Neidio i'r prif gynnwy

1. Croeso a chyflwyniadau

Cyfeiriodd y Cadeirydd yn ôl at gyfarfod mis Medi a phwysleisiodd mor bwysig oedd parhau i weithredu i sicrhau bod gweithleoedd yn ddiogel i weithwyr, cwsmeriaid ac ymwelwyr.

2. Gweithgarwch gorfodi ac arolygu

Amlinellodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r awdurdodau lleol eu dull gweithredu o ran cydymffurfio a gorfodi, gan gynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am eu gweithgarwch o ran ymweliadau, arolygu a gorfodi. Trafodwyd sut y gallai aelodau'r fforwm feithrin dealltwriaeth gyffredin o reoliadau COVID-19.

3. Gwersi a ddysgwyd am drosglwyddo COVID-19 mewn gweithleoedd

Trafododd aelodau'r fforwm bapur am y gwersi a ddysgwyd ac fe wnaethant roi eu barn ar ganllawiau ar brofi gweithwyr yn y gweithle.

4. Ffocws y cyfarfod nesaf a chloi’r cyfarfod

Cytunodd y Fforwm i gyfarfod eto ym mis Tachwedd a gwahoddwyd yr aelodau i gynnig awgrymiadau am bynciau ar gyfer yr agenda.