Neidio i'r prif gynnwy

Cynhaliodd y Comisiwn Gwaith Teg ei gyfarfod cyntaf ar 10 Awst 2018.

Yn y cyfarfod hwnnw nodwyd mai'r dyddiad cau ar gyfer adrodd yw mis Mawrth 2019. Cytunwyd ar amlinelliad o amserlen ar gyfer y Comisiwn ac amserlen ar gyfer cyfarfodydd y Comisiwn cyfan.

Ystyriodd y Comisiwn y Cylch Gorchwyl yn fanwl, gan nodi cwmpas a ffiniau ei waith. Trafodwyd cyfres o bapurau cychwynnol. Roedd y rhain yn cynnwys crynodeb o waith ac allbwn y Bwrdd Gwaith Teg ac amlinelliad o bolisi a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru sy'n berthnasol i'r agenda Gwaith Teg.

Trafododd aelodau amrywiaeth o faterion ymarferol, gan gynnwys:

  • Rôl y Cynghorydd Arbenigol Annibynnol.
  • Dull eang o gysylltu â rhanddeiliaid.
  • Yr angen am bresenoldeb ar y we a chyfeiriad e-bost ar gyfer y Comisiwn.

Cynhaliwyd trafodaeth ragarweiniol, eang ymysg yr aelodau ynghylch ystod o faterion sylweddol:

  • Rhai o elfennau ac egwyddorion allweddol Gwaith Teg, er enghraifft mewn perthynas â thal, barn a chynrychiolaeth gweithwyr, diogelwch, sgiliau, camu ymlaen yn eich gyrfa, cydraddoldeb.
  • Cynlluniau posibl ar gyfer hyrwyddo ac annog Gwaith Teg.
  • Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar hyn o bryd mewn perthynas â Gwaith Teg, gan gynnwys polisïau a deddfwriaeth berthnasol. Roedd hyn yn cynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn ogystal â gweithgarwch caffael, datblygu economaidd, a gofal cymdeithasol.
  • Mae amryfal ffyrdd o ddiffinio a darparu 'Gwaith Teg' mewn rhannau eraill o'r DU ac yn ehangach.
  • Dulliau deddfwriaethol

Rhoddodd y Comisiwn bwyslais ar ddatblygu diffiniad ymarferol o 'Waith Teg' fel un o allbynnau cynnar y Comisiwn y gellid holi yn ei gylch yn y cais am dystiolaeth. Cytunwyd y dylid cyflwyno Cais am Dystiolaeth ym mis Hydref/Tachwedd. Byddai hyn yn seiliedig ar gyfres o gwestiynau a fydd yn cael eu drafftio cyn y cyfarfod nesaf a gynhelir ar 2 Hydref 2018.