Cyfarfod y Fforwm Iechyd a Diogelwch: 28 Ionawr 2021
Crynodeb o’r penderfyniadau a’r camau gweithredu.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
1. Croeso a chyflwyniadau
Cytunwyd ar gofnodion a chamau gweithredu y cyfarfod diwethaf.
2. Y Rhaglen Frechu
Cafodd yr aelodau gyflwyniad am y Rhaglen Frechu gan swyddogion Llywodraeth Cymru. Trafododd yr aelodau y syniad o gael set gyffredin o egwyddorion cenedlaethol i sicrhau dull gweithredu cyson.
3. Profion Cyflogwyr / Gweithlu
Cafodd yr aelodau gyflwyniad ar ymagwedd Llywodraeth Cymru o ran profi’r gweithlu. Cafwyd trafodaeth am gynllun peilot, pecynnau profi ar gyfer y sector bwyd a 'Rheolau Sylfaenol' ar brofi'r gweithlu.
4. Rheoli COVID-19 yn y Gweithle
Cafodd yr aelodau gyflwyniad ar reoli COVID-19 yn y gweithle. Trafodwyd sut y gellid hyrwyddo Cardiau Gweithredu Busnes a'u defnyddio i arwain cyflogwyr.
5. TUC Cymru: data arolwg
Cafodd yr aelodau gyflwyniad gan TUC Cymru ar ddata diweddaraf yr arolwg iechyd a diogelwch.
6. Dangosfwrdd a gweithgarwch y dyfodol
Cyflwynodd y Cadeirydd y dangosfwrdd data allweddol, yn cynnwys data ar arolygu, ymweliadau a gweithgarwch gorfodi, a rannwyd cyn y cyfarfod. Yn unol â phenderfyniad y Fforwm yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr i gynnal cyfarfodydd yn llai aml ond eu bod yn fwy strategol, cytunwyd y byddai'r cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal ym mis Mawrth.