Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso (11:00)

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Fforwm gan nodi y bydd yn rhoi llwyfan i gydgysylltu barn a safbwyntiau rhanddeiliaid mewn ymateb i ddatblygiadau sy'n digwydd o ran y Gronfa Ffyniant Cyffredin (SPF) a'r Gronfa Codi’r Gwastad (LUF).

Ychwanegodd y Cadeirydd fod llythyrau gwahoddiad ffurfiol ar gyfer y Fforwm bellach wedi’u hanfon a gofynnodd i'r Aelodau ymateb erbyn diwedd mis Gorffennaf.

Amlinellodd y Cadeirydd brotocolau gweminar a nododd y byddai cyfle i gael sesiwn holi a thrafod gyda Gweinidog yr Economi yn dilyn ei ddiweddariad am 11:30.

2. Diweddariad Llywodraeth Cymru (11:10)

Gwahoddodd y Cadeirydd Peter Ryland (PR) i roi'r wybodaeth am ddatblygiadau diweddar.

Dywedodd PR nad oedd Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw amcan ynghylch hynt y ceisiadau a oedd wedi’i gwneud i gynllun peilot SFP yr (y Gronfa Adnewyddu Cymunedol [CRF]) a'r LUF. Disgwylid y byddai'r canlyniadau'n cael eu cyhoeddi ar 22 Gorffennaf, ond mae hyn bellach wedi llithro. Roedd natur y broses yn gofyn am ruthro ceisiadau oherwydd dyddiadau cau eithriadol o dynn ar gyfer ceisiadau a gwariant.

Dywedodd PR nad oedd rôl Llywodraeth Cymru o ran y cronfeydd yn glir o hyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod y bydd ymgynghori’n digwydd â hi ar y broses, ond nid yw'r broses wedi'i datblygu eto. Ychwanegodd PR fod y sefyllfa yr un fath i’r Llywodraethau Datganoledig eraill a bod Gweinidogion yr Alban wedi codi materion tebyg.

Dywedodd PR fod Grŵp Rhyngweinidogol o fewn Gweinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Llywodraeth y DU wrthi'n cael ei sefydlu lle gellid codi materion yr SPF a'r LUF. Mae Cylch Gorchwyl drafft y Grŵp hwn yn ffafriol yn yr ystyr bod y gadeiryddiaeth yn cylchdroi ymhlith y llywodraethau datganoledig, ac y bydd modd cytuno ar eitemau’r agenda ar y cyd a chydgynhyrchu papurau. Nid yw dyddiad y cyfarfod cyntaf wedi'i drefnu eto, ond mae Llywodraeth Cymru yn edrych ymlaen at weld sut y bydd y Grŵp hwn yn datblygu. Mae Llywodraeth y DU hefyd yn cynnal trafodaeth bord gron ar 15 Gorffennaf i esbonio eu nodau polisi a'u hymdrechion yng Nghymru.

Ychwanegodd PR fod Cabinet Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i'r Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol er mwyn sicrhau cydlyniant i ddatblygu economaidd rhanbarthol yng Nghymru, a'i fod bob amser wedi rhagweld y byddai iddo swyddogaeth y tu hwnt i’r cronfeydd sy’n olynu cronfeydd yr UE. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda'r OECD i ddatblygu syniadau ymhellach yn y maes hwn.

3. Diweddariad llywodraeth leol (11:20)

Gwahoddodd y Cadeirydd Tim Peppin (TP) o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae llywodraeth leol wedi ymwneud â'r CRF a'r LUF hyd yn hyn.

Dywedodd TP fod CLlLC yn casglu gwybodaeth am sut mae llywodraeth leol wedi ymwneud â'r cronfeydd. O ran y CRF gwnaeth y pwyntiau canlynol:

  • Roedd pob awdurdod lleol wedi gwneud ceisiadau yn dilyn proses leol, a chafwyd amrywiaeth o geisiadau gan wahanol grwpiau a sectorau.
  • Roedd nifer y ceisiadau fesul awdurdod lleol yn amrywio o 4 i dros 30.
  • Yn ôl cyfaddefiad llywodraeth leol ei hun, mae ansawdd y ceisiadau, at ei gilydd, yn anghyson ac yn wael oherwydd terfynau amser anodd a materion capasiti.
  • Nid yw'r cyllid capasiti o £20,000 gan Lywodraeth y DU ar gyfer pob awdurdod lleol ar Restr Flaenoriaethau'r CRF wedi'i dderbyn eto.
  • Roedd llawer o’r ceisiadau yn canolbwyntio ar hyfforddiant, sgiliau, cefnogi mentergarwch, prosiectau gwyrdd a phrosiectau digidol.
  • Mae cydweithio da yn digwydd rhwng rhai awdurdodau lleol, ond mae diffyg cydgysylltu rhanbarthol.
  • Mae rhai awdurdodau lleol wedi gwahodd sectorau eraill i gymryd rhan mewn prosesau asesu ceisiadau.
  • Mae rhai sefydliadau y tu allan i Gymru yn dilyn yr arian ac yn gwneud cais i nifer o awdurdodau lleol.

O ran yr LUF, gwnaeth TP y pwyntiau canlynol:

  • Mae tua hanner yr awdurdodau lleol yng Nghymru wedi cyflwyno ceisiadau.
  • Yn gyffredinol, mae'r awdurdodau lleol sydd wedi gwneud cais wedi cyflwyno nifer fach sy’n gysylltiedig ag etholaethau Seneddol, ac mae’r trefniant hwn yn ychwanegu rhywfaint o gymhlethdod ychwanegol at y broses.
  • Mae llawer o'r ceisiadau'n seiliedig ar adfywio canol trefi ac nid ar yr hyn y byddai awdurdodau lleol yn ei flaenoriaethu fel arfer.
  • Mae'r broses yn gymhleth ac mae gan lawer o awdurdodau lleol broblemau o ran capasiti wrth ymwneud â'r Gronfa.
  • Ar sail trafodaethau CLlLC gyda Llywodraeth y DU, mae dyfalu y bydd yr LUF yn disodli Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ac y bydd SPF yn disodli Cronfa Gymdeithasol Ewrop.
  • Mae CLlLC yn cymryd rhan mewn ymarfer mapio gyda Llywodraeth Cymru ar alinio’r ceisiadau a gyflwynir gyda'r Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru a blaenoriaethau rhanbarthol.
  • Mae'n bwysig bod modd cefnogi prosiectau rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn osgoi'r perygl o gael ‘clytwaith' o ddarpariaeth.  Bydd CLlLC yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y maes hwn.

Yn dilyn diweddariadau gan PR a TP, rhoddodd Matthew Brown (MB) yr wybodaeth ddiweddaraf am brofiad y sector gwirfoddol o ymwneud â chronfeydd y DU hyd yma. Gwnaeth y pwyntiau canlynol:

  • Mae'r sector yn rhwystredig iawn oherwydd dull digyswllt Llywodraeth y DU o ymdrin â'r cronfeydd. Mae cyfleoedd partneriaeth a chydweithio yn mynd yn anodd wedyn.
  • Mae lansiad un o gronfeydd eraill Llywodraeth y DU, y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, a oedd i fod i ddigwydd ddiwedd mis Mehefin, wedi’i ohirio.
  • Mae cyrff y trydydd sector yn gweithio gyda chymheiriaid ledled y DU i gynnal cysondeb a gwella'r potensial ar gyfer ymgysylltu wrth gynllunio a darparu'r cronfeydd.

4.Cylch gorchwyl drafft (11:25)

Cyflwynodd y Cadeirydd Gylch Gorchwyl drafft y Fforwm, gan esbonio mai ei brif ddiben oedd bod yn llwyfan i gydweithio a rhannu safbwyntiau mewn perthynas â chyfleoedd buddsoddi yn y dyfodol.

Cefnogodd yr Aelodau sylwadau a wnaed bod y Fforwm yn llwyfan da i ystyried cyfleoedd ac ysgogiadau ehangach o fewn yr amgylchedd rhanbarthol, gan gynnwys cyllid ymchwil ac arloesi, Banc Seilwaith y DU a bondiau.

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelodau am eu sylwadau a nododd fod y Gweinidogion wedi gofyn, o ystyried natur newidiol y datblygiadau, am adolygu’r angen am y Fforwm wrth i'r sefyllfa esblygu erbyn diwedd y flwyddyn. Gofynnodd y Cadeirydd a allai'r Aelodau e-bostio unrhyw sylwadau ar y Cylch Gorchwyl drafft i Lywodraeth Cymru.

5. Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething AS

Cyflwynodd y Cadeirydd y Gweinidog a diolchodd iddo am ddod i'r cyfarfod.

Gwnaeth y Gweinidog y prif bwyntiau canlynol:

  • Mae dull gweithredu Llywodraeth y DU yn siomedig hyd yma. Mae'n golygu llai o lais i Gymru dros lai o arian, a chystadleuaeth ddiangen rhwng awdurdodau lleol. Bydd nifer o ardaloedd yng Nghymru dan anfantais oherwydd y meini prawf blaenoriaethu sy'n cael eu defnyddio.
  • Mae mwy o fiwrocratiaeth yn cael ei chreu a pherygl y bydd y cyllid yn arwain at fuddsoddiadau bach, digyswllt. Mae'r ceisiadau sy'n cael eu gwneud i’r CRF a’r LUF yn dangos hyn.
  • Mae’n bwysig iawn osgoi cystadleuaeth am gyllid rhwng awdurdodau lleol Cymru, a galluogi dull mwy cydweithredol.
  • Mae dull presennol Llywodraeth y DU yn peryglu gwasanaethau allweddol ar gyfer Cymru gyfan megis Busnes Cymru, y Banc Datblygu a'r rhaglen Brentisiaethau.
  • Gobeithir y bydd Llywodraeth y DU yn ystyried y materion hyn, fel y gellir mabwysiadu agwedd fwy pragmataidd at yr agenda ‘codi’r gwastad’.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'r OECD i sicrhau mwy o gydlyniant mewn datblygu economaidd rhanbarthol, ac er gwaethaf y newid yn y tirlun cyllido, mae'n dal yn ymrwymedig i'r Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol fel model ar gyfer ariannu yng Nghymru.

Wrth ymateb i sylwadau'r Gweinidog, gwnaed y pwyntiau canlynol gan yr Aelodau:

  • Effaith bosibl ar ddarpariaeth y trydydd sector o raglenni cyflogadwyedd ac adfywio cymunedol. Mae angen mynediad teg at gyllid ar gyfer pob grŵp, gan nad yw Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU yn darparu cymorth o'r fath, gan ganolbwyntio yn hytrach ar ddarpariaeth cyflogaeth prif ffrwd.
  • Yr angen am ffyrdd ymarferol, dan arweiniad Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod Cymru'n gwneud yn dda. Er enghraifft, sicrhau bod arian cyfatebol ar gael i'r trydydd sector yng Nghymru er mwyn iddynt allu manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd drwy'r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.
  • Byddai swyddogaeth gydgysylltu yn helpu i ddarparu prosiectau strategol yn gyson.
  • Mae diffyg capasiti ar hyn o bryd o fewn llywodraeth leol i fanteisio i’r eithaf ar gronfeydd y DU a’u gweinyddu'n llawn.
  • Mae'r neges bod arian wedi'i "ddatganoli i lywodraeth leol" yn un ffug gan nad yw llywodraeth leol wedi chwarae unrhyw ran yn y gwaith o gynllunio na chynhyrchu'r cronfeydd. Mae llywodraeth leol yn fwy o weinyddwr i Lywodraeth y DU.
  • Pryder y bydd trefniadau cystadleuol Llywodraeth y DU yn tanseilio diwylliant awdurdodau lleol sy'n cydweithio ar ddatblygu economaidd rhanbarthol. Mae'n mynd i fod yn fwyfwy anodd creu cydlyniant mewn system sydd wedi'i chynllunio i fod yn ymrannol.
  • Angen bod yn effro i newidiadau yng nghyllid ymchwil y DU, lle gallai mynediad helpu i lenwi bylchau mewn meysydd eraill.
  • Mae Bargeinion Twf yn derbyn yr egwyddor o weithio'n rhanbarthol. Mae'n bwysig cadw’r Fforwm er mwyn gallu cydweithio a cheisio dylanwadu ar ddyluniad yr SPF yn y tymor hir ar sail fwy rhanbarthol a strategol, a sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled o ran cyllid.
  • Ymholiad am rôl Cyd-bwyllgorau Corfforedig wrth flaenoriaethu a chydweithio ar gynigion buddsoddi yn y dyfodol.

Diolchodd y Gweinidog i’r rhanddeiliaid am eu sylwadau a nododd fod llawer o'r hyn a oedd yn cael ei ddweud gan yr Aelodau yn adlewyrchu pryderon Gweinidogion Cymru am gronfeydd y DU. Gwnaeth y sylwadau canlynol i gloi:

  • Mae Llywodraeth Cymru yn adolygu ei chynllun cyflogadwyedd mewn ymateb i newidiadau yn y darlun o ran darpariaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Nid yw'r DWP yn cefnogi'r unigolion mwyaf agored i niwed neu anoddach eu cyrraedd, felly bydd bylchau'n dod i'r amlwg.
  • Nid oes gan Lywodraeth y DU fawr o brofiad o ddatganoli yn y maes penodol hwn. Rydym yn awyddus i gael sgyrsiau pragmatig, ond mae'r sefyllfa o ran yr SPF yn wrthdrawiadol ac yn rhwystriadol iawn, heb unrhyw eglurder gan Lywodraeth y DU.
  •  Cynlluniwyd 'Cynllun i Gymru' Llywodraeth y DU heb unrhyw drafodaeth gyda Llywodraeth Cymru. Mae'n bwysig ailbwysleisio manteision dull cydgysylltiedig, fel bod y canlyniadau gorau i Gymru yn cael eu cyflawni.
  • Pryder y bydd Cymru ar ei cholled o gyllid ymchwil, yng ngoleuni'r ddarpariaeth dameidiog; bydd sectorau eraill hefyd y gweld bylchau yn eu cyllid.
  •  Bydd lefel cyfranogiad y Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn cael ei phennu gan strwythurau, ac a yw gwaith rhanbarthol yn cael ei annog ai peidio. Mae'n bwysig bod meini prawf yn cymell cydweithredu rhanbarthol yn gadarnhaol. Mae'r dull gweithredu rhanbarthol yng Nghymru yn ffrwyth ymrwymiad a gwaith caled dros nifer o flynyddoedd, ac mae mewn perygl o gael ei wanhau gan ddull Llywodraeth y DU o ymdrin â'r cronfeydd hyn.

7. Unrhyw fater arall a sylwadau i gloi

Ni chodwyd unrhyw fateer arall gan yr Aelodau.

Mae'r cyfarfod nesaf yn debygol o gael ei gynnal ym mis Medi. Trefnir cyfarfodydd yn y dyfodol i gyd-fynd â datblygiadau allweddol, gan gynnwys cyhoeddi ceisiadau llwyddiannus, cyhoeddi'r SPF hirdymor ac ati. Bydd nodyn dyddiadur yn cael ei anfon at yr Aelodau pan fydd dyddiad nesaf y cyfarfod yn cael ei gadarnhau.

Atodiad A: rhestr o mynychwyr

Cadeirydd

Huw Irranca-Davies AS

Aelodau

Sefydliad

Enw

CBI Cymru

Nick Speed, Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus, BT

Prifysgolion Cymru

Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr

Colegau Cymru

Lisa Thomas, Pennaeth Coleg Merthyr Tudful

Banc Datblygu Cymru

Rob Hunter, Pennaeth Strategaeth

Partneriaeth De-ddwyrain Cymru

Kellie Beirne, Prif Weithredwr Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru

Ellen ap Gwynn, Arweinydd Cyngor Ceredigion

Carwyn Jones-Evans, Rheolwr Twf a Datblygiadau Mawr, Cyngor Sir Ceredigion

Y Trydydd Sector (Menter Gymdeithasol)

Derek Walker, Prif Weithredwr, Canolfan Cydweithredol Cymru

Rhwydwaith Gwledig Cymru

Eirlys Lloyd, Rheolwr Partneriaethau Cymunedol/Canolfan Bwyd Cymru, Cyngor Ceredigion

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Tim Peppin, Cyfarwyddwr Adfywio a Datblygu Cynaliadwy

Siambrau Masnach

Molly Baker, Swyddog Gweithredol Ymchwil a Marchnata

Ffederasiwn Busnesau Hunangyflogedig a Bach Cymru

Llŷr ap Gareth, Pennaeth Polisi

Grahame Guilford and Company Ltd

Grahame Guilford

Partneriaeth y Trydydd Sector

Matthew Brown, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Prifysgol Caerdydd

Kevin Morgan, Athro Llywodraethiant a Datblygu, Yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio

Partneriaeth Gogledd Cymru

Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru

Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru

David Blaney, Prif Weithredwr

Mynychwyr o Lywodraeth Cymru

Enw

Swydd ac adran

Peter Ryland

Prif Weithredwr, WEFO

Sioned Evans

Cyfarwyddwr – Busnes a Rhanbarthau, yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

David Rosser

Prif Swyddog Rhanbarthol – y De, Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Huw Morris

Cyfarwyddwr Grŵp – SHELL, Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Gwenllian Roberts

Prif Swyddog Rhanbarthol – y Gogledd, Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Duncan Hamer

Dirprwy Gyfarwyddwr – Busnes, Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Alex Bevan

Cynghorydd Arbennig

Ann Watkin

Pennaeth Alinio Strategol, Gweithrediadau a Chynllunio – Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Alison Sandford

Pennaeth Gweithio mewn Partneriaeth, WEFO

Anton Orzel

Pennaeth Polisi Buddsoddi Rhanbarthol, WEFO

Sheilah Seymour

Pennaeth Ymchwil a Dadansoddi, WEFO

Mike Richards

Rheolwr Cyfathrebu, WEFO

Geraint Green

Pennaeth Rheoli Rhaglenni (ESF ac ETC), WEFO

Tracy Welland

Pennaeth Gweithredu Strategol, WEFO