Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso

Croesawodd Tom Smithson (TS) yr aelodau, gan nodi nad yw Huw Irranca-Davies AS yn cadeirio'r Fforwm Strategol mwyach ar ôl cael ei benodi'n Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn Llywodraeth Cymru. 

Esboniodd TS y byddai'n gweithredu fel Cadeirydd Dros Dro nes bod y Prif Weinidog yn dewis Cadeirydd annibynnol gan fod maes polisi buddsoddi rhanbarthol ar ôl gadael yr UE bellach wedi cael ei symud i is-adran Strategaeth Economaidd a Rheoleiddio Llywodraeth Cymru wrth i WEFO ddechrau dirwyn i ben. 

Nododd TS hefyd, yn sgil ad-drefnu Cabinet Llywodraeth Cymru, fod buddsoddi rhanbarthol bellach yn dod o dan bortffolio Jeremy Miles fel Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg. 

Croesawodd TS Maria Varinia Michalun (MVM) ac Alexis Durand (AD) o'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (y sefydliad) i'r cyfarfod, gan nodi bod ei brosiect ar fin dod i ben. Diolchodd i'r aelodau unwaith eto am eu cyfranogiad a'u cyfraniad i'r gwaith. 

Diolchodd TS hefyd i gydweithwyr llywodraeth leol am ddod i'r cyfarfod i roi diweddariadau rhanbarthol ar hynt eu gwaith ar weithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yng Nghymru.

Cymeradwywyd cofnodion drafft y cyfarfod ym mis Tachwedd gan yr aelodau i'w cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. 

2. Diweddariad ar brosiect y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad

Nododd TS y byddai adroddiad y sefydliad Regional Governance and Public Investment in Wales, Moving Forward Together yn cael ei gyhoeddi ar 16 Ebrill. 

Diolchodd i MVM a'r sefydliad, gan nodi  y bydd yr adroddiad hwn, ynghyd ag adroddiad cyntaf y sefydliad a gyhoeddwyd yn 2020, a'r gwersi a ddysgwyd o gronfeydd yr UE, dulliau buddsoddi presennol a mentrau eraill yn bwydo i mewn i ddulliau datblygu rhanbarthol yng Nghymru yn y blynyddoedd sydd i ddod. 

Diolchodd MVM i'r aelodau am gymryd rhan yn y prosiect, gan grynhoi argymhellion allweddol adroddiad y sefydliad yn 2020: 

  • Sicrhau dull gweithredu strategol hirdymor ynghyd â strategaeth datblygu rhanbarthol yn seiliedig ar weledigaeth ar gyfer yr hirdymor
  • Gwella trefniadau llywodraethu datblygu rhanbarthol
  • Meithrin gallu cenedlaethol ac is-genedlaethol

Amlinellodd MVM fod yr adroddiad newydd yn ffrwyth nifer o weithgareddau, gan gynnwys: cyfweliadau â grwpiau ffocws, mapio strategaethau, gweithdai ac arolygon pennu gweledigaeth.

Dywedodd MVM fod y gwaith hwn wedi helpu i gadarnhau tir cyffredin amlwg ar gyfer gweledigaeth datblygu rhanbarthol, gyda sawl barn wahanol ynglŷn â ‘sut y gyflawni'r nod’.

Y pwynt allweddol cyntaf o adroddiad y sefydliad oedd bod angen un strategaeth datblygu rhanbarthol a thîm penodol i gydlynu gweithgarwch datblygu rhanbarthol ar ôl i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) gael ei diddymu. 

Yr ail bwynt allweddol o'r adroddiad oedd bod angen Cyd-bwyllgorau Corfforedig llywodraeth leol cadarn sydd â gwerth ychwanegol a fynegwyd yn glir er mwyn helpu i fod yn sbardun i ddatblygu a chydlynu rhanbarthol. Pwysleisiodd MVM yr angen am rôl gefnogol i Lywodraeth Cymru gyda disgwyliadau clir, ond lle i Gyd-bwyllgorau Corfforedig deilwra camau gweithredu yn ôl amgylchiadau rhanbarthol penodol. 

Nododd MVM hefyd bwysigrwydd cysoni terfynau amser gwaith cynllunio rhanbarthol a lleol er mwyn sicrhau dull gweithredu mwy integredig. 

Trydydd pwynt allweddol yr adroddiad oedd bod angen atgyfnerthu cydberthnasau llywodraethu aml-lefel ar sail egwydorion cyffredin. Argymhellodd MVM lwyfannau deialog newydd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig er mwyn hwyluso prosesau cyfathrebu o ansawdd gwell a meithrin gallu ychwanegol. 

Gorffennodd MVM drwy ddweud bod y sefydliad yn llunio cynlluniau gweithredu terfynol ar y cyd â'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig a phecyn cymorth, ac y byddai adroddiad synthesis y sefydliad yn cael ei gyhoeddi ar 16 Ebrill.

Yn dilyn cyflwyniad MVM, nododd TS, yng nghyd-destun y Genhadaeth Economaidd, fod ‘archwiliadau dwfn’ neu ‘adolygiadau byr eu parhad’ yn cael eu cynllunio, gan gynnwys un ar fuddsoddi rhanbarthol y byddai rhanddeiliaid yn cymryd rhan ynddo. 

Mewn ymateb i'r diweddariad gan y sefydliad, gwnaeth aelodau y sylwadau canlynol: 

  • Mae ymgysylltu rhwng Gweinidogion a'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn newid ac mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn fwy rheolaidd. Bydd mwy o eglurder ar rôl y Cyd-bwyllgorau Corfforedig ym maes datblygu economaidd yn y dyfodol – bydd adroddiad y sefydliad yn helpu i lywio hynny. 
  • Mae'n bwysig iawn bod yn glir ynghylch pa randdeiliaid a lefelau llywodraeth yn cyflawni elfennau gwahanol unrhyw strategaethau newydd. 
  • Mae angen cadarnhau rôl y Cyd-bwyllgorau Corfforedig o ran mynd i'r afael â lleihad yn y niferoedd sy'n cymryd rhan mewn addysg ôl-16. 
  • Mae egluro rolau'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn gam ymlaen. Mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn cyd-fynd â'i gilydd o ran rôl a chwmpas. 
  • Mae problemau sylweddol o ran adnoddau i'w cydnabod cyn y gall Cyd-bwyllgorau Corfforedig gyflawni swyddogaethau ychwanegol. 
  • Mae'n hollbwysig ennyn ymddiriedaeth rynglywodraethol ar bob lefel, gan gynnwys Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Cyd-bwyllgorau Corfforedig ac awdurdodau lleol. 

3. Diweddariad gan lywodraeth leol

Gofynnodd TS i Dylan Griffiths (DG), Paul Relf (PR), Carwyn Jones-Evans (CJE) a Peter Mortimer (PM) roi diweddariad i'r aelodau ar hynt y Gronfa Ffyniant Gyffredin ym mhob un o ranbarthau Cymru. 

Y Canolbarth

Dywedodd CJE fod 162 o brosiectau wedi cael eu cymeradwyo yn y Canolbarth (ar 31 Mawrth) a bod £37.4 miliwn wedi cael ei neilltuo (88% o gyfanswm dyraniad y Canolbarth).

Ymhlith yr heriau allweddol roedd natur gywasgedig cyfnod y rhaglen sydd wedi golygu bod angen cyflawni o fewn dwy flynedd yn hytrach na thair ar ôl yr oedi cyn i Lywodraeth y DU gymeradwyo'r cynllun buddsoddi. 

Ychwanegodd CJE ei bod yn annhebygol y byddai'r sefyllfa o ran unrhyw achosion o ddadneilltuo ariannol yn hysbys tan yr hydref a olygai na fyddai fawr ddim amser i ailddyrannu. 

Er bod y sefyllfa o ran cyllid Lluosi yn gwella, mae awdurdodau lleol yn dal i lobïo dros ychydig o hyblygrwydd i symud rhan o'r cyllid hwn i flaenoriaeth Pobl a Sgiliau.

Nid oes unrhyw geisiadau agored am gyllid yn yr arfaeth oherwydd cyfyngiadau amser cyn cau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin erbyn mis Mawrth 2025. 

Y Gogledd

Dywedodd DG fod 167 o brosiectau wedi cael eu cymeradwyo, sy'n neilltuo 95% o gyfanswm y cyllid a ddyrannwyd i'r rhanbarth. 

Mae'r heriau o ran Lluosi yn parhau ac mae teimlad bod yr elfen hon o'r ddarpariaeth bron yn orlawn erbyn hyn.

Ychwanegodd DG fod awdurdodau lleol yn pwyso ar Lywodraeth y DU am hyblygrwydd ynglŷn â therfynau amser gwario'r Gronfa Ffyniant Gyffredin a'r gallu i symud cyllid Lluosi i flaenoriaethau eraill. 

Y De-orllewin

Dywedodd PR fod ymreolaeth o ran y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn brofiad cadarnhaol i lywodraeth leol a'i bod wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i osgoi dyblygu gweithgareddau.

Mae ymrwymiadau yn y de-orllewin yn mynd rhagddynt yn dda. Mae tua £15 miliwn wedi cael ei ddosbarthu i'r trydydd sector a £6 miliwn i'r sector preifat. 

Ychwanegodd PR y byddai data ehangach ar y ffordd roedd cyllid y Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi cael ei ddosbarthu ar gael cyn hir.

Y De-ddwyrain 

Dywedodd PM fod mwy na 400 o brosiectau gweithredol yn y de-ddwyrain ac ymgysylltu da rhwng sectorau o ran cyflawni prosiectau. 

Ymhlith yr allbynnau hyd yma, mae cymorth wedi cael ei roi i tua 300 o sefydliadau cymunedol a 300 o fusnesau, 400 o egin fusnesau a 2,000 o bobl economaidd anweithgar.   

Mae strategaeth Blwyddyn 3 yn seiliedig ar sicrhau bod cymaint o gyllid â phosibl yn cael ei neilltuo a'i wario er mwyn sicrhau nad yw'r rhanbarth yn colli unrhyw arian. 

Ychwanegodd PM, yn debyg i'r rhanbarthau eraill, fod Lluosi wedi bod yn heriol a bod llywodraeth leol yn dal i ofyn am hyblygrwydd gan Lywodraeth y DU ar y mater hwn. 

4. Unrhyw fater arall

Diolchodd TS i'r aelodau am fod yn bresennol, gan nodi bod yr adborth parhaus gan bob sector yn bwysig er mwyn dysgu gwersi cyn unrhyw gam newydd o fuddsoddi rhanbarthol ar ôl 2025. 

Ni chodwyd unrhyw fusnes arall a dywedodd TS y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal cyn toriad yr haf. 

Atodiad A: rhestr o mynychwyr

Cadeirydd

Tom Smithson, Dirprwy Gyfarwyddwr, Strategaeth Economaidd a Rheoleiddio, Llywodraeth Cymru

Aelodau

Maria Varinia Michalun, Pennaeth Uned ac Alexis Durand, Dadansoddydd Polisi, y Ganolfan Entrepreneuriaeth, BBaChau, Rhanbarthau a Dinasoedd (Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd)

Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr, Prifysgolion Cymru (Addysg Uwch)

Lowri Gwilym, Rheolwr Tîm - Ewrop ac Adfywio (CLlLC)

Rhianne Jones, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol ar Adael yr UE a Rheoli Tir (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Glenn Bowen, Cyfarwyddwr Menter, Cwmpas (Y Trydydd Sector - Menter Gymdeithasol)

Harriett Barnes, Cyfarwyddwr Polisi a Chyllido (Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru)

Matt Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (Partneriaeth y Trydydd Sector)

Eirlys Lloyd, Cadeirydd (Rhwydwaith Gwledig Cymru)

Ashley Rogers, Cyfarwyddwr – Gill and Shaw (Ffederasiwn Hunangyflogedig a Busnesau Bach Cymru) 

Grahame Guilford (Grahame Guilford and Company Ltd)

Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, CBI Cymru (CBI (Busnes))

Rob Hunter, Pennaeth Strategaeth (Banc Datblygu Cymru)

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Uchelgais Gogledd Cymru (Partneriaeth Gogledd Cymru)

Y Cynghorydd James Gibson-Watt, Arweinydd, Cyngor Sir Powys (Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru)

Kevin Morgan, Yr Athro Llywodraethu a Datblygu, Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio (Prifysgol Caerdydd)

Peter Mortimer, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (Llywodraeth Leol)

Carwyn Jones-Evans, Cyngor Sir Ceredigion (Llywodraeth Leol)

Paul Relf, Cyngor Abertawe (Llywodraeth Leol)

Dylan Rhys Griffiths, Cyngor Gwynedd (Llywodraeth Leol)

Mynychwyr o Lywodraeth Cymru

Peter Ryland, WEFO – Prif Swyddog Gweithredol

Duncan Hamer, Busnes a Rhanbarthau – Cyfarwyddwr Gweithrediadau

Geraint Green, WEFO – Pennaeth Rheoli Rhaglenni (Cronfa Gymdeithasol Ewrop,  Cydweithredu Tiriogaethol Ewrop a Cymru Ystwyth)

Alison Sandford, WEFO – Pennaeth Polisi a Gweithio Mewn Partneriaeth 

Mike Richards, WEFO – Rheolwr Cyfathrebu

Claire McDonald, Busnes a Rhanbarthau – Dirprwy Gyfarwyddwr, Polisi Economaidd

Sam Huckle, Partneriaethau Cymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg – Pennaeth Cyflogadwyedd a Sgiliau

Sarah Govier, Trysorlys Cymru – Pennaeth Cysylltiadau Rhynglywodraethol 

Rhys Morris, Busnes a Rhanbarthau – Prif Swyddog Rhanbarthol (Gogledd, Canolbarth a Gorllewin Cymru)

David Rosser, Busnes a Rhanbarthau – Prif Swyddog Rhanbarthol (De)

Janet Owen Jones, Busnes a Rhanbarthau – Pennaeth Entrepreneuriaeth a Busnes Cymru (Strategaeth)

Laurence Smith, Busnes a Rhanbarthau – Uwch-reolwr Cynllunio Rhanbarthol 

Chris Stevens, Llywodraeth Leol – Pennaeth Perfformiad a Llywodraethu Llywodraeth Leol

Ann Watkin, Busnes a Rhanbarthau – Pennaeth Strategaeth, Alinio Gweithrediadau a Chynllunio

Steven McGregor, Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gymraeg – Dirprwy Gyfarwyddwr, Gogledd Cymru