Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso a chyflwyniadau

Amlinellodd y cadeirydd ei nodau a’i amcanion ar gyfer y fforwm.

2. Cylch gorchwyl

Trafodwyd y Cylch Gorchwyl a chytunwyd arno. Pwysleisiodd yr aelodau hefyd bwysigrwydd rhannu gwybodaeth.

3. Ardaloedd lle mae risg uchel o drosglwyddo COVID-19

Derbyniodd a thrafododd yr aelodau gyflwyniad ar y ffactorau risg sy'n sail i drosglwyddo COVID-19 a'r sectorau lle mae’r risgiau o drosglwyddo COVID-19 yn uchel.

4. Gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig COVID-19 a chyfnewid gwybodaeth

Trafododd yr aelodau y gwersi a ddysgwyd hyd yma wrth ymdrin â throsglwyddo COVID-19 yn y gweithle. Rhoddodd y Cadeirydd grynodeb o'r rhain.

5. Ffocws y cyfarfod nesaf a chloi’r cyfarfod

Cytunwyd y byddai'r fforwm yn cyfarfod eto ym mis Hydref ac y byddai'r drafodaeth honno'n cynnwys awgrymiadau ynghylch gwybodaeth neu ddata y gallai’r partneriaid eu rhannu.