaeth i Gymru o’r UE, a hynny oherwydd bod Trysorlys y DU yn gwrthod ystyried gorgyffwrdd y cyllid dros gyfnod o ddwy flynedd o dan raglenni cyllid yr UE, ac oherwydd ei fod yn debydu derbyniadau a oedd yn ddyledus o raglenni’r Cronfeydd Strwythurol ar gyfer 2014–2020.
  • Y fformiwla ddyrannu i awdurdodau lleol: er bod fformiwla Llywodraeth y DU bellach yn cynnwys elfen o bwysoli ar sail anghenion, a hynny o ganlyniad i eirioli gan Lywodraeth Cymru, nid yw’n mynd yn ddigon pell o ran cyfeirio cyllid at y meysydd lle mae’r angen mwyaf.
  • Llywodraethu: bu Llywodraeth y DU yn gadarn erioed o safbwynt y ffaith na fydd Gweinidogion Cymru yn chwarae rhan mewn gwneud penderfyniadau, ac mae hyn yn tarfu ar y setliad datganoli i Gymru oherwydd bod datblygu economaidd yn fater datganoledig.

Cadarnhaodd PR y cafodd consesiwn cadarnhaol ei sicrhau yn ystod y trafodaethau, sef y byddai’n ofynnol i bolisïau ar gyfer y cynlluniau buddsoddi o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin y bydd awdurdodau lleol yn eu datblygu gyd-fynd â’r Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru.

Cadarnhaodd PR y manylion gweithredol a ganlyn sydd wedi’u cynnwys ym mhrosbectws y Gronfa Ffyniant Gyffredin:

  • Caiff cyllid ei gyfeirio’n uniongyrchol o Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau Llywodraeth y DU i awdurdodau lleol yng Nghymru.
  • Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol lunio cynlluniau buddsoddi, sy’n cynnwys gofynion ar gyfer gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o bartneriaid er mwyn datblygu a chyflawni’r cynlluniau; a chydweithio ar lefel ranbarthol.
  • Caiff Gweinidogion Cymru eu gwahodd i gymryd rhan yn Fforwm Gweinidogol Llywodraeth y DU er nad oes ganddo unrhyw bwerau i wneud penderfyniadau ynghylch cynlluniau buddsoddi.

Esboniodd PR, er y bydd angen i Weinidogion Cymru ystyried eu camau nesaf ynglŷn ag ymgysylltu â Llywodraeth y DU ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin, fod Gweinidogion yn parhau i fod wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru – yn enwedig drwy’r Fforwm hwn – er mwyn gwneud popeth posibl i greu buddsoddiadau rhanbarthol cydlynol yn y cyd-destun newydd. Gallai hyn gynnwys manteisio ar bwerau a’r gallu i gwrdd, cynnig cymorth a rhwydweithio. Bydd angen i awdurdodau lleol ymgysylltu mewn ffordd ehangach nag o’r blaen.

Hefyd rhoddodd PR ddiweddariad ar y gwaith gyda’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD):

  • Mae’r gwaith yn mynd rhagddo ac mae’r OECD wedi gwneud ymchwil pen bwrdd ar y cyd â Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Mae ganddynt ddiddordeb yng ngoblygiadau prosbectws y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
  • O ganlyniad i holiadur cyhoeddus gan yr OECD, casglwyd dros 1,400 o ymatebion a chafwyd cynrychiolaeth eang dda.
  • Mae’r OECD yn cynnal cyfres o weithdai pennu gweledigaeth gyda Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a phartneriaid ehangach; bydd digwyddiad llawn terfynol yn cyfuno adborth o bob un o’r tri. Caiff y digwyddiad llawn ei gynnal ar 5 Gorffennaf.
  • Wedyn bydd yr OECD yn cyflwyno’i ganfyddiadau a’i gasgliadau i’r Cabinet.

3. Diweddariad CLlLC

Ar gais y Cadeirydd rhoddodd Tim Peppin (TP) ddiweddariad ar waith ymgysylltu a gweithgareddau CLlLC mewn perthynas â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Cytunodd TP y bu’n siom nad oedd safon y ddeialog â Llywodraeth y DU dros y pythefnos diwethaf wedi bod cyn hynny, a nododd fod cyfran Cymru o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sef 23%, yn gyfran dda o’r hyn sydd ar gael. Nawr, mae’n allweddol gwneud y defnydd gorau posibl o’r arian.

Tynnodd TP sylw at anhawster yr amserlen dynn ar gyfer cyflwyno cynlluniau buddsoddi, sef rhwng 30 Mehefin ac 1 Awst, a’r ffaith bod CLlLC yn cydlynu’r ymarfer hwn gyda 22 awdurdod lleol. Mae cyfnod etholiadau’r awdurdodau lleol a’r amser a gymerir i sefydlu swyddogion sydd newydd eu hethol, ffurfio Cabinetau newydd ac ati, yn gwneud hyn yn fwy heriol byth.

Mae’r awdurdodau lleol yn gwybod beth yw eu dyraniadau o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredinol, ar lefel unigol a rhanbarthol. Nid yw’r dyraniadau’n gystadleuol, ond mae canllawiau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn nodi’n glir fod disgwyl i awdurdodau lleol ddewis prosiectau i’w hariannu gyda’u dyraniad ar sail proses gynnig gystadleuol. Yn syml, mae’r cyfrifoldeb dros gynnal y gystadleuaeth wedi’i drosglwyddo o Lywodraeth y DU i’r awdurdodau lleol.

Er ei bod yn bosibl gwario arian ar brosiectau heb gynnal cystadleuaeth, eithriad ddylai hynny fod a bydd yn ofynnol darparu gwybodaeth ychwanegol yn egluro pam. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd yn bosibl i’r awdurdod lleol gaffael y prosiect neu ei gyflawni’n uniongyrchol.

Mae’r gofynion ar awdurdodau lleol i reoli’r gystadleuaeth ac unrhyw eithriadau, ynghyd â sefydlu’r amrywiaeth o grwpiau partneriaeth at ddibenion ymgysylltu, yn ychwanegu at y llwyth gwaith gofynnol o fewn yr amserlen ac yn gwneud yr holl broses yn heriol iawn. Mae CLlLC yn bwriadu cwrdd â grwpiau rhanbarthol er mwyn mynd i’r afael â’r broblem hon.

Amlygodd TP hefyd y manylion gweithredol a ganlyn ar gyfer awdurdodau lleol:

  • Bydd cynlluniau buddsoddi’n cynnwys ymyriadau y bydd rhaid eu dethol o’r rhestr ym mhrosbectws y Gronfa Ffyniant Gyffredin; ond mae’r rhestr hon yn eithaf cynhwysfawr.
  • Bydd angen i awdurdodau lleol lunio taenlen hefyd o bob prosiect a’r deilliannau i’w cyflawni. Ond bydd hyn yn anodd iawn hyd nes y bydd prosiectau wedi’u cadarnhau (un ai drwy gystadleuaeth, eu caffael, neu eu cyflawni’n uniongyrchol).
  • Bydd angen i gynlluniau buddsoddi gynnwys manylion yr ymgysylltu rhwng awdurdodau lleol a’r sector cyhoeddus, y sector preifat, a’r sector cymdeithas sifil (gan gynnwys cadarnhad bod yr Aelodau Seneddol cyfansoddol wedi’u gwahodd i ymuno â grŵp partneriaeth i’w sefydlu); strwythurau sydd ar waith ar gyfer llywodraethu’r cynllun buddsoddi; amlinelliad o sut mae’r awdurdod lleol yn bwriadu gweithio y tu allan i’w ardal ei hun (e.e. yn drawsffiniol â Lloegr ac yn rhanbarthol yng Nghymru); sut mae’r awdurdod lleol yn cydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus; disgrifiad o’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r rhaglen; ac amlinelliad o’r adnoddau dynol y bydd yr awdurdod lleol yn eu defnyddio yn erbyn pob un o’r tri philer yn y prosbectws (cymunedau a lle/cynorthwyo busnesau lleol/pobl a sgiliau).

Pwysleisiodd TP pa mor bwysig y byddai cydweithio â rhanddeiliaid a phartneriaid er mwyn cyflawni cynlluniau buddsoddi sydd wedi’u cynllunio’n dda.

4. Trafodaeth agored

Nododd yr aelodau y pwyntiau a ganlyn:

  • Beth yw’r diweddaraf ynghylch yr ymgysylltu a wnaed â’r gweinyddiaethau datganoledig eraill – yn enwedig yr Alban? Mewn ymateb, nododd PR fod cysylltiadau da â swyddogion yn y gweinyddiaethau datganoledig eraill wedi cael eu cynnal drwy gydol y broses. Mae’r safbwyntiau’n cyd-fynd â’i gilydd ar y cyfan, er bod digon o wahaniaethau rhyngddynt i olygu nad yw cyfathrebu ar y cyd yn debygol – ffefrir dull cydlynol, yn hytrach na dull ar y cyd.
  • Bydd awdurdodau lleol yn wynebu her aruthrol wrth gyflawni gwaith erbyn y dyddiadau cau – ac felly bydd angen meddwl yn ofalus am sut i gynllunio prosiectau yn effeithiol o dan amgylchiadau anodd. A oedd unrhyw fanylion pellach ynglŷn â rhoi cyfrifoldeb i awdurdodau lleol dros ddyrannu cyllid i brosiectau ar sail proses gystadleuol? Mewn ymateb, nododd TP, o’i gymharu â chyllid y Gronfa Ffyniant Bro a’r Gronfa Adfywio Cymunedol, a gafodd ei ddyrannu i awdurdodau lleol ar sail cystadleuaeth rhyngddynt, o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn lle hynny gwneir dyraniadau yn unol â fformiwla. Croesewir y newid hwn ond, o ganlyniad, rhaid i’r awdurdodau lleol wneud y gwaith o wahodd cynigion a’u hasesu. Mae pedwar y cant o ddyraniadau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i awdurdod lleol wedi’u neilltuo ar gyfer y gwaith gweinyddol o wneud hyn.
  • Gallai’r Fforwm hwyluso’r sefyllfa o ran capasiti ar gyfer awdurdodau lleol. Gall y Fforwm gydnabod y gwaith ar y Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru a dechrau pennu sut olwg allai fod ar brosiectau ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin o dan y Fframwaith hwnnw. Mewn ymateb, awgrymodd TP y câi unrhyw gymorth gan aelodau’r Fforwm ei werthfawrogi, a chytunodd y bydd y Fframwaith yn cynnig sylfaen ddefnyddiol iawn, yn enwedig oherwydd bod sicrhau cysondeb hefyd yn ofyniad yng nghanllawiau’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.
  • Pwy sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau terfynol ynghylch prosiectau, yn enwedig mewn senarios mwy cymhleth megis prosiectau trawsffiniol? Nododd TP mai arweinwyr cynghorau fydd yn gyfrifol am wneud trefniadau ar gyfer eu cynlluniau buddsoddi. Ychwanegodd PR y gallai hyn olygu y bydd modelau gwahanol yn cael eu defnyddio mewn ardaloedd gwahanol yng Nghymru.
  • Sut y gall cyllid ar gyfer busnesau – e.e. cyllid gan Fusnes Cymru, cyllid arloesi – gyd-fynd yn union â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin nawr bod y dyraniadau’n hysbys? Ymatebodd Duncan Hamer (DH) gan nodi bod cyllid gan Fusnes Cymru wedi’i sicrhau gan Lywodraeth Cymru tan ddiwedd 2025, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad maes o law ar strategaeth arloesi drawslywodraethol newydd i Gymru. Cydnabu DH yr angen i gadw mewn cysylltiad â’r sector busnes er mwyn parhau i geisio symleiddio a chysylltu’r ecosystem gyllido ar gyfer busnesau.
  • Nid yw’r amseru ar gyfer dosbarthu cyllid i dderbynyddion yn cyd-fynd yn dda â’r cyfnod o ddirwyn y rownd olaf o gyllid o’r UE i’r trydydd sector i ben, a’r angen i lywodraeth leol gynnal rowndiau ymgeisio cystadleuol ac ati. Mae hyn yn creu problem, sy’n debygol o ddwysáu dros yr haf, wrth i brosiectau a gwasanaethau gael eu gorfodi i ddod i ben o ganlyniad i ddiffyg cyllid ac adnoddau dynol, ac wrth i arbenigedd a seilwaith – yn enwedig yng nghyd-destun y cynnydd aruthrol mewn costau ynni – gael eu colli. Bydd angen llawer o waith partneriaeth i’w gwneud yn bosibl pontio rhywfaint o weithgarwch ar ffurfiau gwahanol, fel nad yw pobl sy’n agored i niwed y mae angen cymorth arnynt yn dioddef. Cytunodd TP, gan nodi’r gwaith sylweddol y bydd angen ei wneud, a thynnodd sylw at yr angen i awdurdodau lleol sicrhau bod y trafodaethau da sy’n cael eu cynnal â’r sector yn parhau fel nad yw prosiectau’n cael eu colli.
  • Gall proses gystadleuol ar gyfer ymgeisio am brosiectau arwain at swyddi dros dro o safon isel – sy’n rhywbeth nad yw’n unol â pholisïau Cymru. Ar ba lefel y gellid creu swyddi yn lle’r rhain o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, hyd yn oed yn wyneb y ffaith ei bod yn glir y bydd rhai pobl yn colli eu swyddi yn absenoldeb cyllid o’r UE? Nodwyd pwysigrwydd integreiddio’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol a’r Cynllun Gweithredu Anabledd yn y cyd-destun hwn hefyd. Cytunodd TP mai’r gobaith yw y gellir defnyddio’r Gronfa Ffyniant Gyffredin i ddiogelu swyddi presennol.
  • Ychwanegodd CLlLC fod yr awdurdodau lleol eisoes yn gweithio gyda llawer o bartneriaid, o fewn ardaloedd rhanbarthol – er enghraifft y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol a’r Bargeinion Dinesig a Thwf. Golyga hyn eu bod mewn sefyllfa dda i elwa ar y Gronfa Ffyniant Gyffredin. Drwy gydweithio, gall awdurdodau lleol nodi bylchau yn y ddarpariaeth ar lefel genedlaethol yr oedd rhaglenni’r UE yn eu cwmpasu yn flaenorol. Cytunodd TP fod angen adeiladu ar bartneriaethau presennol er y dylid cydnabod bod y rhestr o bartneriaid gofynnol ar gyfer cynlluniau buddsoddi yn fwy estynedig ac felly bydd angen gwneud gwaith ychwanegol.
  • Bydd awdurdodau lleol o dan lawer o bwysau ar ôl yr etholiadau wrth iddynt sefydlu aelodau newydd. Pwy sy’n gyfrifol am lunio cynlluniau buddsoddi, ac a fydd angen un ar bob awdurdod lleol yn ogystal â chynllun ar lefel ranbarthol? Atebodd TP y bydd awdurdodau lleol yn cydweithio er mwyn nodi awdurdod lleol a fydd wedyn yn gyfrifol am arwain y gwaith o wneud trefniadau ac ymdrin â’r cyllid. Yn yr un modd, mater i’r awdurdodau lleol fydd pennu eu trefniadau llywodraethu eu hunain o ran y Gronfa Ffyniant Gyffredin, gan gynnwys rôl cyd-bwyllgorau corfforedig. Ychwanegodd PR y bydd angen i gynlluniau buddsoddi fod yn gyson â chynlluniau sydd eisoes ar waith o fewn eu rhanbarthau, ond y dylid eu llunio’n ofalus fel nad yw’r cynlluniau ehangach hynny yn dod o dan trefniadau craffu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin – mewn modd tebyg i’r ffordd yr adeiladodd rhaglenni’r UE ar gynlluniau a blaenoriaethau cyfredol i ddisgrifio deilliannau a oedd yn benodol i’r cronfeydd hynny.
  • Pa gyllid arall y gellir manteisio arno ochr yn ochr â’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, yn enwedig ym maes arloesi? Yng nghyd-destun amgylchedd cyllido newidiol, mae sefyllfa gymysglyd ym maes ymchwil ac arloesi yn peri risg i’r sector addysg uwch, a oedd yn arfer defnyddio symiau sylweddol o gyllid o’r UE i helpu i ysgogi arloesi ym maes busnes. Ymatebodd TP nad oes unrhyw ofyniad i sicrhau cyllid cyfatebol o dan y Gronfa Ffyniant Gyffredin, er yr anogir gwneud hynny, ac y byddai awdurdodau lleol yn gweithio i sicrhau sefyllfa gydlynol.
  • Mae problemau o ran gallu awdurdodau lleol i fynd i’r afael â’r her hon yn yr amser sydd ar gael, yn enwedig o gofio’r anawsterau y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd wrth recriwtio staff newydd. Ni fydd yr amserlen gyllido’n ei gwneud yn bosibl sicrhau bod lefel ddigonol o adnoddau i ddiwallu anghenion prosiectau newydd cyn y bydd angen cyflwyno’r cynlluniau buddsoddi, ac felly croesewir cymorth gan bartneriaid gyda hyn.
  • Byddai’n synhwyrol cysylltu’r Gronfa Ffyniant Gyffredin â’r pedair Bargen Twf yn y rhanbarthau er mwyn creu màs critigol drwy gysylltu gweithgareddau â’i gilydd. A allai’r Gronfa Ffyniant Gyffredinol – fel Cronfeydd Strwythurol yr UE gynt – peri her wrth wneud hyn, a hynny o safbwynt gofyniad i ddangos cysylltiad clir rhwng mewnbwn a chanlyniad? Nododd TP nad yw Llywodraeth Cymru, o’r trafodaethau mae wedi’u cael â CLlLC, yn ceisio creu waliau artiffisial; ond mae’n debygol y bydd eisiau gweld y cysylltiad hwn ac, felly, er y bydd awdurdodau lleol yn gallu nodi cysylltiadau rhwng mewnbynnau ac allbynnau prosiectau, bydd y gofynion o ran monitro a gwerthuso wedyn yn anodd eu cyflawni.
  • Ychwanegodd PR, o ganlyniad i drafodaethau â swyddogion Llywodraeth y DU, fod ganddynt, yn ôl pob golwg, lawer o waith meddwl i’w wneud o hyd ynglŷn â monitro a gwerthuso, er bod adrodd hanes yr hyn mae pob rhanbarth wedi’i gyflawni gyda’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn rhywbeth y bydd angen iddynt ei wneud. Cadarnhaodd PR hefyd y byddai’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn gyfrifol am graffu ar y Gronfa Ffyniant Gyffredinol ar lefel y DU, ond bydd Archwilio Cymru’n gyfrifol am graffu ar ddefnydd awdurdodau lleol Cymru o arian y Gronfa Ffyniant Gyffredinol; mater i’r awdurdodau archwilio fydd penderfynu a ydynt yn dymuno cydlynu eu gwaith ar draws y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

5. UFA a sylwadau i gloi

Caiff y symposiwm ar gydweithio economaidd ar draws Môr Iwerddon ei gynnal ar 8 Mehefin, sy’n rhan o’r gwaith o ddatblygu elfennau rhyngwladol y Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ynghyd â’r elfennau ohono sy’n ymwneud â phob rhan o’r DU (Agile Cymru). Gwahoddwyd aelodau i ymuno â thrafodaeth ar y pynciau hyn y tu allan i’r cyfarfod Fforwm hwn.

Diolchodd y Cadeirydd i’r aelodau am eu sylwadau, gan gydnabod y gwaith a’r cydweithio sylweddol a fydd eu hangen dros yr ychydig fisoedd nesaf er mwyn rhoi’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar waith. Dywedodd y bydd nodyn i’r dyddiadur ar gyfer y cyfarfod nesaf yn cael ei gyhoeddi dros y misoedd nesaf, er mwyn trafod y cynnydd a wnaed.

Atodiad A: rhestr o mynychwyr

Cadeirydd

Huw Irranca-Davies AS

Aelodau

Sefydliad

Enw

Rhwydwaith Gwledig Cymru

Eirlys Lloyd, Cadeirydd

Grahame Guilford and Company Ltd

Grahame Guilford

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

Harriet Barnes, Cyfarwyddwr Polisi a Chyllido

Cyfoeth Naturiol Cymru

Alan Hunt, Uwch Gynghorydd Arbenigol

Prifysgol Caerdydd

Kevin Morgan, Athro Llywodraethu a Datblygu, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

(CLlLC)

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy

Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm – Ewrop ac Adfywio

Prifysgolion Cymru

Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr

Ffederasiwn Busnesau Hunangyflogedig a Bach Cymru

 

Ashley Rogers, Cyfarwyddwr, Gill and Shaw

 

Claire Miles, Rheolwr Ymgysylltu Rhanbarthol Canolbarth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion

Colegau Cymru

Lisa Thomas, Pennaeth Coleg Merthyr Tudful

Partneriaeth y Trydydd Sector

Matt Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Siambrau Cymru

Oliver Carpenter, Swyddog Gweithredol Polisi

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol

Yr Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth Ysgol Fusnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd

Banc Datblygu Cymru

Rob Hunter, Pennaeth Strategaeth

TUC Cymru

Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru

Rosemarie Harris, Arweinydd, Cyngor Sir Powys

Mynychwyr o Lywodraeth Cymru

Enw

Swydd ac adran

Helen Minnice-Smith

Newid Hinsawdd a Materion Gwledig – Cynghorydd Polisi, Amaethyddiaeth a Newid Hinsawdd

David Rosser

Yr Economi, y Trysorlys, a’r Cyfansoddiad (ETC) – Prif Swyddog Rhanbarthol (De)

Claire McDonald

ETC – Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Economaidd

Duncan Hamer

ETC – Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Busnes a Rhanbarthau

Sioned Evans

ETC – Cyfarwyddwr, Busnes a Rhanbarthau

Rachel Garside-Jones

Swyddfa’r Prif Weinidog – Dirprwy Gyfarwyddwr y Cytundeb Cydweithio

Huw Morris

Yr Adran Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes – Cyfarwyddwr Grŵp

Peter Ryland

WEFO – Prif Swyddog Gweithredol

Mike Richards

WEFO – Rheolwr Cyfathrebu

Alison Sandford

WEFO – Pennaeth Gweithio mewn Partneriaeth

Geraint Green

WEFO – Pennaeth Rheoli Rhaglenni (ESF ac ETC)

Thomas Brown

WEFO – Uwch-swyddog Polisi (Polisi Rhanbarthol)